Blwyddyn i fynd tan y bydd Tollau Hafren yn cael eu diddymu
Alun Cairns yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu economi Cymru o dros 拢100m y flwyddyn

Severn Crossing
Dim ond blwyddyn sydd i fynd nes bydd gyrwyr yn cael budd o deithio am ddim i Gymru ar draws Pontydd Hafren diolch i addewid Llywodraeth y DU i ddiddymu鈥檙 tollau erbyn 31 Rhagfyr 2018.
Bydd y penderfyniad yn cryfhau鈥檙 cysylltiadau economaidd a rhagolygon y coridor naturiol rhwng De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan roi hwb i economi Cymru o tua 拢100m y flwyddyn, ac arwain at filoedd o bunnoedd o arbedion blynyddol i yrwyr ceir rheolaidd.
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi gwahodd partneriaid a busnesau lleol o Dde Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr i ddod i鈥檙 gynhadledd fusnes trawsffiniol gyntaf yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr, mewn ymdrech i ystyried sut y gellir cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng y ddwy economi cyn cael gwared ar y tollau.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae lefel uchel tollau Pontydd Hafren wedi bod yn rhwystr i dwf economaidd Cymru am dros hanner canrif, mewn llai na blwyddyn byddwn yn gweld yr ysgogiad economaidd mwyaf i Dde Cymru a鈥檙 Cymoedd ers degawdau.
Mae fy mhenderfyniad i ddiddymu鈥檙 tollau gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr yng nghabinet Llywodraeth y DU yn hwb i deithwyr, twristiaid a pherchnogion busnesau fel ei gilydd a fydd yn gweld arian ychwanegol yn eu pocedi wrth iddynt fynd yn 么l ac ymlaen o Gymru.
Bydd cael gwared ar y tollau yn cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng y ddwy economi yn ogystal 芒 chymunedau De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan greu coridor twf yn ymestyn o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste.
Bydd cael gwared ar y tollau yn cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng y ddwy economi yn ogystal 芒 chymunedau De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan greu coridor twf yn ymestyn o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste.
Yn dilyn dychwelyd Pontydd Hafren i berchnogaeth gyhoeddus ar 8 Ionawr 2018, bydd y tollau yn cael eu lleihau i bob gyrrwr yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyllideb 2015.
Dyma fydd y tro cyntaf i鈥檙 tollau leihau ers eu cyflwyno ym 1966. Ni fydd y cynnydd blynyddol arferol o ran chwyddiant (a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2018) yn berthnasol ychwaith.
O 8 Ionawr 2018 ymlaen:
- Bydd gyrwyr ceir yn talu 拢5.60 yn lle 拢6.70.
- Bydd gyrwyr bysiau bach neu faniau yn talu 拢11.20, i lawr o 拢13.40
- Bydd gyrwyr lor茂au a bysiau mawr yn talu 拢16.70 yn lle 拢20
Nodiadau i olygyddion:
-
Mae disgwyl i鈥檙 penderfyniad i ddiddymu roi budd o thua 拢100m y flwyddyn i economi Cymru yn 么l Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012
-
Bydd gyrwyr ceir rheolaidd yn arbed dros 拢1,400 y flwyddyn yn seiliedig ar gost tagio misol o 拢117.92 dros 12 mis.
-
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal y gynhadledd fusnes drawsffiniol gyntaf ar gyfer Twf Hafren ar 22 Ionawr 2018 yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor. Gall busnesau gofrestru i ddod i鈥檙 gynhadledd drwy .
-
Ar 13 Ionawr, lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad yn nodi cyfres o gynigion gyda鈥檙 nod o ddarparu gwelliannau i鈥檙 Pontydd. Bu鈥檙 ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos tan 10 Mawrth. Gellir dod o hyd i鈥檙 ymateb i鈥檙 ymgynghoriad yma
-
Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu ym 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.
-
Pan ddaw鈥檙 pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.
-
Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio鈥檙 bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac ym 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.
-
Ym 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau鈥檔 cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu鈥檙 ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu鈥檙 bont gyntaf. Ym 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (鈥淪RC鈥�). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.