Ail-fuddsoddwyd dros 拢10 miliwn mewn cymunedau yng Nghymru drwy raglen Adfywio Ymddiriedolaethau y rheoleiddiwr
Mae Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, yn ymweld ag elusen yn ne Cymru wrth i raglen rheoleiddiwr daro carreg filltir gwerth miliynau o bunnoedd.

[Left to right] Charity Commission CEO David Holdsworth; Chair of Trustees at Dinas Powys Voluntary Concern John Fanshaw, and Trustee Brian West.
Mae rheoleiddiwr elusennau Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi bod dros 拢10 miliwn o gronfeydd elusennol nas defnyddiwyd wedi cael ei adfer i gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Mae鈥檙 rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn sicrhau bod arian elusennol sy鈥檔 segur yn cael ei wario ac yn gwneud gwahaniaeth fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae鈥檙 rhaglen yn helpu elusennau drwy gefnogi a chynghori ymddiriedolwyr sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd gwario eu hincwm, recriwtio ymddiriedolwyr newydd, nodi buddiolwyr, neu ddod o hyd i amser i redeg yr elusen.
Mae achosion da, sefydliadau cymunedol ac elusennau ledled Cymru wedi derbyn cyfanswm o 拢10,361,324 ers i鈥檙 rhaglen ddechrau yn 2021. Gyda chymorth y rhaglen, mae 72 o elusennau a oedd yn segur bellach yn gweithredu eto.
Pan na all elusen barhau, ond mae ganddi gronfeydd sydd heb eu gwario, mae鈥檙 rheoleiddiwr yn helpu ymddiriedolwyr i nodi elusen neu elusennau sydd 芒 dibenion tebyg a all ddefnyddio鈥檙 arian fel y bwriadwyd. Gall y rhai na allant ddod o hyd i elusen addas drosglwyddo arian i Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae鈥檙 rheoleiddiwr wedi goruchwylio trosglwyddo cyfanswm o 拢1,379,361 i Sefydliad Cymunedol Cymru.
Wrth nodi鈥檙 garreg filltir hon, ymwelodd Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, 芒 Dinas Powys Voluntary Concern 鈥� derbynnydd arian gan y Sefydliad Cymunedol. Ers dros 50 mlynedd, mae鈥檙 elusen wedi gweithio gyda鈥檙 gymuned leol i alluogi鈥檙 henoed a phobl 芒 symudedd cyfyngedig i gynnal eu hannibyniaeth, gan ddarparu gwasanaethau megis cludiant i鈥檙 ganolfan feddygol leol, gwasanaethau lles a rhaglen cinio cawl. Ar 么l derbyn grant, mae鈥檙 elusen wedi ehangu ei gardd les.
Dywedodd David Holdsworth, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau: 聽
Mae鈥檔 hollbwysig bod pob ceiniog o arian elusennol yn mynd lle y bwriadwyd. Rwy鈥檔 falch iawn o fod yng Nghymru eto, i weld effaith ein rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau fy hun. Rydym bellach wedi dosbarthu dros 拢10 miliwn o gronfeydd segur , a thrwy barhau i weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru ac ymddiriedolwyr, rwy鈥檔 hyderus y gallwn roi hwb pellach i achosion da ledled Cymru. Rwy鈥檔 annog unrhyw un sy鈥檔 gweithio gydag elusen sydd wedi mynd yn anweithgar i gysylltu 芒 ni.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
Yn y cyfnod economaidd heriol hwn, mae elusennau ac ymddiriedolaethau bach yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddiwallu anghenion brys cymunedau ledled Cymru.
Rydym yn falch o fod wedi cefnogi鈥檙 Comisiwn Elusennau, trwy鈥檙 rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, i ddatgloi 拢10 miliwn o gronfeydd elusennol nas defnyddiwyd i helpu i gefnogi pobl ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod ymddiriedolwyr yn pryderu am gronfeydd anweithredol, ac rydym yma i鈥檞 cefnogi i addasu dibenion elusennol neu ryddhau鈥檙 cronfeydd hyn i gymunedau mewn angen.
O ganlyniad i鈥檙 cymorth hwn, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi gallu buddsoddi mewn mwy o gymunedau Cymreig fel eu bod yn parhau i elwa, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, o鈥檙 cronfeydd hyn.
Nodiadau i Olygyddion:
- Y Comisiwn Elusennau yw鈥檙 adran annibynnol, anweinidogol o鈥檙 llywodraeth sy鈥檔 cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei uchelgais yw bod yn rheoleiddiwr arbenigol sy鈥檔 deg, yn gytbwys ac yn annibynnol fel y gall elusennau ffynnu. Bydd yr uchelgais hwn yn helpu i greu a chynnal amgylchedd lle mae elusennau鈥檔 adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd ymhellach, ac yn y pen draw yn cyflawni eu r么l hanfodol o ran gwella bywydau a chryfhau cymdeithas. Dysgwch ragor yn: Amdanom Ni - Y Comisiwn Elusennau (www.gov.uk).
- Mae dros 拢1.2m wedi cael ei adfywio yn Abertawe, bron i 拢900,000 yng Nghaerdydd a bron i 拢75,000 yn Sir Gaerfyrddin. Mae鈥檙 swm mwyaf a adferwyd hyd yma yng ngogledd Cymru, yn dod i gyfanswm o dros 拢1.9m, gyda鈥檙 canolbarth yn cyrraedd dros 拢1.4m. *Mae鈥檙 ffigurau鈥檔 seiliedig ar ddata cofrestr, felly nid yw hyn yn cynnwys elusennau/cronfeydd nad ydynt yn rhestru rhanbarth penodol o Gymru.
- Manylion cyswllt Adfywio Ymddiriedolaethau: CSrevitalisingtrusts@charitycommission.gov.uk
Press office
Email pressenquiries@charitycommission.gov.uk
Out of hours press office contact number: 07785 748787