Stori newyddion

Teithwyr yn Ne Orllewin Cymru i ffurfio dyfodol gwasanaeth Rheilffordd y Great Western

Cyfle i fynegi eich barn yn nigwyddiadau Llywodraeth y DU yng Nghaerfyrddin ac Abertawe

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

IEP station

Mae teithwyr yn Ne Orllewin Cymru ar y ffordd i gael siwrneiau gwell ar y rheilffordd, wrth i Lywodraeth y DU wahodd sylwadau gan bobl yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ar sut wasanaeth yr hoffent ei gael gan reilffordd y Great Western yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol Rhyddfraint y Great Western ac mae鈥檔 gwahodd barn teithwyr, busnesau a chynghorau lleol mewn dau ddigwyddiad ymgynghori ar 13 Chwefror 2018.

  • Yr Atriwm, Ymddiriedolaeth Datblygu Gorseinon, Gorseinon, Abertawe - 2pm 鈥� 4pm
  • Ystafell Teifi, Canolfan Halliwell, Campws Caerfyrddin Prifysgol y Drindod Dewi Sant - 6pm 鈥� 8pm

Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar uwchraddio gwasanaethau i deithwyr ar y Great Western, sy鈥檔 cludo 100 miliwn o deithwyr y flwyddyn, ac sy鈥檔 ymestyn o Lundain i Ddoc Penfro ac o Portsmouth i Gaerwrangon.

Mae teithwyr eisoes yn profi gwelliannau i鈥檞 siwrneiau ledled de Cymru ar drenau deufodd IEP sy鈥檔 cynnwys mwy o seddi ac yn sicrhau siwrnai fwy cyfforddus. Bydd newidiadau i鈥檙 amserlen yn golygu teithiau cyflymach a mwy mynych ar lawer o linellau erbyn 2019.

Er mwyn sicrhau bod rhyddfraint nesaf Rheilffordd y Great Western yn cyflawni鈥檙 hyn mae pobl am ei weld, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar bobl i fynd draw i ddigwyddiadau Llywodraeth y DU yng Nghaerfyrddin ac Abertawe i ddweud sut y gellid cynllunio gwasanaethau鈥檙 dyfodol yn well i ateb gofynion teithwyr yn ne orllewin Cymru.

Meddai Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns:

Mae ein rheilffyrdd yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau gwledig, busnesau ac ymwelwyr ym mhob rhan o dde Cymru. Mae felly鈥檔 gwneud synnwyr y dylai鈥檙 sawl sy鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaethau hyn bob dydd gael llais yn yr ymdrechion i wella鈥檙 gwasanaethau.

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn trafod sut y gallwn roi mwy o hyblygrwydd i鈥檙 bobl broffesiynol sy鈥檔 rhedeg ein rheilffyrdd i arloesi ac i ddod o hyd i鈥檙 atebion gorau ar gyfer teithwyr. Rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ar sut yr hoffech weld hynny鈥檔 gweithio鈥檔 ymarferol a鈥檙 hyn y gellir ei wneud i wella鈥檙 gwasanaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu ymestyn y rhyddfraint ar gyfer gweithredwyr presennol Rheilffordd y Great Western (GWR) tan fis Mawrth 2020 i wneud yn si诺r bod teithwyr yn cael y gwasanaeth gorau posibl tra bydd y gwaith uwchraddio presennol i鈥檙 llinellau鈥檔 cael ei wneud.

A byddwn hefyd yn ymdrechu i gytuno ar delerau 芒 hwy i barhau i weithredu tan 2022, a fydd yn rhoi cyfle i鈥檙 gwelliannau i鈥檙 gwasanaethau gael i setlo鈥檔 iawn cyn cynnal cystadleuaeth ar gyfer rhyddfraint tymor hir newydd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn y rhaglen fwyaf i foderneiddio rheilffyrdd mewn mwy na chanrif. Gan weithio 芒鈥檙 GWR, rydym yn cyflwyno鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf yn y byd rheilffyrdd i rai o reilffyrdd hynaf y byd, gan roi鈥檙 teithwyr yn gyntaf fel y byddant yn elwa ar raglen drawsnewid a fydd yn eu huwchraddio mor gyflym 芒 phosibl.

Bydd buddiannau鈥檙 gwelliannau hyn i鈥檞 gweld ym mhob rhan o ardal y rhyddfraint. Ond wrth i鈥檙 rhyddfraint barhau i dyfu yn y 2020au, rydym am sicrhau bod pob rheilffordd, gorsaf a theithiwr yn parhau鈥檔 ganolog i strategaeth y gweithredwyr trenau. Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn gofyn i deithwyr sut reilffordd yr hoffent ei gweld yn y 2020au a thu hwnt a sut y gall ddiwallu eu hanghenion hwy orau.

顿补飞鈥檙 ymgynghoriad i ben ar 21 Chwefror.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Chwefror 2018