Penodi鈥檙 Athro Brian Morgan i fwrdd rheoleiddiol
Llywodraeth y DU yn penodi aelodau newydd i鈥檙 Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns benodiad yr Athro Brian Morgan i鈥檙 Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol annibynnol (RPC).
Ar hyn o bryd, mae鈥檙 Athro Morgan yn Athro entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol.
Corff annibynnol yw鈥檙 Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol (RPC) a noddir gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sy鈥檔 asesu effaith cynigion rheoleiddio a dadreoleiddio newydd ar fusnesau. Mae鈥檙 Athro Morgan yn ymuno 芒 phedwar penodiad newydd arall i鈥檙 bwrdd - ac un ail-benodiad. Mae gan bob aelod brofiad ac arbenigedd sylweddol er mwyn chwarae rhan allweddol wrth oruchwylio agenda rheoliadau gwell y llywodraeth.
Wrth s么n am benodiad yr Athro Morgan, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae鈥檙 RPC yn gorff sy鈥檔 chwarae rhan mor bwysig wrth ddarparu system wirio gadarn a diduedd yngl欧n 芒 diben ac effeithiau gweithgarwch rheoleiddiol arfaethedig y llywodraeth.
Daw Brian 芒 degawdau o brofiad ac arweinyddiaeth mewn economeg a mentergarwch gydag ef, ac rwy鈥檔 falch iawn ei weld yn cael ei benodi i鈥檙 swydd bwysig hon.
Does dim amheuaeth y bydd yn gweithio鈥檔 effeithiol gyda鈥檌 gyd-aelodau yn eu hymdrechion i wireddu canlyniadau rheoleiddio gwell sy鈥檔 hyrwyddo twf a swyddi, ac yn diogelu buddiannau cymdeithas.
Gwneir penodiadau i鈥檙 RPC gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol yn unol 芒 Chod Ymarfer yr OCPA.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Yr Arglwydd Henley:
Mae鈥檙 Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol wedi鈥檌 gymeradwyo gan fusnesau am y gwaith craffu annibynnol a chadarn y mae鈥檔 ei ddarparu yngl欧n ag effaith rheoleiddio ar fusnesau.
Bydd yr aelodau newydd yn dod ag arbenigedd a phrofiad gwerthfawr i鈥檙 Pwyllgor ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi鈥檙 Llywodraeth i sicrhau bod y dystiolaeth sy鈥檔 sail i lunio polis茂au yn gadarn.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol, Anthony Browne:
Mae鈥檔 wych cael amrywiaeth mor gryf o aelodau newydd yn ymuno 芒鈥檙 RPC, wrth i ni baratoi i adael yr UE. Dyw gwaith yr RPC wrth helpu i sicrhau safonau uchel o ran llunio polis茂au erioed wedi bod yn bwysicach.
Yr aelodau newydd eraill yw:
Laura Cox
Ar hyn o bryd mae Laura Cox yn bartner yn PriceWaterhouseCoopers ac yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith (Cymru a Lloegr) a Chymdeithas Bar America.
Stephen Gibson
Mae gan Stephen Gibson dros 25 mlynedd o brofiad fel economegydd proffesiynol, rheoleiddiwr mewn diwydiannau rheoledig, ac fel ymgynghorydd. Mae hefyd wedi darlithio ar y pwnc ym Mhrifysgolion Birkbeck a City.
Andrew Williams-Fry
Mae Andrew Williams-Fry yn economegydd rheoleiddio a gweithiwr proffesiynol ym maes materion llywodraethol. Mae wedi gweithio mewn sectorau sy鈥檔 cael eu rheoleiddio鈥檔 economaidd, gan gynnwys ynni, d诺r, rheilffyrdd, post, hedfan a gwasanaethau ariannol, ac yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain timau rheoleiddio a materion llywodraethol o fewn y gr诺p Mastercard.
Sheila Drew-Smith OBE
Roedd Sheila Drew-Smith yn aelod o鈥檙 Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Hi yw Cadeirydd y Cynllun Gosod Cymeradwy Cenedlaethol, yn aelod o鈥檙 pwyllgor ar gyfer SafeAgents ac yn ymgynghorydd diogelu i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol.
Yn ogystal 芒鈥檙 pum aelod newydd, mae Jeremy Mayhew wedi鈥檌 ail-benodi i鈥檙 Pwyllgor. Mae wedi gwasanaethu ers 2012 ac mae hefyd yn Aelod o鈥檙 Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol ac Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Cyn hynny, roedd ei brofiad yn bennaf yn y diwydiant cyfryngau a darlledu, yn y BBC ac fel ymgynghorydd.
Mae鈥檙 penodiadau newydd wedi鈥檜 gwneud yn dilyn proses recriwtio agored ac yn unol 芒鈥檙 Cod Llywodraethu Gweinidogol ar Benodiadau Cyhoeddus.
GORFFEN
NODIADAU I OLYGYDDION
Bywgraffiad yr Athro Brian Morgan Mae Brian Morgan yn athro entrepreneuriaeth ac yn gyfarwyddwr canolfan arweinyddiaeth a menter Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ym mis Mawrth 2016 lansiodd y Ganolfan Fenter brosiect Ymchwil dwy flynedd wedi鈥檌 anelu at fapio tueddiadau economi Cymru yn y dyfodol.
Mae Brian yn olrhain ei ddiddordeb mewn economeg a mentergarwch i鈥檞 gyfnod fel myfyriwr a darlithydd yn yr LSE.
Cyn dychwelyd i鈥檙 byd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1997, Brian oedd Prif Economegydd Awdurdod Datblygu Cymru.
Mae wedi gweithio fel uwch ymgynghorydd polisi yng Nghymru (ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru a鈥檙 Cynulliad), ac yn Whitehall (yr adran Masnach a Diwydiant) ac mae wedi gweithio鈥檔 helaeth yn Ewrop (ar gyfer Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a鈥檙 UE).
Mae鈥檔 gyd-sylfaenydd y brand wisgi byd-enwog, Penderyn, ac roedd yn gadeirydd Brecon Carreg.
Yn 2011, roedd yn Gadeirydd panel adolygu annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith trethi busnes ar dwf economaidd.