Rhoi menywod wrth galon economi Cymru
Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Wales Office
O entrepreneuriaid busnes llwyddiannus i鈥檙 rheini sy鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cydnabod cyfraniad pwysig menywod yng Nghymru i鈥檞 cymunedau ac i economi Cymru.
Eleni, bydd Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei hymdrechion ar hyrwyddo Grymuso Menywod yn Economaidd a Chodi Dyheadau Merched gyda golwg ar roi menywod wrth galon twf economaidd y DU.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae blaenoriaethu鈥檙 economi ac arddangos yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael neu sy鈥檔 cael eu cymryd i gefnogi menywod i wireddu eu potensial llawn yn bwysig dros ben, a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i鈥檙 Llywodraeth hon.
Mae menywod yn hollbwysig i lwyddiant busnesau鈥檙 DU. Mae wynebu鈥檙 rhwystrau yn y gweithle sy鈥檔 dal menywod yn 么l yn synnwyr busnes call.
Ond wrth i ni barhau ar hyd y llwybr at adferiad economaidd, mae rhagor eto i鈥檞 wneud. Bydd harneisio talentau menywod yn y gweithle heddiw yn sicrhau bod busnesau鈥檙 DU yn medi manteision hyn yn y dyfodol.
Mae busnesau sy鈥檔 edrych tua鈥檙 dyfodol yn gwybod hyn ac eisoes yn dangos y ffordd drwy weithredu a chydnabod y manteision busnes. Rwyf yn annog busnesau eraill yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl ar gyfer iechyd ein heconomi yn y dyfodol.
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd 芒 chyfrifoldeb portffolio dros gydraddoldeb, y Farwnes Randerson, yn cynnal swper ar gyfer uwch fenywod busnes amlwg yng Nghymru yn Nh欧 Gwydyr. Bydd y digwyddiad yn gyfle i nodi eu cyfraniad at economi Cymru, a鈥檙 camau sy鈥檔 cael eu cymryd gan y Llywodraeth i annog rhagor o fenywod i fyd gwaith a menter.
Bydd y gwesteion yn cynnwys Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru, Connie Parry, Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Hurns Brewing a Cilla Davies OBE, Cadeirydd The Prince鈥檚 Trust Cymru.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Fel sy鈥檔 cael ei ddangos gan y menywod sy鈥檔 ymuno 芒 mi i nodi鈥檙 diwrnod pwysig hwn, mae gan Gymru rai o鈥檙 talentau busnes gorau a disgleiriaf ac mae arnom eisiau grymuso rhagor o fenywod fel y rhain i swyddogaethau uchel eu proffil er mwyn iddynt allu ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc a fydd yn arweinwyr busnes.
Mae hyn yn ymwneud 芒 chreu economi gryfach a chymdeithas decach. Nid oes dim yn fwy effeithiol ar gyfer datblygu economaidd na grymuso menywod. Gall Cymru a dylai Cymru gymryd yr awenau yn y DU ac yn rhyngwladol wrth chwalu鈥檙 nenfwd gwydr hwnnw ym mhob maes - boed hynny鈥檔 wleidyddiaeth, yn fusnes, yn weithgynhyrchu, yn amaethyddiaeth neu鈥檔 gelfyddydau.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn bresennol mewn digwyddiad sy鈥檔 cael ei drefnu gan gangen y Rhyl o鈥檙 Inner Wheel - un o fudiadau gwirfoddol gwasanaeth menywod mwyaf y byd. Bydd y gr诺p yn gwneud cyflwyniad i Wasanaeth Cam-drin Domestig Gogledd Cymru i gydnabod eu gwaith yn helpu menywod sydd mewn perthynas gamdriniol.
Mae鈥檙 Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cyhoeddi heddiw (8 Mawrth) y bydd cynllun yn cael ei gyflwyno mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr o heddiw ymlaen a fydd yn caniat谩u i鈥檙 heddlu ddatgelu manylion am orffennol camdriniol eu partneriaid i unigolion.
Mae 鈥淐yfraith Clare鈥� - y Cynllun Datgelu Trais Domestig - wedi cael ei dylunio i roi gwybodaeth i ddioddefwyr a all eu diogelu o sefyllfa o gam-drin cyn i bethau droi鈥檔 drychineb. Ar 么l cael cais, mae鈥檙 cynllun yn caniat谩u i鈥檙 heddlu ddatgelu gwybodaeth am hanes blaenorol partner o drais domestig neu weithredoedd treisgar.
Mae鈥檔 dilyn cynllun peilot 14 mis o hyd mewn pedair ardal heddlu, gan gynnwys Gwent, a ddarparodd wybodaeth a allai achub bywydau i dros 100 o bobl.
Ychwanegodd David Jones:
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi鈥檙 llwyfan i ailadrodd nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dderbyniol, na chaiff ei ddioddef a bod help a chefnogaeth ar gael i鈥檙 rheini sydd eu hangen.
Mae gan bawb hawl i fyw鈥檔 ddiogel heb ofn ac mae rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i鈥檙 llywodraeth hon.
Roedd Stephen Crabb AS wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu myfyriwr o Ysgol T欧 Ddewi yn Sir Benfro i鈥檞 gysgodi yn ystod ei ddyletswyddau yn y Senedd.
Dywedodd Stephen Crabb:
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn gweithio i gefnogi ac annog cyflogwyr i roi鈥檙 mesurau iawn ar waith i greu gweithleoedd mwy cynhwysol ac i feithrin talent. Wrth i鈥檙 adferiad economaidd barhau, ni allwn fforddio anwybyddu鈥檙 cyfraniad ychwanegol enfawr y gallai menywod ei wneud at ein cymunedau. Mae rhoi鈥檙 cyfleoedd iddynt gael blas ar fyd gwaith er mwyn helpu i gyfrannu at eu dewisiadau ynghylch eu gyrfa yn y dyfodol yn rhan hollbwysig o鈥檙 ymdrech hon.