Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol yn ymweld 芒 Chymru
Ddydd Gwener 2 Rhagfyr, croesawodd Alun Cairns Liam Fox i Gymru. Aeth i ddau i ymweld 芒'r cwmni amddiffyn llwyddiannus Airbus a chwrdd 芒 rhai o arweinwyr busnes Cymru.

Airbus Site Visit
Croesawodd Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Liam Fox, i Gymru. Buont yn ymweld 芒鈥檙 cwmni amddiffyn pwysig, Airbus a chwrdd wedyn ag arweinwyr busnes i drafod y r么l bwysig sydd gan Gymru fel rhan o strategaeth y DU ar gyfer hybu allforion a mewnfuddsoddiad.
Dywedodd Alun Cairns:
Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae economi Cymru mewn sefyllfa gadarn. Mewn meysydd yn amrywio o awyrofod i amaeth a dur i wasanaethau ariannol, mae economi Cymru wedi cael enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth.
Mae Cymru wedi gwella鈥檔 arw o ran allforio, gyda鈥檙 farchnad honno bellach werth 拢12.6 biliwn.
Tra mae Ewrop yn farchnad bwysig i Gymru, mae gwledydd nad ydynt yn yr UE gan gynnwys Singapore, Qatar a Japan i gyd ymysg y 10 cyrchfan uchaf ar gyfer allforion o Gymru, a鈥檙 Unol Daleithiau o hyd yw marchnad fwyaf Cymru.
Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau. Arweinwyr busnes yw鈥檙 arbenigwyr mewn creu cyfoeth a swyddi - rydym yn barod i wneud popeth y gallwn i鈥檞 helpu i lwyddo yn fyd-eang.