Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn canmol r么l y fyddin ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru

Dathliadau'n mynd rhagddynt ar hyd a lled Cymru i nodi Diwrnod blynyddol y Lluoedd Arfog

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Armed Forces Day

Bydd dathliadau鈥檔 mynd rhagddynt ar hyd a lled Cymru heddiw (24 Mehefin) i nodi Diwrnod blynyddol y Lluoedd Arfog, sy鈥檔 cael ei gynnal am y nawfed tro.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno 芒 miloedd o bobl yn nathliadau De Cymru yng Nghaerffili i anrhydeddu gwaith ac ymroddiad ein Milwyr dewr sy鈥檔 gweithio ym mhob cwr o鈥檙 byd.

Bydd Mr Cairns yn darllen yn y Gwasanaeth Awyr Agored traddodiadol o flaen Castell Caerffili, cyn mwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol a cherddoriaeth fyw.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mewn gweithrediadau gartref a thramor, mae dynion a merched y lluoedd arfog yn gweithio i amddiffyn diogelwch, annibyniaeth a buddiannau ein gwlad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Yng Nghymru mae gennym gysylltiad arbennig 芒鈥檔 Lluoedd Arfog ac mae鈥檙 digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i鈥檙 cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a鈥檜 balchder i鈥檔 milwyr, morwyr ac aelodau鈥檙 llu awyr sy鈥檔 aberthu cymaint dros eraill.

Rydym yn hynod ddyledus hefyd i鈥檙 teuluoedd maent yn eu gadael ar 么l, yn ogystal 芒鈥檙 cyn-filwyr presennol a rhai鈥檙 gorffennol sydd wedi ymroi blynyddoedd o鈥檜 bywydau i鈥檙 gwasanaeth. Rwy鈥檔 falch iawn o dreulio Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017 yn eu cwmni.

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd yn dangos cefnogaeth i鈥檙 Lluoedd Arfog Prydeinig eleni. Cafodd Aelodau sy鈥檔 gwasanaethu鈥檙 Fyddin, y Llynges a鈥檙 Awyrlu Brenhinol wahoddiad i gymysgu 芒 th卯m rygbi cenedlaethol Cymru yn eu canolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg cyn iddynt adael ar gyfer eu taith haf i Tonga a Samoa.

Dangosodd Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru gefnogaeth bellach hefyd drwy chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog uwch ben T欧 Gwydyr, pencadlys yr adran yn Llundain.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd Digwyddiad Lluoedd Arfog Cenedlaethol 2017 yn cael ei gynnal yn Lerpwl ar 24 Mehefin.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael drwy fynd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2017