Yr Ysgrifennydd Gwladol yn dal ati gyda chynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru
Swyddfa Cymru鈥檔 cynnal cyfarfod o amgylch y bwrdd i edrych ar opsiynau ar gyfer cynllun twf

Menai Bridge
Mae dros 20 o benaethiaid cynghorau, sefydliadau busnes a phrif gyflogwyr wedi cwrdd 芒 Gweinidogion Swyddfa Cymru er mwyn dal ati gyda鈥檙 agenda ar gyfer cynllun twf yng Ngogledd Cymru.
Bwriad y cyfarfod o amgylch y bwrdd a gadeiriwyd gan Alun Cairns a Guto Bebb ym Mhrifysgol Glynd诺r, Llanelwy, oedd edrych ar beth hoffai鈥檙 rhanbarth ei ddatblygu fel economi amlwg.
Roedd uwch gynghorwyr o awdurdodau lleol Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Chilgwri yn ogystal 芒 sefydliadau busnes fel CBI, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Ffederasiwn Busnesau Bach, wedi cael gwahoddiad i鈥檙 cyfarfod. Bydd cynrychiolwyr o Toyota ac Airbus yn bresennol hefyd, yn ogystal 芒 phenaethiaid prifysgolion Gogledd Cymru.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Yma mae鈥檙 economi sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y byd datblygedig, ac mae Cymru鈥檔 tyfu鈥檔 gyflymach nag unrhyw ran arall o鈥檙 DU heblaw am Lundain. Rwyf am i Ogledd Cymru feddwl am gynigion i sicrhau bod y rhanbarth yn rhannu鈥檙 twf hwnnw.
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i glywed gan arweinwyr lleol a gweld sut gallwn ni fanteisio i鈥檙 eithaf ar fod yn rhan o ranbarth Pwerdy鈥檙 Gogledd, sy鈥檔 ymestyn o Newcastle i Ogledd Cymru.
Mae Pwerdy鈥檙 Gogledd yn rhan bwysig o gynllun hir dymor y Llywodraeth i adfer cydbwysedd yr economi a symud oddi wrth ei dibyniaeth draddodiadol ar Lundain a De Ddwyrain Lloegr, ac mae gan Ogledd Cymru ran bwysig i鈥檞 chwarae yn hyn o beth.
Cyhoeddodd y llywodraeth yn y Gyllideb ei bod yn 鈥榓gor y drws鈥� i gynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru yn ystod y Gyllideb ac y byddai鈥檔 gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru鈥檔 datganoli pwerau ac yn buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol.