Datganiad i'r wasg

Wythnos ar 么l i drethdalwyr Hunanasesiad gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth

Mae鈥檔 rhaid i fwy na 3.5 miliwn o gwsmeriaid gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2017 i 2018 erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2019.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Image of ducks with caption 'Do it by 31 Jan'.

Don't let your tax return peck away at you - do it by 31 January/Peidiwch 芒 gadael i鈥檆h Ffurflen Dreth eich pigo 鈥� cyflwynwch hi erbyn 31 Ionawr.

Mae gan fwy na 3.5 miliwn o gwsmeriaid wythnos ar 么l i gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sydd arnynt, yn 么l cyngor Cyllid a Thollau EM (CThEM).

Y dyddiad cau i gyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein ar gyfer 2017/18 yw 11.59pm ar 31 Ionawr, a鈥檙 llynedd gwnaeth dros 93% o gwsmeriaid gyflwyno eu Ffurflenni Treth erbyn y dyddiad hwnnw.

Mae 25,000 yn fwy o gwsmeriaid eisoes wedi cyflwyno鈥檜 Hunanasesiad o鈥檌 chymharu 芒鈥檙 adeg hon y llynedd. Mae CThEM yn atgoffa cwsmeriaid y byddant yn cael dirwy o 拢100 os caiff eu Ffurflenni Treth eu cyflwyno鈥檔 hwyr - hyd yn oed os nad oes arnyn nhw unrhyw dreth. Po fwyaf yr oedi po fwyaf y bydd gennych i鈥檞 dalu.

Meddai鈥檙 Ysgrifennydd Ariannol i鈥檙 Trysorlys, Mel Stride:

Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad yma cyn pen dim. Er hynny, mae dal i fod amser i鈥檙 3.5 miliwn o gwsmeriaid sydd heb gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth wneud hynny erbyn 31 Ionawr. Gyda dim ond saith diwrnod i fynd tan y dyddiad cau, mae鈥檔 bwysig bod cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa o鈥檙 dyddiad cau er mwyn osgoi talu cosbau.

Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid CThEM:

Rydym yn annog pawb sy鈥檔 cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad i鈥檞 cyflwyno erbyn 31 Ionawr, ac mae cymorth ar gael bob cam o鈥檙 ffordd. Gall trethdalwyr ddefnyddio gwasanaethau, gweminarau a fideos CThEM, y llinell gymorth, sgwrs dros y we neu ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym wrth law i gynnig cymorth a chyngor i鈥檆h helpu i lenwi a chyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth.

Os yw cwsmeriaid yn meddwl na fyddant yn gallu cyflwyno鈥檙 Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr, cysylltwch 芒 CThEM. Mae help ar gael ar wefan 188体育, gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900, neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth

Crynodeb o ffeithiau ynghylch Hunanasesiad:

  • 11,564,363 - cyfanswm y Ffurflenni Treth Hunanasesiad sydd i鈥檞 cyflwyno
  • erbyn 22 Ionawr 2019, roedd 8,063,550 o Ffurflenni Treth wedi dod i law (70%)
  • erbyn 23 Ionawr 2019, roedd 3,500,813 o Ffurflenni Treth ar 么l i鈥檞 cyflwyno (o鈥檌 chymharu 芒鈥檙 3,524,798 erbyn 23 Ionawr 2018 oedd ar 么l i鈥檞 cyflwyno)
  • erbyn 22 Ionawr 2019, roedd 7,359,607 o Ffurflenni Treth wedi鈥檜 cyflwyno ar-lein (91% o鈥檙 cyfanswm sydd wedi鈥檜 cyflwyno)
  • mae 703,943 o Ffurflenni Treth wedi鈥檜 cyflwyno ar bapur (9% o鈥檙 cyfanswm sydd wedi鈥檜 cyflwyno)

Y cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr yw:

  • cosb benodol gychwynnol o 拢100, sy鈥檔 gymwys hyd yn oed os nad oes treth i鈥檞 thalu, neu os yw鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
  • ar 么l 3 mis, cosbau ychwanegol o 拢10 y dydd, hyd at uchafswm o 拢900
  • ar 么l 6 mis, cosb bellach o 5% o鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus neu 拢300, p鈥檜n bynnag o鈥檙 rhain sydd fwyaf
  • ar 么l 12 mis, cosb bellach o 5% neu 拢300, p鈥檜n bynnag o鈥檙 rhain sydd fwyaf

Mae yna gosbau ychwanegol am dalu鈥檔 hwyr hefyd sef 5% o鈥檙 dreth sydd heb ei thalu ar 么l 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis.

Mae treth yn cael ei didynnu鈥檔 awtomatig o gyflogau, pensiynau neu gynilion y rhan fwyaf o drethdalwyr yn y DU. Ond, mae鈥檔 rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi鈥檌 didynnu鈥檔 awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ionawr 2019
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.