Stori newyddion

Digwyddiad Tollau Hafren yn llwyddiant ysgubol

Disgwyl cynulleidfa lawn yn nigwyddiad Llywodraeth y DU i hyrwyddo twf ar y ddwy ochr i鈥檙 ffin

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Severn Crossing

Bydd cynulleidfa lawn o鈥檙 ddwy ochr i F么r Hafren yn bresennol yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn nes ymlaen yn ystod y mis yma pan fydd Llywodraeth Cymru鈥檔 cynnal Uwchgynhadledd Twf Hafren (22 Ion), y digwyddiad cyntaf o鈥檌 fath.

Mae 350 o gynadleddwyr wedi cofrestru i fynychu鈥檙 digwyddiad cyntaf sy鈥檔 cael ei gynnal gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i edrych ar sut gellir cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng econom茂au De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y cyhoeddiad am ddiddymu Tollau Hafren yn nes ymlaen eleni.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Rydw i鈥檔 falch iawn o weld ymateb mor bositif gan gymunedau i鈥檙 digwyddiad cyntaf yma sy鈥檔 llawn. Mae鈥檙 ffaith bod y digwyddiad wedi gwerthu mor gyflym yn dystiolaeth glir o鈥檙 dyhead i ddod 芒 phobl a diwydiant yn nes at ei gilydd ar y ddwy ochr i鈥檙 ffin. Dyma holl bwrpas Uwchgynhadledd Twf Hafren.

Mae鈥檙 digwyddiad yma鈥檔 ddechrau ar sgwrs bwysig a fydd yn trawsnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol ar y cyd De Cymru a De Orllewin Lloegr. Yn rhoi hwb i鈥檙 economi leol o fwy na 拢100m yr un a phob blwyddyn gyda鈥檙 penderfyniad polisi mawr hwn gan Lywodraeth y DU, mae鈥檙 neges yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes.

Rydw i鈥檔 edrych ymlaen at groesawu partneriaid o鈥檙 ddwy ochr i ffin Cymru a Lloegr i鈥檙 Uwchgynhadledd ac yn gobeithio y gallwn ni fanteisio ar y cyfle yma i feddwl ar raddfa fawr er mwyn gwneud ein heconom茂au鈥檔 gryfach, yn fwy deinamig ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2018 show all updates
  1. Translation added

  2. First published.