Stori newyddion

Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y degfed tro ar 19 Rhagfyr 2024.

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 19 Rhagfyr 2024.

Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus yr Aelod Seneddol Jo Stevens, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi dyblu鈥檙 cyllid ar gyfer y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau a鈥檙 Gronfa Pontio Cadwyn Gyflenwi i gyfanswm o 拢30m.聽

Cafwyd llawer o ddiddordeb eisoes yn y Gronfa Cadwyn Gyflenwi, gyda bron i 40 o fusnesau yn cyflogi 2,000 o bobl sydd yn mynd drwy鈥檙 broses ymgeisio ar hyn o bryd. Disgwylir i grantiau gwerth miliynau gael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd. Mae鈥檔 debyg y bydd y rhan fwyaf o鈥檙 diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol yn Tata Steel UK yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, felly bydd cymorth ar gael i fusnesau ac unigolion yr effeithir arnynt yn ystod 2025/26. Daw鈥檙 cyllid o 拢80 miliwn gan Lywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 rheini yr effeithir arnynt gan gynlluniau Tata Steel i adeiladu ffwrnais arc drydan ar eu safle ym Mhort Talbot a鈥檙 lleihad yn y gweithlu yn sgil hynny.

Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd am gymeradwyaeth y Bwrdd i ehangu鈥檙 meini prawf cymhwysedd i ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadwyn Gyflenwi a chynyddu maint y grantiau. Bydd y newid yn ehangu鈥檙 meini prawf cymhwysedd, fel y gall busnesau sydd gyda 30% o gysylltiad 芒 Tata wneud cais, sy鈥檔 ostyngiad o 50%. Bydd maint grantiau鈥檙 Gronfa Cadwyn Gyflenwi yn tyfu hefyd 鈥� gydag uchafswm y 鈥楪rant Cymorth Busnes鈥� yn cynyddu o 拢25,000 i 拢50,000 a鈥檙 鈥楪ronfa Grantiau Cyfalaf鈥� yn cynyddu o 拢170,000 i 拢250,000. Golygai hyn y gall mwy o fusnesau wneud cais, a gwella鈥檙 gefnogaeth i fusnesau, gweithwyr a鈥檙 economi leol. 聽聽

Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol hefyd:

  • Rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
  • Cynlluniau鈥檙 Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
  • Cymhorthfa yr Undeb Cymunedol ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt;
  • Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl; a
  • Chynllun cyfathrebu i hyrwyddo cyllid y Bwrdd Pontio.

Roedd y canlynol yn bresennol: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet聽 dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Rushanara Ali MP, Aelod Seneddol, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol MHCLG; y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O鈥橞rien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Dr Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK ac Is-Lywydd Materion Corfforaethol Ewropeaidd, Tata Steel Ltd; Stephen Kinnock, Aelod Seneddol dros Aberafan Maesteg; David Rees, AS Aberafan; Tom Giffard, AS rhanbarthol Gorllewin De Cymru; Luke Fletcher AS rhanbarthol Gorllewin De Cymru; Anne Jessopp CBE; Katherine Bennett CBE aelodau annibynnol o鈥檙 Bwrdd; ac Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, yr Undeb Cymunedol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr 2024