Datganiad ar ran y trydydd ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cyfarfu y trydydd ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 22 Mai 2025.

Ceisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, yn ei r么l fel Cadeirydd y Bwrdd Pontio gymeradwyaeth gan y Bwrdd ar gyfer tri phrosiect adfywio, a fydd yn cael eu cefnogi gyda dros 拢21.2 miliwn o gyllid y Bwrdd Pontio. Mae鈥檙 prosiectau hyn yn cynnwys:
- Cyfleuster Cynhyrchu Uwch Weithgynhyrchu / Canolfan Ragoriaeth Sero Net Genedlaethol
- Ailddatblygu adeiladau busnes yn Metal Box a Chanolfan Fusnes Sandfields
Yn dilyn rhyddhau arian heddiw, dyma鈥檙 chweched cyhoeddiad o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU gwerth 拢80 miliwn a dylai gefnogi dros 270 o swyddi ac ychwanegu cyfanswm o dros 拢119 miliwn o Werth Ychwanegol Gros i鈥檙 economi leol dros y degawd nesaf. Mae鈥檙 buddsoddiad mawr diweddaraf hwn yn golygu bod mwy na 拢70 miliwn wedi鈥檌 gyhoeddi gan y Bwrdd Pontio yn ystod y naw mis diwethaf. 聽
Mae buddsoddiad gan y Bwrdd Pontio yn ategu gweithrediad Llywodraeth y DU i sicrhau cytundebau masnach newydd gyda鈥檙 Unol Daleithiau ac India, gan gynnwys ceisio cytundeb i ddileu tariffau ar gynhyrchion dur craidd a fewnforiwyd i鈥檙 Unol Daleithiau. Bydd hyn yn diogelu gwerth degau o filiynau o bunnoedd o allforion dur o Gymru bob blwyddyn.
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariadau hefyd ar:
- Raglen datgarboneiddio Tata Steel UK;
- Cynlluniau鈥檙 Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
- Ymyriadau iechyd meddwl a lles;
- Cyllid y Bwrdd Pontio sydd eisoes wedi鈥檌 gyhoeddi, gan gynnwys ceisiadau a dderbyniwyd am gronfa y Gadwyn Gyflenwi, a chefnogaeth a ddarperir gan y gronfa Cyflogaeth a Sgiliau.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifenydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O鈥橞rien, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Stephen Kinnock, AS ar gyfer Aberafan Maesteg; David Rees, AS ar gyfer Aberafan; Tom Giffard, AS ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru; Anne Jessopp CBE a Katherine Bennett CBE, aelodau annibynnol o鈥檙 Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, Undeb Cymunedol; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil, GMB Cymru a Jason Bartlett Swyddog Rhanbarthol Unite the Union Wales.
-diwedd-