Tyfwr coed Nadolig yn ennill cystadleuaeth i arddangos ei goeden ar Stryd Downing
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ymuno 芒 Robert Morgan, y tyfwr buddugol o gwmni Coed Nadolig G诺yr, y mae ei goeden yn cael ei harddangos y tu allan i Rif 10 Stryd Downing

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymuno 芒 Robert Morgan, ffermwr o鈥檙 Crwys, Abertawe, wrth i binwydden y tyfwr gael ei goleuo y tu allan i Rif 10 Stryd Downing heddiw (6 Rhagfyr).
Robert gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan gyd-dyfwyr i ennill teitl 鈥楾yfwr y Flwyddyn鈥� Cymdeithas Tyfwyr Coed Prydain (BTGA), a bydd nawr yn darparu鈥檙 goeden Nadolig 18 troedfedd 6 modfedd a fydd yn addurno tu allan i gartref y Prif Weinidog.
Bydd y coed wedi cael eu meithrin am dros 10 mlynedd i gyrraedd uchder y gystadleuaeth, sef rhwng 1.4m a 2.2m o鈥檙 b么n i鈥檙 pen. Maent yn cael eu beirniadu ar sail eu dail, lliw, si芒p a pha mor addas ydynt i鈥檞 marchnata.
Daeth Robert yn agos i鈥檙 brig yng nghystadleuaeth 鈥楾yfwr y Flwyddyn鈥� 2014, a chafodd ddarparu pinwydden Nordman ar gyfer ystafell fwyta鈥檙 wladwriaeth yn Rhif 10. Mae ei deulu wedi ymwneud 芒鈥檙 diwydiant ffermio defaid a gwartheg am bum cenhedlaeth, ac fe wnaethant ddechrau plannu coed Nadolig yn 1996.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hyn yn gyflawniad anhygoel ac yn ffordd wych o gydnabod gwaith caled Robert a鈥檌 deulu dros yr ugain mlynedd diwethaf i gynhyrchu coed Nadolig sy鈥檔 ennill gwobrau.
Mae perchnogion busnesau bach fel Robert yn cynrychioli rhan bwysig o economi Cymru, ac mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o sicrhau bod gan y busnesau hyn y gefnogaeth mae ei hangen arnynt i dyfu a bod yn llwyddiannus, a鈥檜 bod yn cael eu gwobrwyo am eu hymroddiad.
Rwy鈥檔 falch bod coeden sydd wedi鈥檌 thyfu yng Nghymru wedi cael ei dewis ar gyfer yr anrhydedd hon, ac yn dymuno Nadolig Llawen a fy llongyfarchiadau cynhesaf i Robert a鈥檌 deulu ar y diwrnod bythgofiadwy hwn.
Dywedodd Robert Morgan o Goed Nadolig G诺yr:
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at ein hymweliad 芒 Stryd Downing Street heddiw, ac mae Lloyd, fy mab saith oed wedi cyffroi鈥檔 l芒n. Y goeden yn Stryd Downing oedd un o鈥檙 coed cyntaf i gael ei phlannu ar ein fferm yn y G诺yr, ar 么l penderfynu mentro i鈥檙 farchnad coed Nadolig.
Mae鈥檔 deyrnged addas bod y goeden hon, sydd bron yn 20 oed, yma heddiw i ddynodi鈥檙 blynyddoedd o waith caled sydd wedi鈥檜 hymroi i gynhyrchu ein coed Nadolig.