Datganiad i'r wasg

Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2021

Ysgrifennydd Cymru: Yn falch o weld Abertawe鈥檔 chwifio鈥檙 faner dros Gymru yn y ras ar gyfer 2021

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Coventry, Paisley, Stoke-on-Trent, Sunderland ac Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021.

Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn yn dilyn cyfarfod y panel cynghori annibynnol a gadeiriwyd gan Phil Redmond. Mae pum allan o鈥檙 un ar ddeg tref a dinas a oedd wedi cyflwyno cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y fraint.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yma mae鈥檙 ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf i gael ei sefydlu yn y DU a dyma鈥檙 rhanbarth a ddaeth 芒鈥檙 rheilffordd teithwyr cyntaf i鈥檙 byd, felly mae cyflawniadau nodedig iawn Abertawe, o鈥檙 presennol a鈥檙 gorffennol, yn golygu ei fod yn gystadleuydd safonol iawn ar gyfer cael ei goroni鈥檔 Ddinas Diwylliant y DU yn 2021. Rwy鈥檔 gwybod y byddan nhw鈥檔 cyflwyno鈥檙 achos cryfaf posib yn y ras am y teitl, ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd y bobl leol yn achub ar bob cyfle i gefnogi鈥檙 cais.

Er y bydd siom draw yn Nhyddewi heddiw, mae鈥檔 bwysig cofio fod y broses o gyflwyno cais wedi gwneud cymaint i gael budd o nodweddion yr ardal hardd hon a thynnu sylw cynulleidfa ehangach ati. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd hyn yn llwyfan ar gyfer chwifio鈥檙 faner dros Gymru fel Dinas Diwylliant y DU yn y dyfodol.

Ym mis Rhagfyr 2017, bydd naill ai Coventry, Paisley, Stoke, Sunderland neu Abertawe yn cael ei henwi鈥檔 drydedd Ddinas Diwylliant y DU, gan ddilyn 么l troed Derry-Londonderry a Hull.

Hull yw鈥檙 Ddinas Diwylliant ar hyn o bryd, ac mae ei rhaglen yn cynnwys 365 diwrnod o ddigwyddiadau diwylliannol. Amcangyfrifir fod Dinas Diwylliant wedi arwain at hwb o 拢60 miliwn i鈥檙 economi leol yn 2017. Mae naw o bob deg o drigolion wedi mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiad fel rhan o Hull 2017 ac mae鈥檙 ddinas wedi cael dros 拢1 biliwn o fuddsoddiad ers ennill y teitl yn 2013. Bydd enillydd Dinas Diwylliant y DU 2021 hefyd yn cael mynediad at grant gwerth 拢3 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd John Glen, y Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth:

Rydyn ni wedi derbyn ceisiadau cryf o bob cwr o鈥檙 DU ac mae gennym ni nawr restr fer wych o bump sy鈥檔 adlewyrchu amrywiaeth ac uchelgais ddiwylliannol ein trefi a鈥檔 dinasoedd.

Hoffwn longyfarch yr un ar ddeg a gyflwynodd geisiadau, a oedd yn enghreifftiau campus o sut mae dathlu eu diwylliant a鈥檜 treftadaeth eu hunain, ac a oedd yn dangos cymaint o fri ac anrhydedd sydd i Ddinas Diwylliant y DU.

Roedd cryfder y gystadleuaeth yn dangos i ni pa mor werthfawr yw ein hasedau diwylliannol i鈥檔 trefi, gan roi hwb i dwristiaeth a swyddi mewn cymunedau lleol. Rwyf wedi gweld 芒鈥檓 llygaid fy hun sut mae Hull wedi manteisio ar ei statws fel Dinas Diwylliant 2017 a pha mor fuddiol y mae wedi bod i鈥檙 ardal. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld beth a ddaw yn 2021.

Dywedodd Phil Redmond, Cadeirydd panel Dinas Diwylliant y DU:

Roedd yr ansawdd, yr ymroddiad a鈥檙 brwdfrydedd a oedd yn cael eu cyfleu yn yr un ar ddeg cais yn gwneud penderfynu ar restr fer i鈥檞 hargymell i Weinidogion yn dasg anodd iawn, fel oedd yn wir gyda鈥檙 ddwy gystadleuaeth flaenorol ar gyfer Dinas Diwylliant y DU. Mae鈥檙 awydd i ddefnyddio diwylliant er mwyn adfywio a chryfhau cymunedau鈥檔 amlwg yn gryfach nag erioed. At ei gilydd, roedd y panel yn credu bod cais y pum dinas yn dangos potensial ar gyfer rhaglen Dinas Diwylliant y DU 2021. Hoffwn ddiolch i鈥檙 un ar ddeg ymgeisydd am eu holl waith ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at dderbyn y ceisiadau terfynol gan Coventry, Paisley, Stoke-on-Trent, Sunderland ac Abertawe yn nes ymlaen eleni.

Bydd yr ardaloedd ar y rhestr fer nawr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais terfynol erbyn diwedd mis Medi. Bydd y panel yn asesu鈥檙 ceisiadau terfynol gan y dinasoedd sydd ar y rhestr fer cyn cyhoeddi鈥檙 enillydd ym mis Rhagfyr.

Bydd yr ardaloedd aflwyddiannus yn derbyn adborth manwl ynghylch eu ceisiadau. Hefyd bydd gweinidogion a swyddogion yn cysylltu 芒 nhw er mwyn trafod y ffordd orau iddynt wireddu eu huchelgais o gael cydnabyddiaeth eang am eu cynnig diwylliannol.

Nodiadau i olygyddion

  • Cyflwynwyd yr un ar ddeg cais cychwynnol gan Coventry, Henffordd, Paisley, Perth, Portsmouth, Tyddewi a Chantref Pebidiog, Stoke-on-Trent, Sunderland, Abertawe, Warrington a Wells.

  • I sicrhau arian grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd angen i鈥檙 ardal lwyddiannus ddangos bod ei rhaglen yn seiliedig ar dreftadaeth a鈥檌 bod yn ehangu ar fuddsoddiad presennol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2017