Datganiad i'r wasg

Dyddiad cau credydau treth: cwsmeriaid mewn perygl o golli allan

Mae鈥檔 rhaid i gwsmeriaid y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu sydd wedi cael llythyr i ail-gadarnhau eu manylion incwm gysylltu 芒 CThEM cyn 31 Gorffennaf.

Wythnos yn unig sydd gan gwsmeriaid credydau treth i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am newidiadau yn eu hamgylchiadau neu eu hincwm cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf 2020.

Mae鈥檔 rhaid i gwsmeriaid y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu sydd wedi cael llythyr i ail-gadarnhau eu manylion incwm gysylltu 芒 CThEM.

Gall methu ag ymateb erbyn y dyddiad cau olygu bod cwsmeriaid yn cael taliadau credydau treth anghywir, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt ad-dalu unrhyw ordaliadau yn y pen draw.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Mae credydau treth yn darparu cymorth ariannol angenrheidiol iawn i鈥檔 cwsmeriaid. Ond rydym yn gwybod bod llawer o gwsmeriaid yn aros tan y funud olaf i adnewyddu eu dyfarniad credydau treth.

Nawr yw鈥檙 amser i adnewyddu eich credydau treth, does dim angen i chi aros tan y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf.

Nid oes angen i gwsmeriaid wneud dim byd arall os ydynt wedi cael pecyn adolygu blynyddol neu neges destun, a鈥檜 bod wedi gwneud eu datganiad, gan gynnwys cadarnhau eu hincwm a鈥檜 hamgylchiadau.

Fodd bynnag, mae angen i gwsmeriaid gysylltu 芒 CThEM ar unwaith os ydynt yn anghytuno ag unrhyw ran o鈥檙 wybodaeth yn y pecyn neu鈥檙 llythyr, os oes angen iddynt roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, neu os ydynt yn hunangyflogedig a bod yr incwm sydd gennym ar gyfer 2019 i 2020 yn amcangyfrif oherwydd nad ydynt wedi cyflwyno鈥檜 Ffurflen Dreth eto (yn yr achos hwnnw, bydd ganddynt tan 31 Ionawr 2021 i roi gwybod i ni beth yw eu gwir incwm).

Sut i adnewyddu

Mae adnewyddu credydau treth ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i 188体育 i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM.

Gall cwsmeriaid ddefnyddio ap CThEM ar eu ff么n clyfar er mwyn:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwirio鈥檙 amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
  • cael gwybod faint maent wedi鈥檌 ennill ar gyfer y flwyddyn

Mae help a gwybodaeth am adnewyddu credydau treth ar gael i gwsmeriaid:

  • ar 188体育 ar y dudalen Rheoli eich credydau treth
  • gan ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrsio dros y we, drwy fynd i 188体育 a chwilio am 鈥榯ax credits general enquiries鈥�
  • drwy neu gydag ymholiadau cyffredinol
  • drwy ddefnyddio ap CThEM, sydd ar gael drwy siop apiau eich ff么n
  • drwy ddefnyddio鈥檙
  • drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900

Gair ynghylch sgamiau

Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol y gallai troseddwyr fanteisio ar adnewyddiadau credydau treth drwy anfon neges destun, e-bostio neu ffonio鈥檙 cyhoedd, gan gynnig cymorth ffug. Mae鈥檙 sgamiau yn dynwared negeseuon CThEM mewn ymgais i ymddangos yn ddilys.

Os bydd rhywun yn anfon neges destun, yn e-bostio neu鈥檔 ffonio ac yn honni ei fod yn gweithio i CThEM, gan ddweud bod cwsmer yn gallu adnewyddu dyfarniad credydau treth neu gael gafael ar gymorth ariannol, a鈥檌 fod yn gofyn am fanylion cerdyn credyd neu fanc, mae鈥檔 debygol o fod yn sgam. Dylai pobl wirio 188体育 i gael gwybodaeth am sut i adnabod cysylltiadau dilys gan CThEM.

Rhagor o wybodaeth

Y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu credydau treth yw 31 Gorffennaf 2020.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd CThEM y byddai cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith yn cael hyd at 拢20 yn ychwanegol bob wythnos rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2021, fel rhan o nifer o fesurau i gynorthwyo鈥檙 wlad yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gan CThEM yn gywir ac yn gyfredol, anfonwyd llythyrau at rai cwsmeriaid i ail-gadarnhau eu manylion incwm.

I gael gwybod sut y cyfrifwyd cyfanswm yr incwm, neu i roi gwybod am unrhyw newidiadau, defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio dros y we. Ewch i 188体育 a chwilio am 鈥榯ax credits general enquiries鈥�.

Rhaid i gwsmeriaid sy鈥檔 hunangyflogedig, ac nad ydynt wedi cyflwyno eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, amcangyfrif eu helw neu golled a rhoi gwybod i ni am hyn ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2020. Os na fyddant yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn cwblhau eu dyfarniad gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth sydd gennym, ac ni fyddant yn gallu ei newid yn nes ymlaen. Ar 么l iddynt ddarparu amcangyfrif, bydd angen iddynt gysylltu 芒 ni eto pan fyddant yn gwybod eu gwir incwm, a hynny erbyn 31 Ionawr 2021 fan bellaf.

Bydd credydau treth yn cael eu disodli鈥檔 raddol gan Gredyd Cynhwysol. Ni all cwsmeriaid gael credydau treth a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, mae angen iddynt fynd i鈥檙 dudalen Credyd Cynhwysol ar 188体育.

Cyngor CThEM ynghylch sgamiau

Stopio:

  • meddyliwch am funud cyn rhoi鈥檆h gwybodaeth neu鈥檆h arian
  • fel rheol, ni fydd sefydliadau dilys, fel banciau neu CThEM, yn cysylltu 芒 chi鈥檔 ddirybudd i ofyn am fanylion personol

Herio:

Diogelu:

  • gallwch anfon e-byst amheus sy鈥檔 honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM i [email protected] neu [email protected], a gallwch anfon negeseuon testun i 60599.
  • cysylltwch 芒鈥檆h banc ar unwaith os ydych yn credu eich bod wedi dioddef sgam, a rhowch wybod i amdani

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Gorffennaf 2020 show all updates
  1. Published Welsh language version.

  2. First published.