Datganiad i'r wasg

Y sector technoleg yn cefnogi diwydiant deallusrwydd artiffisial Prydain gyda buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd

Sector deallusrwydd artiffisial ffyniannus yng Nghymru yn cael hwb gwerth 拢1 biliwn

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

*Mae dros 50 o gwmn茂au a chyrff technoleg amlwg wedi cyfrannu at ddatblygu cytundeb deallusrwydd artiffisial gwerth bron i 拢1 biliwn, gan gynnwys buddsoddiad o bron i 拢300 miliwn gan y sector preifat yn y sector yn y DU * Bydd 1,000 o ddoethuriaethau newydd ym maes deallusrwydd artiffisial dan nawdd y llywodraeth yn sicrhau bod y DU yn cadw鈥檌 lle ar flaen y gad o ran arloesi ac yn cryfhau statws y DU fel canolbwynt ymchwil deallusrwydd artiffisial * Ymhlith y cyrff yng Nghymru sy鈥檔 mynd ati鈥檔 frwd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith mae IQE, MedaPhor, Amplyfi ac Artimus

Mae dros 50 o fusnesau a chyrff amlwg wedi cyfrannu at ddatblygu cytundeb gwerth 拢1 biliwn i roi鈥檙 genedl ar flaen y gad yn y diwydiant deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys buddsoddiad newydd o bron i 拢300 miliwn gan y sector preifat.

Mae鈥檙 cytundeb ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a鈥檙 diwydiant, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 26 Ebrill 2018) gan yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark a鈥檙 Ysgrifennydd Digidol Matt Hancock, hefyd yn cynnwys dros 拢300 miliwn o gyllid sydd newydd gael ei ddyrannu gan y llywodraeth i ariannu ymchwil ym maes deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod y DU yn arwain y byd o ran y dechnoleg hon.

Gan adeiladu ar sail yr ymrwymiad a wnaed yn y Strategaeth Ddiwydiannol a鈥檌 Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial, mae鈥檙 cytundeb yn nodi cam cyntaf ymgyrch fuddsoddi o bwys ym maes deallusrwydd artiffisial, sy鈥檔 canolbwyntio ar arloesi ac sydd 芒鈥檙 nod o gynorthwyo鈥檙 DU i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y cyfle gwerth 拢232 biliwn y mae deallusrwydd artiffisial yn ei gynnig i economi鈥檙 DU erbyn 2030 (10 y cant o鈥檙 cynnyrch domestig gros (GDP)).

Daw鈥檙 Fargen Sector Deallusrwydd Artiffisial wedi lefelau uwch nag erioed o fuddsoddi yn nhechnoleg y DU yn 2017, ac mae鈥檙 cytundeb heddiw yn cynnwys buddsoddiadau newydd megis: * Y cwmni cyfalaf menter o Japan, Global Brain, yn agor ei bencadlys Ewropeaidd cyntaf yn y DU ac yn buddsoddi 拢35 miliwn mewn cwmn茂au newydd technoleg ddofn yn y DU * Prifysgol Caergrawnt yn agor uwchgyfrifiadur newydd deallusrwydd artiffisial gwerth 拢10 miliwn ac yn sicrhau bod ei seilwaith ar gael i fusnesau
* Bydd un o brif gwmn茂au cyfalaf menter y byd, Chrysalix, sydd 芒鈥檌 bencadlys yn Vancouver, hefyd yn sefydlu pencadlys Ewropeaidd yn y DU ac yn ei ddefnyddio i fuddsoddi hyd at 拢110 miliwn mewn deallusrwydd artiffisial a roboteg * Bydd sefydliad Alan Turing a Rolls-Royce, ar y cyd, yn cynnal prosiectau ymchwil i archwilio sut gellir cymhwyso gwyddor data wrth raddfa, y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ledled cadwynau cyflenwi, peirianneg sy鈥檔 canolbwyntio ar ddata a chynnal a chadw daroganol, a r么l dadansoddeg data a deallusrwydd artiffisial mewn gwyddoniaeth.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Cymru eisoes yn manteisio ar y cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig i chwyldroi llu o feysydd gwaith gwahanol, gan gynnwys y sector meddygol a鈥檙 sector lled-ddargludyddion.

Bydd y cytundeb a gyhoeddir heddiw yn arwain at gydweithio hyd yn oed yn agosach rhwng Llywodraeth y DU a鈥檙 diwydiant yng Nghymru, gan greu swyddi mewn meysydd newydd a chreu economi sy鈥檔 gryfach ac yn fwy cadarn.

Yn 么l yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, Greg Clark:

Mae deallusrwydd artiffisial yn creu cyfleoedd diderfyn i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd sy鈥檔 effeithlon ac yn hygyrch ac sy鈥檔 trawsnewid y modd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Bydd y cytundeb newydd heddiw 芒鈥檙 diwydiant yn sicrhau bod gennym y buddsoddiad, y seilwaith a鈥檙 gweithlu hynod o fedrus sydd eu hangen er mwyn sefydlu鈥檙 DU fel ysgogydd datblygiad technolegau deallusrwydd artiffisial a鈥檙 defnydd masnachol ohonynt.

Fel yn achos pob arloesi, ceir y potensial hefyd o gamddefnydd, a fyddai鈥檔 arwain at graffu ar y sector cyfan ac yn tanseilio hyder y cyhoedd. Dyna pam rydym yn sefydlu corff newydd a fydd yn flaengar ar lefel fyd-eang, i sicrhau bod data鈥檔 cael ei ddefnyddio mewn modd moesegol ym maes deallusrwydd artiffisial, a hynny er budd pawb.

Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial

Bydd y cytundeb yn gymorth i sefydlu鈥檙 DU fel canolbwynt ymchwil, 芒 mesurau i sicrhau bod arloeswyr ac entrepreneuriaid technoleg y dyfodol wedi鈥檜 lleoli yn y DU, 芒 buddsoddiad yn y sgiliau uwchraddedig ar lefel uchel sydd eu hangen er mwyn manteisio i鈥檙 eithaf ar botensial aruthrol technoleg.

Mae鈥檔 cynnwys arian i hyfforddi 8,000 o athrawon cyfrifiadureg arbenigol, 1,000 o ddoethuriaethau deallusrwydd artiffisial dan nawdd y llywodraeth erbyn 2025 ac ymrwymiad i ddatblygu rhaglen fyd-eang nodedig Cymrodoriaeth Turing er mwyn denu鈥檙 dalent ymchwil orau ym maes deallusrwydd artiffisial i鈥檙 DU a鈥檌 chadw yma.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd athro TGAU cyfrifiadureg cwbl gymwys i roi i鈥檙 genhedlaeth nesaf y sgiliau y mae arni ei hangen er mwyn datblygu technoleg y dyfodol a manteisio i鈥檙 eithaf arni. Yn rhan o鈥檙 cytundeb, mae cwmni cyfrifwyr Sage hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen beilot deallusrwydd artiffisial i 150 o bobl ifanc ledled y DU.

Canolfannau Technoleg Rhanbarthol

Bydd y Llywodraeth yn datblygu ei henw da fel canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial ac yn darparu 拢20 miliwn o gyllid i gynorthwyo diwydiannau gwasanaeth y DU, gan gynnwys y gyfraith ac yswiriant, 芒 phrosiectau peilot newydd i ganfod sut gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid a gwella eu gwaith.
Defnyddir 拢21 miliwn hefyd i hybu鈥檙 defnydd o ddeallusrwydd artiffisial drwy fusnesau, a hynny drwy drawsnewid Tech City UK, sydd wedi鈥檌 leoli yn Llundain ar hyn o bryd, yn Tech Nation, gan greu rhwydwaith o ganolfannau technoleg rhanbarthol uchel eu twf a fydd yn arwain ar lefel fyd-eang ledled y wlad.

Canolfan Moeseg Data gynta鈥檙 byd

Mae鈥檙 cytundeb yn tanlinellu gwaith y llywodraeth i sicrhau bod yr holl ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial ym Mhrydain yn cael eu cynnal i鈥檙 safonau moesegol uchaf drwy sefydlu Canolfan Moeseg Data ac Arloesi a fydd yn arwain ar lefel fyd-eang. Bydd y Ganolfan gwerth 拢9 miliwn yn rhan bwysig o鈥檙 cynlluniau i sicrhau mai鈥檙 DU yw鈥檙 lle gorau yn y byd i fusnesau sy鈥檔 datblygu deallusrwydd artiffisial dyfu a ffynnu. Bydd yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau a ddaw yn sgil mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ac yn cynghori ar y mesurau sydd eu hangen er mwyn galluogi defnyddio technolegau sy鈥檔 seiliedig ar ddata mewn modd diogel, moesegol ac arloesol, gan gynorthwyo i ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.

Yn 么l yr Ysgrifennydd Gwladol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock:

Rhaid i鈥檙 DU fod ar flaen y gad o ran technolegau newydd, gan wthio ffiniau a defnyddio arloesi i newid bywydau pobl er gwell.

Mae deallusrwydd artiffisial yn ganolog i鈥檔 cynlluniau i sicrhau mai鈥檙 DU yw鈥檙 lle gorau yn y byd i gychwyn a datblygu busnes digidol. Mae gennym record wych, ac yma y mae cartref rhai o enwau mwya鈥檙 byd ym maes deallusrwydd artiffisial, megis Deepmind, Swiftkey a Babylon, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud. 鈥淒rwy hybu sgiliau deallusrwydd artiffisial a thechnolegau sy鈥檔 seiliedig ar ddata, byddwn yn sicrhau ein bod yn dal ati i greu Prydain sy鈥檔 siapio鈥檙 dyfodol.

Y fargen sector newydd yw canolbwynt Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial y llywodraeth, sy鈥檔 rhan allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol fodern y llywodraeth ac sy鈥檔 amlinellu cynllun hirdymor i hybu cynhyrchiant a gallu pobl i ennill arian ledled y DU. Nod yr Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial yw rhoi鈥檙 DU ar flaen y gad yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial a data, gan sicrhau bod buddiannau cymdeithasol ac economaidd aruthrol y dechnoleg hon yn cael eu teimlo ym mhob rhan o Brydain.

Roedd y Strategaeth Ddiwydiannol yn nodi pedair Her Fawr i roi鈥檙 DU ar flaen y gad yn niwydiannau鈥檙 dyfodol. Mae Deallusrwydd Artiffisial a Data yn un o鈥檙 rhain a鈥檙 fargen sector hon yw鈥檙 glasbrint ar gyfer cyflawni鈥檙 her.

Meddai鈥檙 Fonesig Wendy Hall:

Mae鈥檔 hynod o gyffrous gweld yr argymhellion yn yr Adolygiad o Ddeallusrwydd Artiffisial yn cael eu gwireddu trwy gyfrwng y Fargen Sector feiddgar ac uchelgeisiol hon ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Rydym mewn cyfnod holl bwysig o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ledled llu o wahanol sectorau diwydiant a chredaf o ddifrif y gall y DU arwain y blaen o ran datblygu鈥檙 defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn diwydiant mewn modd diogel a moesegol a fydd er budd pawb.

Bydd y fargen sector deallusrwydd artiffisial yn golygu mai Prydain yw鈥檙 lle i fod ar gyfer deallusrwydd artiffisial a bydd yn sicrhau bod y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio er lles pobl, o fuddsoddiad y llywodraeth mewn diagnosteg gynnar a phrosiectau meddygaeth fanwl a fydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i roi diagnosis o glefydau cronig, i ymrwymiad i sefydlu Ymddiriedolaethau Data rhwng y llywodraeth, diwydiant a鈥檙 byd academaidd er mwyn sicrhau bod data鈥檔 cael eu rhannu鈥檔 ddiogel.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o oblygiadau rhannu data ac achosion o dorri preifatrwydd o ran moeseg ac o ran diogelwch, mae鈥檙 Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn buddsoddi 拢11 miliwn mewn 11 o brosiectau ymchwil newydd, dan arweiniad prifysgolion, i ddadansoddi鈥檙 heriau pwysig i bobl a busnesau sy鈥檔 defnyddio data a鈥檙 rhai sy鈥檔 caniat谩u mynediad i鈥檞 data. Maent hefyd wedi ymrwymo i ddarparu 拢300 miliwn i gefnogi prosiectau ymchwil newydd er mwyn ategu鈥檙 Canolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd.

Yn 么l Neil Crockett, Prif Swyddog Digidol Rolls-Royce:

Yn Rolls-Royce, credwn fod deallusrwydd artiffisial o bwys canolog er mwyn rhyddhau gwerth aruthrol i鈥檔 cwsmeriaid ac o fewn ein busnes ein hunain, ac er mwyn gwireddu ein nod o arloesi鈥檙 grym sy鈥檔 cyfrif.

Mae鈥檙 memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn arwydd o gyfnod newydd cyffrous ym mherthynas Rolls-Royce 芒 Sefydliad Alan Turing. Credwn y bydd y cydweithio hwn yn cryfhau rhagor ar enw da Rolls-Royce fel cwmni sy鈥檔 arwain y blaen yn fyd-eang o ran mabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun diwydiannol. Ar yr un pryd, bydd yn cefnogi safle鈥檙 sefydliad, ac felly safle鈥檙 DU, fel canolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

Deallusrwydd artiffisial yng Nghymru

Bydd y fargen sector deallusrwydd artiffisial nid yn unig yn cefnogi鈥檙 rhai sy鈥檔 mabwysiadu deallusrwydd artiffisial am y tro cyntaf, ond hefyd yn cynorthwyo鈥檙 cwmn茂au hynny o Gymru sy鈥檔 torri cwys newydd ac sydd eisoes yn defnyddio鈥檙 dechnoleg hon i greu clystyrau o arbenigedd, yn creu swyddi hynod o fedrus ac yn buddsoddi mewn datblygu鈥檙 dechnoleg hon.

Dyma rai o鈥檙 cwmn茂au a鈥檙 cyrff yng Nghymru sy鈥檔 mynd ati鈥檔 frwd i gynnwys deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith: * Mae IQE, sy鈥檔 arbenigo mewn lled-ddargludyddion, yn buddsoddi 拢38 miliwn ar y cyd 芒 Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cyfleuster newydd arloesol a fydd yn cynhyrchu cydrannau a ddefnyddir mewn cymwysiadau deallusrwydd artiffisial. * Mae MedaPhor, sydd wedi鈥檜 lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn datblygu efelychwyr uwchsain tra chywir, meddalwedd dadansoddi delweddau deallusrwydd artiffisial a systemau tywys nodwyddau realiti estynedig ar gyfer ymarferwyr meddygol. * Mae Amplyfi yn gwmni newydd deallusrwydd artiffisial sydd eisiau trawsnewid y diwydiant deallusrwydd busnes. Mae ei blatfform meddalwedd DataVoyant yn cynaeafu ac yn darllen data sydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein ac o鈥檙 we ddofn 鈥� y rhannau hynny o鈥檙 rhyngrwyd nad ydynt yn cael eu mynegeio gan beiriannau chwilio cyffredin. Mae鈥檙 dechnoleg yn galluogi cleientiaid i ganfod amhariadau posibl i鈥檞 busnesau, boed hynny鈥檔 rhyfel, yn newid yn y farchnad, neu鈥檔 dechnoleg newydd.
* Mae Artimus yng Nghaerdydd yn darparu datrysiadau deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau drwy ddefnyddio arbenigedd o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys peirianneg.

Dyfyniadau ychwanegol:

Nicholas Sleep, Prif Swyddog Technoleg Gr诺p Medaphor yng Nghaerdydd:

Rydym ni鈥檔 ceisio trosi technoleg er budd meddygon. Rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud sganio uwchsain yn haws i glinigwyr; gwneud peiriannau yn fwy deallus er mwyn cyflymu鈥檙 broses sganio, ac i gynorthwyo clinigwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Mae鈥檙 Llywodraeth yn berffaith iawn i flaenoriaethu鈥檙 dechnoleg hon, a rhoi Prydain ar flaen y gad o ran defnyddio鈥檙 dechnoleg hon yn y sector meddygol, lle bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran gwella diogelwch a lleihau cost gofal iechyd.

Meddai Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys, Robert Jenrick:

Bydd deallusrwydd artiffisial yn ein galluogi i weithio鈥檔 fwy deallus, hybu ein cynhyrchiant a gwneud y wlad yn fwy cyfoethog.

O beiriannau chwilio i geir sy鈥檔 eu gyrru eu hunain, bydd y dechnoleg hon wrth graidd ein heconomi newydd. Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi ein harloeswyr deallusrwydd artiffisial er mwyn cadarnhau safle鈥檙 DU fel arweinydd ar lefel fyd-eang o ran y dechnoleg arloesol hon.

Meddai Marc Waters, Rheolwr Gyfarwyddwr (y DU ac Iwerddon), Hewlett Packard Enterprise:

Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfle arwyddocaol i greu mantais gystadleuol i economi鈥檙 DU, 芒 buddiannau i gwmn茂au, gweithwyr a defnyddwyr.

Ceir cyfle nid yn unig i ddefnyddio grym deallusrwydd artiffisial i arloesi a gwneud darganfyddiadau gwyddonol, ond hefyd i wella cynhyrchiant a chreu twf economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fentrau yn y DU yn dal i gael anhawster canfod achosion defnydd ymarferol ar gyfer eu busnes a chymryd camau gwirioneddol yn y tymor byr tuag at wireddu鈥檙 rhain. Er mwyn cynorthwyo i lenwi鈥檙 bwlch hwn, mae HPE yn buddsoddi yn yr arbenigedd deallusrwydd artiffisial a鈥檙 seilwaith uwchgyfrifiadura sydd eu hangen i gefnogi鈥檙 defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, ac yn eu darparu i鈥檙 cyrff hyn.

Yn 么l yr Athro Michael Denham, Prif Weithredwr a Chyd-Sylfaenydd Mindtrace Cyf:

Yn yr un modd ag y mae technoleg cyfrifiaduron wedi bod yn fuddiol iawn inni drwy ganiat谩u inni wneud cyfrifiadau cymhleth sydd ymhell y tu hwnt i allu pobl, bydd technoleg deallusrwydd artiffisial yn ein cefnogi fwyfwy yn ein gallu i wneud penderfyniadau cymhleth ac amserol, ym maes gofal iechyd, cludiant, gweithgynhyrchu, diogelwch a sawl maes arall, gyda lefelau o gywirdeb, cyflymder ac effeithlonrwydd sydd ymhell y tu hwnt i eiddo pobl, gan wella ein bywydau mewn ffyrdd yr ydym prin wedi cychwyn dod i鈥檞 deall.

Meddai Antony Walker, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol techUK:

Mae record y DU ar ddeallusrwydd artiffisial yn un sy鈥檔 creu argraff. Ond rhaid inni sicrhau bod cyflymder a graddfa鈥檙 arloesi yn parhau i gynyddu, ac mae angen inni sicrhau bod y DU yn dal ar flaen y gad o ran datblygu a defnyddio鈥檙 technolegau newydd grymus hyn.

Mae Bargen Sector Deallusrwydd Artiffisial y Llywodraeth yn darparu glasbrint clir ar gyfer y modd y gall y DU arwain y blaen ar lefel fyd-eang o ran deallusrwydd artiffisial sy鈥檔 arloesol, yn gyfrifol ac yn foesegol. Mae鈥檙 fargen sector yn canolbwyntio ar faterion allweddol cynnal arweinyddiaeth a chynyddu defnydd, gan ddatblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen yn yr arfaeth, ynghyd 芒鈥檙 foeseg. Er mwyn sicrhau llwyddiant bydd angen i gwmn茂au deallusrwydd artiffisial chwarae rhan fanwl yn y broses.

Yn 么l Gerard Grech, Prif Swyddog Gweithredol Tech Nation:

Un o鈥檙 newidiadau mwyaf y mae鈥檙 DU yn eu hwynebu yn ystod y 10 mlynedd nesaf yw鈥檙 newid technolegol, a bydd datblygiad deallusrwydd artiffisial yn rhan amlwg o鈥檙 newid hwnnw. Mae angen i鈥檙 DU ei dderbyn a鈥檌 siapio. Fel canolfan fyd-eang gydnabyddedig o ran arbenigrwydd deallusrwydd artiffisial, gyda chwmn茂au fel DeepMind, Improbable a 5AI, mae鈥檙 DU mewn sefyllfa wych, a thrwy greu rhwydweithiau cryf o wybodaeth ac arbenigedd a rennir, gallwn ei gwneud hyd yn oed yn gryfach.

Mae Tech Nation yn awchu i gychwyn ar y gwaith o lunio ei raglen gyntaf ar gyfer y cwmn茂au deallusrwydd artiffisial sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y DU y flwyddyn nesaf, a fydd yn gymorth i鈥檙 rheini sydd wedi profi eu potensial i gyrraedd y lefel nesaf.

Yn 么l Hugh Milward, Uwch Gyfarwyddwr, Materion Corfforaethol, Allanol a Chyfreithiol, Microsoft UK:

Mae鈥檙 DU mewn sefyllfa i wneud pethau gwych ym maes deallusrwydd artiffisial. Os gall y Fargen Sector sicrhau bod y modd y datblygir deallusrwydd artiffisial yn foesegol, yn gynhwysol ac yn gyfrifol yna bydd gan y DU, fel cartref tad deallusrwydd artiffisial, Alan Turing, ddyfodol disglair fel canolfan deallusrwydd artiffisial sy鈥檔 arwain y byd ar ddeallusrwydd artiffisial.

Nodiadau i olygyddion:

  • Gall deallusrwydd artiffisial fod 芒 goblygiadau sy鈥檔 trawsnewid pob agwedd ar ein bywydau a phob sector o鈥檙 economi. Mae鈥檙 wobr economaidd yn amlwg: y potensial o ychwanegu 10% at gynnyrch domestig gros y DU erbyn 2030 os caiff ei fabwysiadu ar raddfa eang (PWC), a hwb o hyd at 30% i gynhyrchiant (Bank of America).
  • Mae鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn 2017 yn dilyn yr adolygiad annibynnol o ddeallusrwydd artiffisial yn y DU yn 2017, 鈥楪rowing the Artificial Intelligence Industry in the UK鈥�, yn ymrwymo i鈥檙 Her Fawr o roi鈥檙 DU ar flaen gad yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial a data, gan gynorthwyo sectorau i hybu eu cynhyrchiant trwy gyfrwng technolegau newydd, helpu pobl i ddatblygu鈥檙 sgiliau y mae arnynt eu hangen ac arwain y byd o ran y defnydd diogel, moesegol o ddata.
  • Y Fargen Sector yw鈥檙 fenter fawr gyntaf dan yr her fawr, a amlinellodd gynigion ynghylch sut y gallai鈥檙 llywodraeth weithio gyda鈥檙 diwydiant i aros ar y blaen i鈥檙 gystadleuaeth a chynyddu defnydd y DU o ddeallusrwydd artiffisial ledled yr economi mewn modd diogel a moesegol, er budd pawb yn y gymdeithas.
  • Bydd y Ganolfan Moeseg Data ac Arloesi dros dro yn cychwyn gweithio ar faterion allweddol yn ddi-oed, a defnyddir ei chanfyddiadau i lywio cynllun terfynol a rhaglen waith y Ganolfan barhaol, a fydd yn cael ei sefydlu ar sail statudol maes o law. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Ganolfan barhaol yn cael ei lansio鈥檔 fuan.
  • Rydym yn cyhoeddi heriau newydd lle byddwn yn gweithio gyda鈥檙 diwydiant i ddatblygu defnydd arloesol o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau dadansoddol uwch trwy gyfrwng Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, sy鈥檔 werth 拢1.7 biliwn. Ymhlith y rhain mae Gwasanaethau鈥檙 Genhedlaeth Nesaf, Diagnosteg Gynnar a Meddygaeth Fanwl, a Thrawsnewid Cynhyrchu Bwyd.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Ebrill 2018