Datganiad i'r wasg

Techniquest i gael 拢3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu canolfan STEM

Chwe chanolfan wyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig i gael hwb ariannol i ysbrydoli rhagor o ymwelwyr i archwilio a darganfod gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Bydd 拢13 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn chwe chanolfan wyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig i helpu i gyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i bobl o gwmpas y wlad
  • Bydd Techniquest ym Mae Caerdydd yn cael 拢3 miliwn i ddatblygu canolfan STEM, gan amrywio ei gynulleidfaoedd drwy gyfrwng cynnwys newydd arloesol.
  • Bydd y Canolfannau Gwyddoniaeth llwyddiannus yn Yr Alban, Cymru a Lloegr hefyd yn defnyddio鈥檙 arian i ddatblygu modelau busnes cynaliadwy er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus am flynyddoedd i ddod

Heddiw, cafodd chwe Chanolfan Wyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig chwistrelliad o 拢13 miliwn o gyllid i helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr newydd.

Bydd Catalyst yn Widnes, Canolfan Wyddoniaeth Dundee, Eureka! Mersey, Canolfan Wyddoniaeth Glasgow, y Ganolfan Wyddoniaeth Genedlaethol yng Nghaerl欧r, a Techniquest yng Nghaerdydd i gyd yn cael cyllid newydd ar 么l cyflwyno cynlluniau cyffrous i gysylltu 芒 chynulleidfaoedd a chymunedau nad ydyn nhw鈥檔 ymweld 芒 chanolfannau gwyddoniaeth nac yn ymgysylltu 芒 dysgu ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ar hyn o bryd.

Bydd yr arian yn helpu pob canolfan i greu gweithgareddau dysgu newydd i helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd, gwella eu cyfleusterau a datblygu modelau busnes cynaliadwy.

Yng Nghymru, bydd y Brifddinas Wyddoniaeth yn trawsnewid Techniquest, gan ei ymestyn i ganolfan STEM gyfoes, ac amrywio ei gynulleidfaoedd. Bydd yn cyflwyno cynnwys newydd arloesol, a ddatblygwyd gyda busnesau ac academyddion sydd ar flaen y gad yn y maes STEM yng Nghymru, ac fe鈥檌 hategir gan raglen o gydgynhyrchu cymunedol, gan amlygu鈥檙 r么l y mae technolegau STEM yn ei chwarae i ffurfio dyfodol ein cymdeithas.

Bydd y cyllid newydd yn cael ei gyflwyno drwy鈥檙 Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth, sy鈥檔 fenter ar y cyd gan Wellcome a鈥檙 Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yw cynorthwyo cynulleidfaoedd nad ydyn nhw wedi eu gwasanaethu na鈥檜 cynrychioli鈥檔 ddigonol, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ac ymgysylltu 芒 gwyddoniaeth sy鈥檔 hygyrch i bawb drwy Ganolfannau Gwyddoniaeth o gwmpas y wlad.

Ar ei ymweliad 芒 Techniquest yng Nghymru, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw am y cyllid yn hwb derbyniol iawn i lawer o ganolfannau gwyddoniaeth ar draws y Deyrnas Unedig, ac ni allaf feddwl am dderbynnydd mwy teilwng na Techniquest ym Mae Caerdydd.

Mae鈥檙 ganolfan yn gartref i lawer o atgofion melys plant ac oedolion De Cymru ac ymhellach i ffwrdd, a oedd o bosibl yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth a thechnoleg am y tro cyntaf wrth ymweld 芒鈥檙 ganolfan. Bydd yr arian hwn yn galluogi Techniquest i gamu ymlaen i ddatblygu technoleg STEM arloesol, gan ddenu rhai o feddyliau gwyddonol mwyaf craff Cymru i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu ein cymdeithas yn y dyfodol.

Dywedodd Sam Gyimah, y Gweinidog Gwyddoniaeth:

Rydyn ni eisiau cyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i gynulleidfa mor eang 芒 phosibl, a dyna pam ei fod wrth wraidd ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern. Bydd y buddsoddiad heddiw yn helpu i ysbrydoli pobl o bob cwr o鈥檙 wlad i ddysgu am y manteision gwirioneddol anhygoel sydd gan wyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer ein holl fywydau.

Dywedodd Simon Chaplin, Cyfarwyddwr Diwylliant a Chymdeithas yn Wellcome:

Yn Wellcome, rydym yn canolbwyntio ar bobl, ac mae ein gweithgarwch ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd yn ymwneud 芒 helpu pawb i chwarae eu rhan eu hunain i wella iechyd. Mae鈥檙 Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn galluogi canolfannau gwyddoniaeth ar draws y wlad i ddod 芒 gwyddoniaeth, iechyd ac ymchwil yn nes at y cyhoedd.

Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae鈥檙 canolfannau llwyddiannus yn datblygu a sut maen nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 arian hwn i gynnwys rhagor o bobl nag erioed o鈥檙 blaen mewn gwyddoniaeth mewn ffordd sy鈥檔 berthnasol ac yn ddefnyddiol i鈥檞 bywydau eu hunain.

Dywedodd Lesley Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Techniquest:

Rydyn ni ar ben ein digon ein bod ni wedi cael y cyllid hwn, ac rydym yn ddiolchgar i BEIS a Wellcome am gredu yn ein huchelgeisiau. Mae鈥檔 benllanw dros flwyddyn a hanner o waith caled gan ein t卯m talentog, sy鈥檔 hynod o frwd dros y cam nesaf hwn yn ein hesblygiad.

Mae鈥檔 golygu bod ein cynlluniau i ehangu ein canolfan darganfod gwyddoniaeth, ac ymestyn ein darpariaeth i sicrhau bod gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb, yn gallu symud ymlaen o ddifrif, gan roi hwb newydd i鈥檔 helusen, a sicrhau dyfodol cynaliadwy a hirdymor yng Nghymru.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth

Caiff y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth ei chyd-gyllido gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) a Wellcome. Bydd r么l BEIS yn trosglwyddo i UK Research and Innovation yn 2018. Mae鈥檙 cynllun yn cynorthwyo canolfannau gwyddoniaeth i ailystyried yr hyn maen nhw鈥檔 ei wneud a鈥檙 hyn maen nhw鈥檔 ei gynnig i鈥檙 cyhoedd. Nodau鈥檙 gronfa yw adfywio darpariaeth canolfannau gwyddoniaeth sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod drwy ddatblygu cyfalaf, fel mannau arddangos a chanolfannau dysgu newydd, a鈥檙 cyfle i ddatblygu ymgysylltiad ystyrlon 芒 chynulleidfaoedd nad ydyn nhw鈥檔 cael eu gwasanaethu na鈥檜 cynrychioli鈥檔 ddigonol. Bydd y cyfle hwn i adfywio sut bydd canolfannau gwyddoniaeth yn gweithredu yn arwain at fodelau busnes mwy cynaliadwy, ac yn cyfrannu at ddatblygu sector y canolfannau gwyddoniaeth drwy ddysgu ar y cyd.

Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

Mae鈥檙 Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn dod 芒鈥檙 cyfrifoldebau dros fusnes, strategaeth ddiwydiannol, gwyddoniaeth, arloesi, ynni a newid yn yr hinsawdd ynghyd. Mae鈥檙 Adran yn gyfrifol am: ddatblygu a chyflwyno strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr ac arwain perthynas y llywodraeth 芒 busnes; sicrhau bod gan y wlad gyflenwadau ynni diogel sy鈥檔 ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn l芒n; sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi; a mynd i鈥檙 afael 芒 newid yn yr hinsawdd. Bydd gweinyddu鈥檙 Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn cael ei drosglwyddo鈥檔 fuan i UKRI (UK Research and Innovation).

Wellcome

Mae Wellcome yn bodoli i wella iechyd pawb drwy helpu syniadau gwych i ffynnu. Rydym yn sefydliad elusennol byd-eang, ac yn annibynnol o safbwynt gwleidyddol ac ariannol. Rydym yn cefnogi gwyddonwyr ac ymchwilwyr, yn ymgymryd 芒 phroblemau mawr, yn tanio dychymyg, ac yn sbarduno trafodaeth.

UKRI

Bydd UK Research and Innovation (UKRI), y sefydliad cyllido newydd ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y Deyrnas Unedig, yn olynu BEIS fel cyd-gyllidwr y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn ddiweddarach yn 2018. Mae UKRI yn dwyn ynghyd saith cyngor ymchwil y Deyrnas Unedig, Innovate UK a sefydliad newydd o鈥檙 enw Research England, gan gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檌 sefydliadau partner yn y gweinyddiaethau datganoledig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Awst 2018