Stori newyddion

Mae Llywodraeth y DU am i bob rhan o'r DU ffynnu yn sgil ymadael 芒'r Undeb Ewropeaidd

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ysgrifennu yn y Western Mail.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Alun Cairns

Ugain mlynedd yn 么l, pleidleisiodd pobl Cymru dros greu Cynulliad Cenedlaethol ac i roi cyfrifoldeb dros ystod o bwerau i鈥檙 ddeddfwrfa honno.

Wrth inni baratoi i nodi pen-blwydd y garreg filltir gyfansoddiadol honno, rydym nawr yn rhan o genhadaeth hanesyddol arall pan fydd y DU yn ymadael 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd ac yn dechrau ar y broses o ddod ag ystod o bwerau newydd yn 么l o Frwsel i鈥檙 DU.

Bydd y Bil Ymadael 芒鈥檙 UE yn 么l gerbron y Senedd unwaith eto yn hwyrach ymlaen yr wythnos hon ar gyfer ail ddarlleniad. Lluniwyd y Bil gyda鈥檙 nod o sicrhau bod y DU yn ymadael 芒鈥檙 UE gyda chymaint 芒 phosibl o sicrwydd, parhad a rheolaeth o鈥檙 diwrnod cyntaf un.

Mae鈥檙 Bil hefyd yn ymwneud 芒 chefnogi ein heconomi drwy ddarparu eglurder i fusnesau ynghylch ein dull a鈥檙 math o reoliadau y bydd yn rhaid iddynt weithio o鈥檜 mewn yn y dyfodol.

Ac mae llawer iawn o dir cyffredin rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Bil.
Mae鈥檙 ddwy lywodraeth yn gyt没n y bydd yn rhaid cael dull ar lefel y DU gyfan mewn rhai meysydd penodol os ydym am gadw鈥檙 manteision sydd ynghlwm 芒 marchnad fewnol y DU. Rydym hefyd yn cytuno y dylai rhai pwerau sydd wedi bod yn nwylo Brwsel gael eu trosglwyddo i Gaerdydd.

Ac mae bargeinion dinesig wedi dangos nad oes yn rhaid cyfyngu datganoli i Fae Caerdydd, mae hefyd yn bosibl datganoli pwerau i gymunedau lleol.

Mae鈥檔 bwysig cydnabod bod holl genhedloedd y Deyrnas Unedig yn cael eu cynrychioli yn nhrafodaethau鈥檙 cabinet gan Ysgrifennydd Gwladol penodol bob cenedl. Rwy鈥檔 ymfalch茂o yn y ffaith mai fi yw llais Cymru, gan ystyried yn ofalus beth yw gofynion ein diwydiant a鈥檔 heconomi sy鈥檔 tyfu ochr yn ochr 芒 gwleidyddion eraill sydd, ar adegau, 芒 barn wahanol.

Mae gan Lywodraeth y DU hanes da o ddatganoli pwerau i Gymru. Ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd Deddf Cymru yn rhoi pwerau ychwanegol i鈥檙 Cynulliad dros drafnidiaeth, ynni, trefniadau etholiadol a chyfraddau treth incwm.

Byddwn yn cynnal ein hanes da o ran datganoli nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a dinasoedd a rhanbarthau ledled y DU gyfan.

Ond nid yw o fudd i neb i gael bylchau yn y gyfraith pan fydd y DU yn ymadael 芒鈥檙 UE. Nid yw o fudd i neb chwaith i greu rhwystrau neu gostau newydd o fewn y DU wrth inni ymadael 芒鈥檙 UE. Mae hyn yn golygu y bydd angen dull gweithredu cyffredin ar lefel y DU yng nghyswllt nifer o feysydd.

Er enghraifft, ni fyddai鈥檔 gwneud synnwyr pe bai cynhyrchydd bwyd sydd wedi鈥檌 leoli yng Nghymru yn gorfod argraffu labeli gwahanol er mwyn gwerthu ei gynnyrch yn Lloegr oherwydd rheoliadau gwahanol. Nid yn unig y byddai hyn yn niweidio masnachu o fewn y DU, gallai hefyd ein gwneud yn lle llai deniadol o ran taro bargeinion masnach gyda gwledydd eraill.

Felly, heddiw, bydd Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol a minnau yn cyfarfod 芒 Carwyn Jones i drafod fframweithiau ar gyfer marchnad y DU. Byddaf hefyd yn cadeirio鈥檙 cyntaf o gyfarfodydd rheolaidd 芒鈥檔 Panel Gweithredu Arbenigol ar gyfer Cymru er mwyn helpu i sicrhau y bydd y broses o ymadael 芒鈥檙 UE yn mynd rhagddi鈥檔 drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.

Wrth i ni gymryd rheolaeth yn 么l gan yr UE, rydym am sicrhau bod gan bobl y DU fwy o rym a llais nag erioed o鈥檙 blaen. Gydol y broses hon, bydd pob penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru neu鈥檙 Cynulliad yn ei wneud yn cael ei gadw鈥檔 ddiogel. Wrth i鈥檙 trafodaethau fynd rhagddynt, rydym yn disgwyl y bydd mwy o bwerau yn llifo o Frwsel i Fae Caerdydd. Mae hyn yn hollol groes i fachu grym ac mae hawliadau o鈥檙 fath ar ran rhai gwleidyddion yn galw am graffu gwirioneddol.

Rydym wedi nodi鈥檔 glir mai trefniant dros dro yw dod 芒 phwerau o Frwsel yn 么l i San Steffan er mwyn hwyluso trafodaethau manwl rhwng y ddwy lywodraeth yng Nghymru ynghylch y meysydd hynny y bydd angen i ni barhau i weithio arnynt gyda鈥檔 gilydd, gyda fframweithiau rheolau cyffredin, a meysydd sydd ddim yn galw am ddull cyffredin y gellir eu datganoli鈥檔 syth i Fae Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU am i bob rhan o鈥檙 DU ffynnu yn sgil ymadael 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd. Mae potensial pob cornel o Gymru yn hanfodol bwysig i mi a Llywodraeth y DU wrth i ni ymadael a鈥檙 UE.

Mae ymadael 芒鈥檙 UE yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni nawr greu r么l newydd i鈥檙 DU yn y byd. Mae hyn yn galw am ymagwedd gadarnhaol a chyfrifol gan swyddogion y llywodraeth. Gweithio gyda鈥檔 gilydd yw鈥檙 nod i sicrhau鈥檙 fargen orau i Gymru a鈥檙 DU i gyd.

Yn sicr, rydym mewn cyfnod o newid mawr, felly mae鈥檔 bwysicach fyth ein bod yn rhoi sicrwydd i fusnesau a diwydiannau sy鈥檔 creu ac yn cynnal swyddi ledled Cymru. Ond mae cyfleoedd gwirioneddol hefyd yng nghanol y newid, tebyg i鈥檙 cytundebau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn Japan yr wythnos ddiwethaf.

Yr hyn y mae Damian Green a minnau鈥檔 ei wneud heddiw drwy gyfarfod 芒 Phrif Weinidog Cymru wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd a dod 芒 phobl o fyd diwydiant yng Nghymru at ei gilydd yw dangos y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn gweithredu er lles gorau economi Cymru.

Rwyf yn hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud gwir gynnydd yn ystod ein cyfarfodydd yng Nghaerdydd heddiw a, gyda鈥檔 gilydd, gallwn sicrhau y bydd Brexit yn llwyddiant i Gymru ac i鈥檙 DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Medi 2017