Stori newyddion

Miloedd o brentisiaid i gymryd rhan mewn astudiaeth fawr o gyflogau

Mae Arolwg T芒l Prentisiaeth 2016 yn brosiect ymchwil pwysig sy鈥檔 darparu gwybodaeth am hyfforddiant, oriau a chyflog gan y rheiny sy鈥檔 gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Bydd y Llywodraeth yn defnyddio鈥檙 canfyddiadau i鈥檞 helpu i osod polisi t芒l yn gyffredinol ac i wneud gwelliannau i hyfforddiant prentisiaid. Ni fydd y canfyddiadau鈥檔 cael eu defnyddio i dargedu prentisiaid neu gyflogwyr penodol neu ar gyfer gweithredu camau gorfodi.

Bydd IFF Research, sy鈥檔 gorff ymchwilio annibynnol, yn gwneud cyfweliadau ff么n byrion gydag oddeutu 10,000 o brentisiaid a byddent yn gofyn cwestiynau am d芒l ac oriau.

Bydd prentisiaid yn cael eu holi am faterion megis:

  • nifer yr oriau gwaith mewn wythnos arferol.

  • nifer yr oriau ychwanegol ar gyfer dysgu a hyfforddi ar ben eich gwaith arferol. (Gallai hyn gynnwys mynd i鈥檙 coleg, cyrsiau, gweithdai neu sesiynau hyfforddi yn y gweithle neu a gynhelir yn allanol, dysgu o gartref, dysgu o werslyfrau, amser gyda鈥檆h asesydd, ac amser yn llenwi portffolio.)

  • beth yw eich t芒l (yn ddelfrydol faint rydych yn ei ennill mewn termau gros h.y. cyn treth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill).

Bydd yr atebion i鈥檙 cwestiynau yma鈥檔 ein galluogi i edrych ar lefelau cyflog yn genedlaethol, mesur newidiadau ers blynyddoedd blaenorol ac i fonitro a yw cyflogwyr yn glynu at y rheolau ar gyflog teg.

Bydd prentisiaid sy鈥檔 cael eu dewis i gymryd rhan yn yr arolwg yn derbyn llythyr cyn derbyn galwad gan un o鈥檙 ymchwilwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mai 2016 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.