Datganiad i'r wasg

Swyddfa yfory, heddiw - Alun Cairns yn agor swyddfa ynni positif gyntaf y DU yn Abertawe

Bydd swyddfa ynni positif gyntaf y DU, sy'n creu mwy o ynni solar nag y mae'n ei ddefnyddio, yn agor ym Mhrifysgol Abertawe heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Ar hyn o bryd mae adeiladau鈥檔 cyfrif am oddeutu 40% o鈥檙 ynni a ddefnyddir yn y DU. Mae鈥檙 adeilad newydd hwn, a adwaenir fel y Swyddfa Weithredol, yn dangos y ffordd i genhedlaeth newydd o swyddfeydd carbon isel sy鈥檔 cynhyrchu eu cyflenwad eu hunain o ynni gl芒n.

Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fydd yn agor y swyddfa. Fe鈥檌 dyluniwyd gan SPECIFIC, Canolfan Arloesi a Gwybodaeth a arweinir gan Brifysgol Abertawe.

Mae鈥檙 Swyddfa Weithredol yn cyfuno ystod o dechnolegau arloesol a fydd yn ei galluogi i greu, storio a rhyddhau ynni solar mewn un system integredig, gan gynnwys:

  • To crwm gyda chelloedd solar integredig - gan ddangos natur hyblyg y panel ffotofolt盲ig laminedig;
  • System Thermol Ffotofolt盲ig ar y wal sy鈥檔 wynebu鈥檙 de 鈥� sy鈥檔 gallu creu gwres a thrydan o鈥檙 haul mewn un system
  • Batris lithiwm-ion i storio鈥檙 trydan a gynhyrchir a thanc d诺r 2,000 litr i storio gwres solar

Gwelwyd yn barod fod y cysyniad 鈥榓deiladau fel gorsafoedd p诺er鈥� yn gweithio. Mae鈥檙 Ystafell Ddosbarth Weithredol, sef ystafell ddosbarth ynni cadarnhaol gyntaf y DU, drws nesaf i鈥檙 Swyddfa Weithredol. Fe鈥檌 hadeiladwyd gan SPECIFIC ac yn ddiweddar enwodd RICS Cymru y prosiect hwn yn Brosiect y Flwyddyn. Yn ei blwyddyn gyntaf, llwyddodd yr Ystafell Ddosbarth Weithredol i gynhyrchu dros 1.5 gwaith yr ynni a ddefnyddiodd.

Caiff y Swyddfa Weithredol a鈥檙 Ystafell Ddosbarth eu cysylltu ynghyd a byddant yn gallu rhannu ynni 芒鈥檌 gilydd a cherbydau trydan, gan ddangos sut y gellid cymhwyso鈥檙 cysyniad mewn cymuned p诺er solar sy鈥檔 hunangynhaliol o ran ynni.

Byddant yn darparu mannau dysgu a swyddfeydd ymarferol, yn ogystal 芒 chyfleusterau ar raddfa adeilad ar gyfer SPECIFIC a鈥檌 bartneriaid diwydiannol.

Gallai adeiladau ynni cadarnhaol fod o fudd sylweddol i鈥檙 DU. Dangosodd dadansoddiad yn 2017 y byddai鈥檔 golygu:

  • Costau ynni is i ddefnyddwyr
  • Llai o angen i gynhyrchu p诺er canolog yn y cyfnodau brig a llai o straen ar y Grid Cenedlaethol, gan arwain at ddiogelwch ynni gwell
  • Llai o allyriadau carbon

Mae鈥檔 hawdd atgynhyrchu鈥檙 math hwn o swyddfa o ganlyniad i鈥檙 modd iddi gael ei dylunio. Mae鈥檙 gwaith adeiladu鈥檔 gyflym, gan gymryd un wythnos yn unig i鈥檞 rhoi at ei gilydd, gyda llawer o鈥檙 gwaith adeiladu鈥檔 digwydd oddi ar y safle. Mae鈥檔 defnyddio technolegau sydd ar gael yn fasnachol yn barod yn unig, sy鈥檔 golygu nad oes rheswm pam na ellid eu defnyddio ar unrhyw adeilad newydd.

Meddai Kevin Bygate, prif swyddog gweithredol SPECIFIC:

Mae swyddfeydd yn defnyddio symiau enfawr o ynni, felly trwy eu gwneud yn gadarnhaol o ran ynni, mae potensial i leihau biliau tanwydd a lleihau eu hallyriadau carbon yn sylweddol.

Mae troi鈥檔 hadeiladau鈥檔 orsafoedd p诺er yn gysyniad sy鈥檔 gweithio, fel y dengys yr Ystafell Ddosbarth Weithredol. Bydd yr adeilad newydd hwn yn ein galluogi i gael data a thystiolaeth ynghylch sut y gellid ei ddefnyddio ar gyfer swyddfa, gan ein helpu i fireinio鈥檙 dyluniad ymhellach.

Er mai dyma鈥檙 Swyddfa Weithredol gyntaf o鈥檌 math, nid yw鈥檔 unigryw. Mae鈥檔 gyflym ei adeiladu gan ddefnyddio cadwyni cyflenwi sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, ac mae鈥檔 defnyddio deunyddiau sydd ar gael yn barod yn unig. Dyma Swyddfa fory, ond gall gael ei hadeiladu heddiw.

Dywedodd Ian Campbell, Cadeirydd Gweithredol Innovate UK:

Mae鈥檔 anodd gorbwysleisio potensial datblygu adeilad sy鈥檔 pweru ei hun. Gallai鈥檙 cysyniad chwyldroi鈥檙 sector adeiladu yn wirioneddol, ac ar ben hynny newid sut rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni yn gyfan gwbl, felly mae agor y Swyddfa Weithredol yn Abertawe yn gam cyffrous ymlaen.

Gall datblygu technolegau fel y rhai a welir yn Swyddfa Weithredol SPECIFIC chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddiwydiannol fodern y Llywodraeth i greu 鈥榯wf gl芒n鈥� ac i gyflawni ein cenhadaeth i haneru allyriadau o adeiladau newydd erbyn 2030.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy鈥檔 hynod falch o agor y Swyddfa Weithredol, sy鈥檔 enghraifft fyw o sut y gall adeilad wneud gwahaniaeth i ni ac i鈥檙 amgylchedd gan ddefnyddio technolegau arloesol 鈥� ac yr un mor bwysig, creu swyddi yng Nghymru.

Mae gan ymchwil ac arloesi record brofedig o ysgogi ein heconomi. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn gefnogwr balch o鈥檙 prosiect, a鈥檙 llynedd rhoddodd 拢800,000 iddo drwy Innovate UK.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn uchelgeisiol ynghylch Abertawe, a disgwylir y bydd Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn creu mwy na 9,000 o swyddi a gwerth 拢1.3biliwn o fuddsoddiadau ar draws y rhanbarth.

Does gen i ddim amheuaeth y byddaf yn 么l ym Mhrifysgol Abertawe yn y dyfodol agos oherwydd y cynnydd mawr ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil, sy鈥檔 cael ei gydnabod ledled y byd.

Ariannwyd y Swyddfa Weithredol gan Innovate UK, gyda chymorth Prifysgol Abertawe a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ac fe鈥檌 noddir gan Tata Steel a Cisco.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mehefin 2018