Bwrdd Pontio yn symud o drafod i gyflawni wrth i Ysgrifennydd Cymru gadeirio ei chyfarfod cyntaf
Mae Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, wedi gofyn am gynllun gweithredu brys i gefnogi gweithlu Tata Steel a鈥檙 gadwyn gyflenwi.

Welsh Secretary Jo Stevens at the Tata Steel/Port Talbot Transition Board.
Mae Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, wedi gofyn am gynllun gweithredu brys i gefnogi鈥檙 gweithlu a鈥檙 gadwyn gyflenwi, wrth iddi gadeirio cyfarfod cyntaf Bwrdd Pontio Dur Port Talbot/Tata dan y llywodraeth newydd.聽
Mae鈥檙 Bwrdd Pontio bellach wedi symud o drafod i gyflawni.聽
Fel rhan o gyfraniad gwerth 拢20 miliwn i鈥檙 Bwrdd Pontio, bydd Tata Steel yn dechrau gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i roi cyfle i weithwyr cynhyrchu ym Mhort Talbot drosi鈥檙 sgiliau y maen nhw wedi鈥檜 hennill wrth weithio yn Tata Steel yn gymwysterau sy鈥檔 cael eu cydnabod yn genedlaethol, a fydd yn eu helpu i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.聽
Mae Tata Steel hefyd wedi ail-gadarnhau ei ymrwymiad i gynnig pecyn dileu swyddi gwell ac mae wedi dechrau gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan weithwyr a fydd yn para tan 7 Awst.
Mae Ms Stevens, a benodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan y Prif Weinidog yn dilyn Etholiad Cyffredinol 4 Gorffennaf, wedi cymryd yr awenau fel cadeirydd y Bwrdd.聽
Roedd cyfarfod y Bwrdd Pontio heddiw (11 Gorffennaf 2024) yn cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, undebau, Llywodraeth Cymru a gwleidyddion lleol ac roedd yn cynnwys newid yn y ffordd y mae鈥檙 bwrdd yn cael ei gadeirio.聽
Wrth arwain ei chyfarfod cyntaf, comisiynodd Ysgrifennydd Cymru鈥檙 bwrdd i gydweithio鈥檔 gyflym i gyflwyno opsiynau ar sut i gefnogi busnesau a gweithwyr y mae cynllun trawsnewid Tata Steel yn effeithio arnyn nhw.
Bydd y broses hon yn rhedeg ochr yn ochr 芒 thrafodaethau parhaus gyda Tata Steel yngl欧n 芒 dyheadau鈥檙 busnes yn y DU yn y dyfodol.聽
Mae llawer o swyddi contractwyr a chadwyn gyflenwi yn dibynnu鈥檔 uniongyrchol ar y prosesau sydd eisoes wedi dod i ben yng ngwaith dur Port Talbot, gyda chau Ffyrnau Golosg Morfa a Ffwrnais Chwyth 5.聽
Eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd y bydd y bwrdd yn bartneriaeth gyfartal rhwng cynrychiolwyr gwleidyddol, busnesau ac undebau o hyn ymlaen.聽
Ym Mhort Talbot, bu Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cwrdd 芒 gweithwyr dur presennol mewn caffi lleol lle bu鈥檔 trafod eu pryderon am ddyfodol Tata Steel yn y dref, bu鈥檔 ymweld ag Academi Sgiliau Tata Steel gan gwrdd 芒 phrentisiaid, ac yn ddiweddarach teithiodd i RunTech yn Abertawe 鈥� cwmni logisteg yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel 鈥� i glywed sut y bydd yn effeithio ar weithwyr yno.聽
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:聽
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ein diwydiant dur yng Nghymru ac mae wedi ailosod ein dull gweithredu o ran sut rydym ni鈥檔 gweithio gyda busnesau a chymunedau, a hynny ar unwaith. Byddwn ni鈥檔 cydweithio gydag un ffocws i gefnogi ein diwydiant dur a鈥檙 cymunedau y mae鈥檔 effeithio arnyn nhw.
Ond mae busnesau a gweithwyr eisoes yn teimlo effaith trawsnewid Tata Steel.聽Mae鈥檙 amser ar gyfer siarad wedi dod i ben. Heddiw, rydw i wedi comisiynu asesiad cyflym o sut y gallwn ni gynnig cymorth ar unwaith a bydd cyhoeddiadau pellach yn dilyn yn fuan.
Byddwn ni鈥檔 cyflawni ar gyfer gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot ac ar draws De Cymru, beth bynnag sy鈥檔 digwydd.