Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru'n cyfarfod er mwyn symud trafodaethau Brexit yn eu blaenau

Bydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green, yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ynghyd ag arweinwyr Awdurdodau Lleol i symud trafodaethau Brexit yn eu blaenau

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
First Secretary of State Damian Green meets Welsh Secretary Alun Cairns and First Minister Carwyn Jones

Cynhelir rownd nesaf trafodaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am Brexit y bore yma (dydd Iau 30 Tachwedd) yng Nghaerdydd, lle bydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cwrdd 芒 Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Y cyfarfod hwn yw鈥檙 diweddaraf mewn cyfres o drafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth i helpu i benderfynu lle bydd y pwerau sy鈥檔 dychwelyd yn 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig o鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn mynd yn y dyfodol. Mae鈥檔 dilyn cyfarfod cadarnhaol ac adeiladol rhwng y tri gweinidog ar 11 Hydref.

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng Damian Green, Alun Cairns ac arweinwyr Awdurdodau Lleol Cymru yn gynharach heddiw, i drafod bargeinion twf yn y dyfodol, ac effaith bosib Brexit ar drefniadau ariannu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 trafodaethau hyn yn gyfle i鈥檙 holl bart茂on symud tuag at gael cytundeb ynghylch sut dylid rhannu pwerau wrth iddyn nhw ddychwelyd o Ewrop.

Mae鈥檔 hanfodol ein bod ni鈥檔 sicrhau bod Brexit yn llwyddiant i bawb, ac mae cael cytundeb ynghylch lle bydd penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud ar 么l i ni adael yr Undeb, er budd pawb. Mae sicrhau bod pobl Cymru wrth galon y broses o wneud penderfyniadau yn flaenoriaeth i鈥檙 ddwy lywodraeth, ac ni fydd yn fater o orfodi penderfyniadau.

Rhaid i ni beidio 芒 chreu unrhyw rwystrau newydd i fyw a gwneud busnes yn y Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod ni eisoes wedi cytuno yngl欧n 芒鈥檙 angen am fframweithiau cyffredin mewn rhai meysydd.

Rwy鈥檔 edrych ymlaen at barhau i gael trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni drafod ein llwybr allan o鈥檙 Undeb Ewropeaidd.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2017