Dyraniadau PAC y DU yn cynnig y fargen orau i ffermwyr Cymru
Cyllideb PAC gwerth 拢20biliwn i鈥檞 rhannu鈥檔 deg rhwng pedair gweinyddiaeth y DU
Farmland in Wales
Dal gafael ar gyfrannau rhanbarthol presennol y taliadau uniongyrchol o gyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd wedi鈥檜 dyrannu i鈥檙 DU yw鈥檙 fargen orau i ffermwyr Cymru meddai Gweinidogion Swyddfa Cymru heddiw (8 Tachwedd).
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y gyfran o gyllideb 拢20biliwn y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a gaiff ffermwyr yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban dros y saith mlynedd nesaf yr un fath ag y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymgynghoriad helaeth 芒鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig, mae鈥檙 llywodraeth wedi penderfynu rhannu鈥檙 newid yng nghyllid y PAC yn y cyfnod cyfredol o saith blynedd yn deg rhwng pedair gweinyddiaeth y DU.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, a鈥檙 Farwnes Jenny Randerson, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sy鈥檔 gyfrifol am y portffolio materion gwledig, wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd 芒 chyrff ffermio yng Nghymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth o safbwynt Cymru a bod y safbwynt hwnnw wedi cael ei ystyried.
Dywedodd David Jones:
Mae鈥檙 cytundeb a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y Llywodraeth yn gwrando, a鈥檌 bod, yn y pen draw, wedi gweithredu er budd gorau holl ffermwyr y DU.
Mae Swyddfa Cymru a thimau Gweinidogol DEFRA wedi bod yn cydweithio鈥檔 agos 芒 swyddogion Llywodraeth Cymru, a chyda chyrff ffermio megis NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, wrth fynd ati i sicrhau鈥檙 cytundeb pwysig hwn.
Wrth wneud hyn, rydym wedi sicrhau canlyniadau sydd wedi ymdrin yn llwyddiannus 芒 phrif bryderon ffermwyr Cymru ac wedi sicrhau鈥檙 fargen orau bosibl iddynt. Mae hyn yn dangos yn glir y canlyniadau y gellir eu sicrhau pan mae Llywodraeth San Steffan a鈥檙 Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn cydweithio鈥檔 agos 芒鈥檌 gilydd er lles economi Cymru a鈥檙 DU ehangach.
Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson:
Drwy gydweithio鈥檔 agos 芒 Llywodraeth Cymru, rydym wedi sicrhau ein bod yn siarad ag un llais ac roedd hynny鈥檔 hanfodol.
Roedd yn hanfodol bwysig ein bod yn ceisio eu barn ar y dewisiadau dyrannu a luniwyd ar y cyd wrth geisio sicrhau setliad teg i ffermwyr Cymru.
Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn gallu dod i benderfyniad ynghylch sut i fwrw ymlaen 芒 rhoi rheoliadau鈥檙 PAC ar waith mewn ffordd sy鈥檔 diwallu anghenion ffermwyr Cymru orau gyda鈥檙 arian sydd ar gael iddynt.
Fel rhan o鈥檙 cytundeb, mae鈥檙 Llywodraeth wedi llwyddo i sicrhau y bydd y newid o daliadau hanesyddol i daliadau uniongyrchol ar sail ardal yn mynd rhagddo鈥檔 ddidrafferth. Byddant hefyd yn elwa o elfennau hyblyg eraill a sicrhawyd, megis y newidiadau a wnaed i鈥檙 trothwyon gwyrdd er mwyn lleddfu鈥檙 effaith ar ffermwyr sydd 芒 thir porfa barhaol yn bennaf.
Nodiadau i Olygyddion
Heddiw, mae鈥檙 llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi:
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o 鈧�2,299 miliwn, a dyraniad colofn 2 o 鈧�227 miliwn i Ogledd Iwerddon dros y cyfnod 2014-2020.
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o oddeutu 鈧�4,096 miliwn, a dyraniad colofn 2 o oddeutu 鈧�478 miliwn i鈥檙 Alban dros y cyfnod 2014-2020. *dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o 鈧�2,245 miliwn, a dyraniad colofn 2 o 鈧�355 miliwn i Gymru dros y cyfnod 2014-2020; a
- dyraniad (taliad uniongyrchol) colofn 1 o oddeutu 鈧�16,421 miliwn, a dyraniad colofn 2 o 鈧�1,520 miliwn i Loegr dros y cyfnod 2014-2020.
Mae hyn yn golygu y bydd pob Gweinyddiaeth yn wynebu toriad canrannol cyfartal yng nghyswllt colofn 1. Wedi ystyried barn y Gweinyddiaethau Datganoledig, mae鈥檙 Llywodraeth yn credu mai hwn yw鈥檙 setliad mwyaf priodol ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban.
- Ffigurau nominal yw鈥檙 rhai a nodir uchod (h.y. nid ydynt wedi cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant)
- Dros 2014-2020 bydd y DU yn cael taliadau uniongyrchol gwerth 鈧�25.1 biliwn. Dros yr un cyfnod bydd y DU yn cael 鈧�2.6 biliwn mewn cyllid colofn 2.
- Rhwng 2013/14 a 2019/20 bydd taliadau uniongyrchol y DU (colofn 1) yn gostwng 1.6 y cant. Wrth ei addasu ar gyfer chwyddiant (prisiau 2011), mae hyn gyfystyr 芒 gostyngiad o 12.6 y cant.
- Yng nghyswllt colofn 2, rhwng 2007 a 2013, a 2014 a 2020, bydd dyraniad y DU yn cynyddu 7.8 y cant. Wrth ei addasu ar gyfer chwyddiant (prisiau 2011), mae hyn gyfystyr 芒 gostyngiad o 5.5 y cant.
- Bydd y dyraniadau terfynol yn amodol ar gytundeb 芒 Senedd Ewrop ynghylch Cyllideb yr UE ar gyfer 2014-20.