Datganiad i'r wasg

Prif Ysgrifennydd Gwladol yn hyderus y bydd trafodaethau'n symud yn eu blaenau yng Nghaerdydd

Mae'r Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green AS, wedi datgan ei fod yn hyderus y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ymadael 芒'r Undeb Ewropeaidd yn symud yn eu blaenau heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

EU Exit

Bydd Mr Green yng Nghaerdydd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i drafod trefniadau o dan y Bil Ymadael 芒鈥檙 UE gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar gyfer dosbarthu pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o鈥檙 Undeb Ewropeaidd.

Bydd y ddau Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn ymweld 芒 Phrifysgol Caerdydd ac yn llywyddu cyfarfod cyntaf Panel Gweithredu Arbenigol Cymru ar gyfer Ymadael 芒鈥檙 UE yn Caspian Point.

Mae angen canfod y meysydd polisi a fydd yn galw am sefydlu fframweithiau cyffredin ar gyfer y DU yn ogystal 芒鈥檙 meysydd hynny y gellir eu datganoli i Gynulliad Cymru. Rhestrwyd y Bil Ymadael 芒鈥檙 EU ar gyfer Ail Ddarlleniad yn Nh欧鈥檙 Cyffredin ddydd Iau (7fed Medi).

Wrth siarad cyn y cyfarfod gyda鈥檙 Prif Weinidog, dywedodd Mr Green bod llawer o dir cyffredin rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod y ddwy lywodraeth yn cytuno bod angen diogelu manteision marchnad sengl y DU a throsglwyddo mwy o bwerau鈥檙 UE i Gaerdydd. Dywedodd bod hwn yn 鈥榙dull o sicrhau cynnydd鈥� yn y trafodaethau pwysig hyn.

Dywedodd Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol:

Pwrpas hyn yw sicrhau ein bod yn barod i adael yr UE. Y farchnad sengl yw un o brif asedau鈥檙 DU, ac mae鈥檔 sicrhau bod gwahanol rannau o鈥檙 DU yn gallu masnachu 芒鈥檌 gilydd yn rhwydd.

Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 cytuno y bydd angen dull gweithredu ar lefel y DU gyfan mewn rhai meysydd penodol os ydym am gadw鈥檙 manteision sy鈥檔 deillio o farchnad y DU.

Mae gan Lywodraeth y DU hanes da o ran datganoli pwerau i Gymru ac rydym wedi dweud sawl gwaith ei bod yn debygol y bydd gan Gymru fwy o bwerau ar ddiwedd y broses hon.

Rydw i鈥檔 hyderus y gallwn wneud cynnydd da drwy鈥檙 trafodaethau hyn. Rydw i am inni gytuno ar ffordd i symud ymlaen ac rydw i鈥檔 credu y dylem allu gwneud hynny鈥檔 rhwydd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y Bil Ymadael 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn rhoi鈥檙 sicrwydd a鈥檙 parhad sydd ei angen ar fusnesau ledled Cymru a gweddill y DU ar y diwrnod y byddwn yn ymadael. Rydym hefyd yn disgwyl y bydd canlyniad y broses hon yn arwain at gryn dipyn yn fwy o bwerau gwneud penderfyniadau ar gyfer pob gweinyddiaeth ddatganoledig.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol a chynhyrchiol o hyn ymlaen ac rydw i鈥檔 edrych ymlaen at gyfarfod adeiladol gyda鈥檙 Prif Weinidog ynghylch y materion pwysig hyn heddiw.

Yn hwyrach ymlaen, bydd y ddau Ysgrifennydd Gwladol yn casglu cynrychiolwyr o鈥檙 sectorau busnes ac amaethyddiaeth a鈥檙 trydydd sector yng Nghymru ynghyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Panel Gweithredu Arbenigol ar gyfer Cymru.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi sefydlu鈥檙 gr诺p i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael 芒鈥檙 UE yn mynd rhagddi鈥檔 drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.

Bydd y panel yn gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu dwyffordd uniongyrchol - o鈥檙 panel yn syth at galon Llywodraeth y DU drwy Ysgrifennydd Cymru, ac o Lywodraeth y DU i randdeiliaid ledled Cymru sydd 芒 diddordeb mewn sicrhau bod y broses o adael yr UE yn llwyddiannus ar gyfer pob sector ledled Cymru.

Bydd y Gweinidogion hefyd yn manteisio ar y cyfle i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd sy鈥檔 prysur dyfu yn ystod ymweliad 芒鈥檙 Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn buddsoddi 拢50 miliwn er mwyn sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gatapwlt newydd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne-Ddwyrain Cymru. Bydd y Ganolfan Gatapwlt newydd hon yn rhan o鈥檙 Fargen Ddinesig gwerth 拢1.2 biliwn i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Medi 2017