Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn canmol y diwydiant gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd

Alun Cairns: "Bydd Canolfan Rhagoriaeth Ariannol newydd yng Nghaerdydd yn sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn bodoli er mwyn i鈥檙 sector barhau i ehangu a chreu swyddi."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Ymwelodd Harriett Baldwin, Gweinidog y Trysorlys, 芒 Chaerdydd heddiw er mwyn lansio menter i farchnata Caerdydd yn fwy effeithiol fel lle i sefydlu a thyfu cwmn茂au gwasanaethau ariannol a busnes.

Bydd y fenter farchnata, sy鈥檔 cael ei hadnabod fel Canolfan Rhagoriaeth Ariannol De Cymru, yn cael ei harwain gan Fasnach a Buddsoddi鈥檙 DU (UKTI), y corff llywodraethol sy鈥檔 helpu cwmn茂au yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Bydd UKTI yn gweithio鈥檔 agos gyda llywodraeth leol a diwydiant.

Dyma鈥檙 ail ranbarth o鈥檙 DU lle y mae鈥檙 rhaglen yn cael ei chyflwyno. Bydd mentrau mewn chwech o ganolfannau rhanbarthol pellach y tu allan i Lundain yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2016.

Wrth siarad yn swyddfeydd Gr诺p Admiral yng Nghaerdydd, sydd wedi datblygu yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf o 60 i dros 5,000 o bobl, canmolodd Ysgrifennydd yr Economi lwyddiant De Cymru fel canolfan ar gyfer cwmn茂au gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

De Cymru yw un o鈥檙 lleoliadau ar gyfer Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn y DU sy鈥檔 tyfu gyflymaf, ac mae鈥檔 denu dros 拢62 miliwn o brosiectau mewnfuddsoddiad uniongyrchol o dramor y llynedd, a chreu dros 1,750 o swyddi newydd yn 2014-15 yn unig. Mae鈥檙 rhanbarth yn gwneud cyfraniad sylweddol at y 60,000 o swyddi gwasanaethau ariannol yng Nghymru.

Yn ei haraith, tynnodd Baldwin sylw at y ffactorau lleol sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, yn cynnwys Ardal Fenter Canol Caerdydd, nifer ac ansawdd y prifysgolion lleol, y cysylltiadau rheilffordd cyflym sy鈥檔 gwella, ac argaeledd eang o ofod ar gyfer swyddfeydd.

Tra鈥檌 bod yng Nghaerdydd, ymwelodd y Gweinidog 芒 safle tai Pont El谩i er mwyn gweld 芒鈥檌 llygaid ei hun sut y mae Cymdeithas Adeiladu鈥檙 Principality wedi cyllido rhaglen adfywio tai sydd wedi cefnogi 750 o dai newydd.

Dywedodd Harriett Baldwin, Ysgrifennydd Economi鈥檙 Trysorlys:

Rhan allweddol o鈥檔 cynllun hirdymor yw cefnogi diwydiant gwasanaethau ariannol cystadleuol, nid yn unig yn Llundain, ond yn ogystal drwy weddill Prydain, lle mae oddeutu dwy ran o dair o鈥檙 bobl a gyflogir drwy鈥檙 sector yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau.

Dyna pam yr ydw i wrth fy modd yn lansio鈥檙 Ganolfan Rhagoriaeth Ariannol yma yng Nghaerdydd. Gyda chymaint o resymau i fuddsoddi, nid yw鈥檔 syndod mai De Cymru yw un o鈥檙 lleoliadau ar gyfer gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn y DU sy鈥檔 tyfu gyflymaf.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae鈥檙 diwydiant gwasanaethau ariannol yn gyfrannwr mawr at economi Cymru 鈥� ac mae鈥檔 cynhyrchu mwy na 拢40 miliwn o fewnfuddsoddiad y llynedd yn unig.

Bydd Canolfan Rhagoriaeth Ariannol Caerdydd yn sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn bodoli er mwyn i鈥檙 sector barhau i ehangu a chreu mwy o swyddi.

Mae cefnogaeth ar gyfer sector gwasanaethau ariannol cryf y tu allan i Lundain yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailgydbwyso鈥檙 economi a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn le delfrydol i fuddsoddi, gweithio a byw ynddi.

Yn 2014-15, cafwyd y ffigyrau mewnfuddsoddi gorau erioed yng Nghymru, gyda rhagolwg y bydd 101 o brosiectau yn cyflawni dros 5,000 o swyddi newydd 鈥� dros 2,000 o鈥檙 rhain yn y sector gwasanaethau ariannol, busnes a phroffesiynol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2015