Llywodraeth y DU yn rhyddhau miliynau o bunnoedd o gyllid newydd i warchod cadwyn cyflenwi dur Port Talbot a chefnogi gweithwyr
Y cyllid hwn yw鈥檙 cyntaf i gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

The UK Government is releasing millions in Port Talbot/Tata Steel Transition Board funding.
Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bod yn rhyddhau 拢13.5 miliwn o gyllid ar unwaith i gefnogi busnesau a gweithwyr y gadwyn gyflenwi y mae penderfyniad Tata Steel i newid i ddull mwy gwyrdd o greu dur wedi effeithio arnynt.聽
Bydd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gwneud y cyhoeddiad heddiw (15 Awst) yn ei hail gyfarfod fel cadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.聽聽
Y cyllid hwn yw鈥檙 cyntaf i gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, a bydd yn cefnogi busnesau lleol sy鈥檔 dibynnu鈥檔 fawr ar Tata Steel fel eu prif gwsmer, gan ganiat谩u iddynt droi at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo hynny鈥檔 briodol.聽
Bydd arian hefyd ar gael i weithwyr y mae鈥檙 trawsnewid wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, cael gafael ar hyfforddiant, a chael sgiliau a chymwysterau mewn meysydd lle mae swyddi gwag.聽聽
Heddiw, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd yn cyhoeddi bod dros 50 o fusnesau hyd yma wedi llofnodi addewid i gefnogi unrhyw weithiwr sydd wedi鈥檌 orfodi i adael ei swydd yn y maes gwaith dur.聽聽
Mae鈥檙 busnesau, sy鈥檔 cynnwys Fintech Wales, The Royal Mint, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, RWE Energy, Ledwood Mechanical Engineering a Pro Steel Engineering, wedi ymrwymo i roi cymorth ymarferol i weithwyr, megis sicrwydd o gyfweliad ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo, yn ogystal 芒 hyfforddiant.聽
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o fanylion am yr addewid i fusnesau mewn ymweliad 芒 Rototherm ym Mhort Talbot ddydd Iau. Mae鈥檙 cwmni yn wneuthurwr arweiniol dyfeisiau mesur tymheredd a phwysedd ledled y byd. Mae鈥檔 un o鈥檙 cwmn茂au yng nghadwyn gyflenwi Tata y bydd y newid i ddefnyddio ffwrneisi arc trydan i greu dur yn effeithio arno.聽
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ailosod y berthynas gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal 芒鈥檙 berthynas gydag undebau a phartneriaid lleol eraill, i weithio gyda鈥檌 gilydd i gyflawni ar gyfer y gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.聽聽聽聽
Bydd negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a Tata Steel ynghylch dyfodol gwaith Port Talbot yn parhau ar wah芒n.聽聽
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:聽聽
Dan y llywodraeth hon, mae鈥檙 Bwrdd Pontio wedi symud o drafod i ddarparu. Mae鈥檙 拢13.5m o gyllid cychwynnol sy鈥檔 cael ei ryddhau heddiw yn dangos ein bod yn benderfynol o weithredu i gefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, undebau a鈥檙 gymuned ehangach.聽聽聽
Bydd negodiadau gyda Tata Steel ar ddyfodol y safle yn parhau ar wah芒n. Ond ni fydd y llywodraeth hon yn aros am argyfwng cyn gweithredu. Rydym yn gosod rhwyd diogelwch i sicrhau ein bod yn gallu bod yn gefn i weithwyr a busnesau, ni waeth beth fydd yn digwydd.聽聽
Rydym hefyd yn manteisio ar haelioni鈥檙 gymuned leol, gyda llawer o gyflogwyr hyd yma鈥檔 addo cymorth ymarferol i weithwyr. Creu dur yw anadl einioes cymunedau Cymru, ac mae cefnogaeth busnesau lleol yr un mor allweddol. Bydd yr hyn maen nhw鈥檔 ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gyflenwyr a staff.鈥澛�
Dywedodd Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach:聽
Mae鈥檙 cyllid hwn yn gam pwysig at gefnogi鈥檙 gweithwyr y mae newid Tata Steel yn effeithio arnynt, yn ogystal 芒 busnesau yn y gadwyn gyflenwi ehangach.聽
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag undebau llafur a鈥檙 diwydiant i sicrhau bod y newid i ddull gwyrdd o greu dur yn addas i鈥檙 economi, ein gweithlu talentog a chymunedau lleol am genedlaethau i ddod, ac mae ein negodiadau gyda Tata yn parhau.鈥澛犅犅�
Dywedodd Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm:聽
Rydym yn rhan o gymuned gefnogol iawn ym Mhort Talbot ac rydym yn falch o gynnig cymorth i unrhyw weithiwr yn Tata Steel ac unrhyw gyflenwyr y mae hyn wedi effeithio arnynt.聽
Rwy鈥檔 credu, os bydd busnesau eraill fel ein busnes ni yn yr ardal yn gallu dod at ei gilydd, gallwn gynnig llawer o gymorth ymarferol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a鈥檙 gadwyn gyflenwi sydd wedi鈥檌 heffeithio.鈥澛�
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau鈥檔 fuan ar sut gall busnesau lleol a gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt gael gafael ar y cyllid cychwynnol o 拢13.5 miliwn gan y Bwrdd Trawsnewid.聽
Eglurodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd y bydd y Bwrdd Pontio yn bartneriaeth gyfartal rhwng cynrychiolwyr gwleidyddol, busnesau ac undebau o hyn ymlaen.