Datganiad i'r wasg

Y Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio

Pen-blwydd yr Adran dros Fasnach Ryngwladol yn un oed.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Exports

Mae Gweinidogion y DU yn annog busnesau Cymru i ystyried allforio eu nwyddau a鈥檜 gwasanaethau dramor, i nodi pen-blwydd yr Adran dros Fasnach Ryngwladol yn un oed.

Yn 2016 roedd dros 3,800 o fusnesau yn allforio yng Nghymru a gwerth cyfun blynyddol yr allforion yn 拢12.4 biliwn. Bellach, mae Gweinidogion yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys cymhellion ariannol a gwasanaethau paru ar-lein.

I ddathlu鈥檙 pen-blwydd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cyhoeddi y bydd yn ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu nodi fel allforwyr posibl ac y bydd yn anfon copi atynt o arweiniad allforio pwrpasol ar gyfer busnesau Cymru.

Mae Canllaw Allforio Cymru yn nodi鈥檙 ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae鈥檔 cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmn茂au yng Nghymru sy鈥檔 allforio鈥檔 llwyddiannus. Mae Alun Cairns yn gobeithio y bydd busnesau鈥檔 gweld y potensial enfawr sydd ar gael i鈥檞 helpu i fuddsoddi a thyfu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf am weld busnesau Cymru yn troi at y byd ehangach, yn masnachu ac yn cynnal busnes ymhob rhan o鈥檙 byd. Dyna pam yr ydym yn rhannu鈥檙 cyngor, yr arweiniad a鈥檙 cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ( yn benodol gan yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol) ar gyfer busnesau yn ein Canllaw Allforio ar gyfer Cymru. Rydym am eu helpu i ddatblygu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion o鈥檙 Deyrnas Unedig ac annog mewnfuddsoddi.

Mae鈥檙 Adran dros Fasnach Ryngwladol wedi helpu i sicrhau biliynau o bunnoedd mewn cyfleoedd allforio, ac ers ei chreu ym mis Gorffennaf 2016, mae鈥檙 adran hefyd wedi cefnogi;

  • taith fasnach i India a sicrhaodd gwerth 拢1.2 biliwn o fusnes
  • y daith fasnach gofal iechyd fwyaf erioed i Tsieina lle gwelwyd sefydliadau o Brydain yn llofnodi cytundebau gwerth dros 拢250 miliwn
  • cwmn茂au pensaerniol o鈥檙 D.U. i sicrhau contractau sy鈥檔 werth degau o filiynau o bunnoedd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig

Mae鈥檙 Adran dros Fasnach Ryngwladol hefyd wedi sefydlu deg gweithgor mewn 15 gwlad i gryfhau鈥檙 cysylltiadau masnach a masnachol gyda phartneriaid masnachu allweddol ar draws y byd.

Dywedodd y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, Greg Hands:

Rydym eisoes yn wlad wych am fasnachu. Ond, fel adran economaidd ryngwladol, rydym yn awr am annog busnesau i ystyried a oes marchnad fyd-eang ar gyfer eu nwyddau a鈥檜 gwasanaethau.

Drwy gynllunio ein polisi masnach ein hunain er budd Prydain i gyd, ar 么l i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn gallu manteisio ar farchnadoedd sy鈥檔 tyfu ar draws y byd a rhoi hwb pellach i鈥檔 llwyddiannau allforio.

Drwy great.gov.uk, mae鈥檙 adran yn galluogi busnesau鈥檙 Deyrnas Unedig i gael gafael ar werth miliynau o bunnoedd o fusnes tramor posibl, gan eu helpu i ddechrau allforio neu i allforio rhagor.

Mae great.gov.uk wedi cael dros 2.4 miliwn o ymweliadau ac mae dros 3,300 o fusnesau鈥檙 Deyrnas Unedig eisoes wedi cofrestru ar wasanaeth 鈥楩ind a Buyer鈥� y llywodraeth sy鈥檔 paru busnesau yn y D.U. 芒鈥檙 galw byd-eang am eu cynnyrch.

Cymorth allforio i Gymru

Trefnodd yr Adran dros Fasnachu Ryngwladol Uwchgynhadledd Allforio gyntaf ar gyfer busnesau Cymru lle daeth dros 80 o fusnesau at ei gilydd i gael cyngor ac arweiniad oddi wrth entrepreneuriaid, perchnogion busnesau rhyngwladol a hyrwyddwyr allforio. Bu鈥檙 uwchgynhadledd o gymorth i gysylltu cwmn茂au sy鈥檔 cychwyn ar eu taith allforio 芒鈥檙 arbenigedd y maent ei angen.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae鈥檙 Adran dros Fasnach Ryngwladol wedi cefnogi bron i 1,200 o gwmn茂au yng Nghymru drwy eu helpu i fynychu sioeau masnach dramor, cynnal ymchwil marchnad hanfodol a datblygu cysylltiadau rhyngwladol.

Un gweithgynhyrchwr o Gymru sydd wedi manteisio ar gymorth gan y llywodraeth ydy鈥檙 cwmni o Bont-y-p诺l, Flamgard Calidair. Drwy UK Export Finance, sy鈥檔 gweithredu fel rhan o鈥檙 Adran dros Fasnach Ryngwladol, enillodd Flamgard gontract i ddarparu damperi t芒n a chau arbenigol ar gyfer safle Chernobyl. Bydd y prosiect peirianyddol amlwladol gwerth 鈧�1.5bn, a fydd yn cael ei reoli gan y contractwr rhyngwladol Novarka, yn cychwyn ddiwedd 2017.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf 2017