Rhaid i Gymru siarad ag un llais er mwyn hybu twristiaeth
Y Farwnes Jenny Randerson i annerch yng Nghynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru
Pontcysyllte Aqueduct
Yng Nghynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru heddiw (22 Tachwedd), bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn dweud bod yn rhaid i鈥檙 ddwy lywodraeth a鈥檙 diwydiant twristiaeth fod yn unfryd unfarn os yw Cymru am wireddu ei photensial fel cyrchfan o ddewis ar gyfer twristiaeth ryngwladol.
Wrth annerch yn y digwyddiad yn Venue Cymru yn Llandudno, bydd y Farwnes Randerson yn tynnu sylw at waith ardderchog aelodau presennol a chyn aelodau gweithgor Cynghrair Twristiaeth Cymru o ran hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd.
Yn ystod ei haraith, disgwylir i鈥檙 Farwnes Randerson alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio鈥檔 agosach i ddatblygu cystadleurwydd diwydiant twristiaeth Cymru. Bydd hefyd yn nodi鈥檙 gwelliannau y mae angen eu gwneud i sicrhau bod Cymru yn cipio cyfran fwy o wariant twristiaid rhyngwladol yn y DU.
Mae鈥檙 sector twristiaeth yn werth 拢6biliwn i economi Cymru, gan gynnal hyd at 23,000 o fusnesau a chyflogi dros 8% o鈥檙 gweithlu. Fodd bynnag, rhwng 2002 a 2012, roedd cyfran yr ymwelwyr rhyngwladol a oedd yn berthnasol i Gymru wedi gostwng o 4% i 3%, a chyfran gwariant ymwelwyr rhyngwladol y gellid ei phriodoli i Gymru wedi gostwng o 2.15% i 1.83%*.
Gyda golwg ar wyrdroi鈥檙 patrwm, bydd yn annog Croeso Cymru a VisitBritain i barhau 芒鈥檜 hymdrechion ar y cyd i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Y llynedd, lansiodd VisitBritain ei raglen fwyaf uchelgeisiol ers 10 mlynedd ar gyfer marchnata twristiaeth: 鈥淕REAT Britain You鈥檙e invited鈥�. Nod yr ymgyrch yw dangos i鈥檙 byd bod Prydain ar agor i fusnes; ei fod yn lle gwych i ymweld ag o, i fyw ynddo ac i fuddsoddi ynddo.
Mae gan Gymru gyfoeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau gwych ar gyfer ymwelwyr, ynghyd 芒 llu o gyfleusterau sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd ar garreg ein drws. Byddem yn elwa gymaint pe bai鈥檙 Llywodraeth a鈥檙 diwydiant twristiaeth yn cydweithio, a hynny ag un llais, er mwyn dal ar bob cyfle sydd gan y sector.
Yn ystod ei hymweliad 芒 Gogledd Cymru, bydd y Farwnes Randerson yn bresennol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 yn Venue Cymru. Bydd hefyd yn profi dau o atyniadau mwyaf poblogaidd yr ardal i dwristiaid, pan fydd yn croesi Traphont Dd诺r Pontcysyllte yn Wrecsam, sy鈥檔 un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ac yn blasu cynnyrch lleol yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant yng Nghonwy.
Ychwanegodd y Farwnes Randerson:
Mae鈥檙 sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol i les cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac mae鈥檔 hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu ymwelwyr o gartref a thramor i brofi ein diwylliant a鈥檔 hanes cyfoethog.
Y flwyddyn nesaf, bydd llygaid y byd wedi鈥檜 hoelio ar Gymru unwaith eto, wrth i Westy Hamdden y Celtic Manor baratoi i groesawu arweinwyr y byd i Uwchgynhadledd NATO 2014, ac wrth i Abertawe dalu teyrnged i鈥檞 mab enwocaf drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd. Rhaid i ni sicrhau bod pawb sy鈥檔 ymweld 芒 hi yn mynd yn 么l adref gyda neges glir ynghylch popeth sydd gan Gymru, ei phobl a鈥檌 thirlun nodedig i鈥檞 gynnig i weddill y byd.
Nodyn i Olygyddion
- *Ffynhonnell: