Gweinidog Swyddfa Cymru yn cael sylwadau rhanddeiliaid ar amddiffyn pobl h欧n.
Y Farwnes Randerson ochr yn ochr ag Age Cymru yn cynnal trafodaeth bwrdd crwn yng Nghaerdydd.

Amddiffyn pobl h欧n rhag y bygythiad o dwyll ariannol oedd canolbwynt y drafodaeth yn y Digwyddiad Bwrdd Crwn a gynhaliwyd gan Weinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson ac Age Cymru heddiw (25 Tachwedd).
Er mwyn cefnogi ymgyrch 鈥楽gamiau a Thwyll鈥� yr elusen, bydd cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a鈥檙 DU, gan gynnwys y Post Brenhinol, Ofcom, Action Fraud, Cyngor ar Bopeth a鈥檙 Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn dod at ei gilydd yn Swyddfa Cymru ym Mae Caerdydd. Byddant yn trafod sut y gallant weithio gyda鈥檌 gilydd i amddiffyn pobl h欧n yn well, ac i geisio atal pobl h欧n yng Nghymru rhag mynd yn ysglyfaeth i sgamiau ariannol.
Ymysg y prif siaradwyr fydd Gerry Keighley, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Age Cymru a Marilyn Baldwin, sefydlydd yr Elusen 鈥淭hink Jessica鈥� a sefydlwyd ar 么l i鈥檞 mam, Jessica, gael ei thwyllo mewn Sgam
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Mae sgamiau ariannol yn broblem ddifrifol i bob un ohonom y dyddiau hyn, ond mae鈥檔 arbennig o boenus pan mae pobl h欧n, fwy bregus ein cymdeithas, yn cael eu targedu.
Mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn hyn a dyna pam rwyf wedi galw rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd heddiw er mwyn deall pa waith sy鈥檔 cael ei wneud eisoes ac i bennu camau pellach i鈥檞 cymryd i amddiffyn y gr诺p agored i niwed hwn.
Rhaid i sefydliadau weithio gyda鈥檌 gilydd i wneud pobl h欧n yn llai agored i sgamiau o鈥檙 fath, ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch y camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod llai o bobl h欧n yn syrthio i grafangau unigolion diegwyddor.
Mae鈥檙 gwaith y mae Age Cymru a Think Jessica yn ei wneud yn hollbwysig i amddiffyn pobl h欧n, ond mae gan bob sefydliad sy鈥檔 bresennol yma heddiw r么l i鈥檞 chwarae yng nghyswllt atgyfnerthu鈥檙 warchodaeth honno gyda鈥檙 nod o atal unrhyw sgamiau pellach.
Mae鈥檙 cyfarfod yn cael ei gynnal yn y mis ar 么l i Weinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, ymateb i ddadl yn Neuadd Westminster ar Amddiffyn Pobl H欧n yng Nghymru rhag twyll a sgamiau.
Dywedodd Gerry Keighley, Age Cymru:
Mae Age Cymru yn gobeithio y bydd y cyfarfod yn un adeiladol a fydd yn mynd i鈥檙 afael yn drwyadl 芒 chryfhau鈥檙 warchodaeth sydd ar gael i bobl h欧n yn erbyn twyllwyr. Rydym am weithio鈥檔 adeiladol 芒 chwmn茂au masnachol megis y Post Brenhinol a BT a gydag awdurdodau i lunio rhwystrau i gadw troseddwyr draw oddi wrth bobl h欧n a phobl agored i niwed.