Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi cyflwyno Bil Caethwasiaeth Modern
Bil blaengar i鈥檞 gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Baroness Randerson visits Gwent Police
Heddiw, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru Farwnes Randerson ddeddfwriaeth newydd gadarn gan lywodraeth y DU i roi terfyn ar gaethwasiaeth modern fel rhan o鈥檌 hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasanaeth domestig.
Bydd y Bil 鈥� y cyntaf o鈥檌 fath yn Ewrop 鈥� yn cryfhau鈥檙 pwerau i atal caethwasiaeth modern a masnachu pobl, gan wella鈥檙 gefnogaeth a鈥檙 a鈥檙 amddiffyniad i ddioddefwyr.
Yn ddiweddar, bu鈥檙 Farwnes Randerson yn ymweld 芒 Heddlu Gwent i weld drosti鈥檌 hun y camau sy鈥檔 cael eu cymryd i fynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth fodern yn y DU.
Derbyniodd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Operation Imperial 鈥� uned a sefydlwyd i ymchwilio i droseddau honedig o gaethwasiaeth a chaethwasanaeth, a鈥檙 ymchwiliad mwyaf o鈥檌 fath yn y DU. Mae鈥檙 ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed a chafwyd arestiadau.
Dywedodd Farwnes Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae caethwasiaeth modern a masnachu pobl yn droseddau ffiaidd. Maent yn droseddau sy鈥檔 anweledig yn aml ac yn digwydd ar ffyrdd a strydoedd tawel ledled byd, ac fel y gwelsom yn ddiweddar, ar ein trothwy ni ein hunain yma yng Nghymru.
Mae mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion hyn yn galw am ymdrech gydlynol a diflino ar draws y llywodraeth a gorfodaeth y gyfraith, yn ogystal ag ymwybyddiaeth gynyddol o fewn ein cymunedau.
Mae cyhoeddi鈥檙 Bil hwn yn dangos yn glir ymrwymiad cadarn y llywodraeth o ran cefnogi dioddefwyr a rhoi terfyn ar gaethwasiaeth modern.
Bydd yn atgyfnerthu deddfwriaeth bresennol ac yn ei gwneud yn fwy gwydn, gan olygu y bydd y DU yn amgylchedd gelyniaethus i gaethfeistri modern ac yn sicrhau fod troseddwyr yn derbyn cosbau llym a phriodol am eu troseddau ffiaidd.
I gael mwy o wybodaeth am y Bil Caethwasiaeth Modern cliciwch yma
Gwybodaeth
-
I weld hysbysiad i鈥檙 wasg gan y Swyddfa Gartref cliciwch yma
-
Caiff y Bil ei gyhoeddi ar-lein ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen y Bil yma
-
Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth, llafur gorfodol a chaethwasanaeth domestig. Mae ffigurau鈥檙 Asiantaeth Troseddau Genedlaethol ar gyfer 2013 yn dangos bod y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) wedi derbyn 1,746 o gyfeiriadau ynghylch dioddefwyr masnachu posibl. Y gwledydd a oedd yn gyfrifol am y nifer mwyaf o ddioddefwyr posibl a gyfeiriwyd at yr NRM am gefnogaeth ac amddiffyniad oedd Albania, Nigeria, Fietnam a Romania.
-
Craffwyd yn helaeth ar ddull gweithredu鈥檙 Llywodraeth o ran mynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth modern, a darpariaethau鈥檙 Bil. Ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, cadeiriodd Frank Field AS sesiynau tystiolaeth ar gaethwasiaeth modern yn Hydref 2013. Cyhoeddwyd Bil drafft i alluogi craffu cyn deddfu. Galwodd cydbwyllgor y Bil drafft am dystiolaeth, clywodd dri ar ddeg o ddyddiau o sesiynau tystiolaeth lafar, ac adroddodd ar 8 Ebrill 2014.
-
I gyd-fynd 芒鈥檙 Bil, mae鈥檙 Llywodraeth yn cymryd camau anneddfwriaethol i fynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth modern. Mae hyn yn cynnwys:
- treialu eiriolwyr plant i roi cefnogaeth wedi鈥檌 theilwra鈥檔 fwy penodol i blant sy鈥檔 ddioddefwyr masnachu
- sefydlu timau diogelu a gwrth-fasnachu arbenigol ac amlasiantaeth ar y ffin
- adolygu鈥檙 gefnogaeth y mae dioddefwyr yn ei derbyn 鈥� drwy鈥檙 Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol a鈥檙 contract gofalu am ddioddefwyr
- gwneud caethwasiaeth fodern yn flaenoriaeth ar gyfer yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol (NCA). Bydd yr NCA yn defnyddio鈥檌 swyddogaethau o ran cudd-wybodaeth, tasgau a chydlynu i adeiladu darlun mwy cynhwysfawr o鈥檙 bygythiad.