Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi Taith Baton y Frenhines

Baton Gemau鈥檙 Gymanwlad Glasgow 2014 yn cychwyn ar ei daith 7 niwrnod o amgylch Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales flag

Wythnos nesaf, bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi ymdrechion T卯m Cymru a fydd yn cymryd rhan yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad, wrth iddynt baratoi i ymuno yn y dathliadau ar hyd a lled y wlad i nodi Taith Baton y Frenhines drwy Gymru.

Bydd y baton yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar 24 Mai, gan gychwyn ar ei daith 7 niwrnod o amgylch Cymru 鈥� taith a fydd yn cynnwys ymweliadau 芒 chyfuniad o weithgareddau cymunedol clos, digwyddiadau aml-gamp ar raddfa fawr ac adeiladau diwylliannol pwysig.

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn y llefydd canlynol:

  • Bydd y Farwnes Jenny Randerson yn cyfarch y rheini a fydd yn cario鈥檙 baton yn y Gemau Stryd yng Nglynebwy ar 24 Mai.
  • Bydd Stephen Crabb AS yn ymuno yn y dathliadau yn Nhyddewi, Sir Benfro, ar 28 Mai.
  • Bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn nodi diwedd taith y baton yn Llandegla, Sir Ddinbych, ar 30 Mai. Ar 么l hynny bydd y baton yn mynd i Loegr.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Gemau鈥檙 Gymanwlad yn rhoi cyfle i Gymru gystadlu鈥檔 rhyngwladol fel gwlad yn ei hawl ei hun. Gyda鈥檌 gilydd, mae gwledydd y Gymanwlad yn rhannu cysylltiadau cryf o ran gyfeillgarwch, diwylliant a threftadaeth. Rwy鈥檔 dymuno gweld y cysylltiad hwnnw鈥檔 parhau, a hoffwn weld y gwerthoedd hynny鈥檔 disgleirio wrth i Faton y Frenhines deithio drwy Ynysoedd Prydain.

Eleni, bydd Cymru yn hoelio鈥檙 sylw rhyngwladol pan fydd yn cynnal Uwchgynhadledd NATO, a bydd Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle cynnar i ni dynnu sylw at ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru, yn ogystal 芒鈥檔 hoffter o chwaraeon. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu eu cymunedau, cefnogi ein hathletwyr, a dangos i鈥檙 Gymanwlad yr holl bethau gwych sydd gan Gymru, a鈥檙 DU fel teulu o genhedloedd, i鈥檞 cynnig.

Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Bydd y dathliadau hyn yn rhoi ymroddiad ein hathletwyr, hanesion calonogol arwyr lleol ac ysbryd Gemau鈥檙 Gymanwlad wrth galon ein cymunedau lleol.

Mae gan bawb fydd yn cario鈥檙 baton ei stori unigryw ei hun, boed yn athletwr el卯t, yn rhywun sydd wedi goresgyn anawsterau neu鈥檔 rhywun sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth i鈥檞 gymuned. Hoffwn longyfarch yr holl bobl deilwng ledled Cymru sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y daith, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at ymuno yn y dathliadau.

Dywedodd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae Cymru yn genedl falch ym myd y campau, a gobeithio y bydd taith y baton yn ysbrydoli athletwyr Cymreig y dyfodol. Ar 么l ennill momentwm yn ystod taith 7 niwrnod y baton, bydd ein hathletwyr yn derbyn cefnogaeth lawn a dymuniadau gorau pobl Cymru wrth iddynt baratoi i gystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad 2014 a gynhelir yn Glasgow.

Bydd y baton yn cael ei gario drwy Gymru gan enwogion, athletwyr ddoe a heddiw, a phobl sydd wedi cael eu henwebu i gydnabod eu cyfraniadau at brosiectau ieuenctid, cymunedol a chwaraeon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mai 2014