Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost
Stephen Crabb, Jenny Randerson ac Alun Cairns yn coff谩u Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost.

Heddiw (27 Ionawr) bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru Stephen Crabb, Alun Cairns a Jenny Randerson yn nodi Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost. Mae鈥檔 70 mlynedd eleni ers rhyddhau pobl o wersyll Auschwitz-Birkenau ac yn 20 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica, Bosnia.
Bydd Stephen Crabb ac Alun Cairns yn llofnodi Llyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost yn Nh欧鈥檙 Cyffredin sy鈥檔 cael ei lofnodi gan gannoedd o Aelodau Seneddol bob blwyddyn fel addewid i frwydro yn erbyn rhagfarn a chasineb.
Bydd Jenny Randerson yn mynychu digwyddiad Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost yn Neuadd Ganolog San Steffan.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:
Mae hwn yn gyfle pwysig i gofio鈥檙 sawl a ddioddefodd yn yr Holocost a鈥檙 sawl a oroesodd, a sicrhau nad ydynt yn mynd yn angof.
Yn drist iawn, fel y mae digwyddiadau diweddar wedi dangos, mae agweddau gwrth-Iddewiaeth a chulni o fathau eraill yn dal i fodoli heddiw, a byddwn yn gofyn i bobl ym mhob cwr o Gymru nodi鈥檙 diwrnod ac ymuno yn y frwydr yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch ac eithafiaeth.
Mae鈥檔 ddyletswydd ar bob un ohonom i godi llais a herio gwahaniaethu ac erledigaeth pan fyddwn yn gweld hynny.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu Mr Crabb 芒鈥檙 Rabi Michael Rose yn Synagog Unedig Caerdydd i drafod y bygythiad a wynebir yn sgil eithafiaeth ac i weld sut y gall Llywodraeth y DU weithio 芒 sefydliadau i helpu i warchod pobl yng Nghymru. Hefyd, bu Mr Crabb mewn gwasanaeth aml-ffydd yn sir Benfro i nodi 70 mlynedd ers rhyddhau pobl o wersyll Auschwitz-Birkenau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson:
Ar Ddiwrnod Cofio鈥檙 Holocost, rydym yn cofio dioddefaint a llofruddiaeth miliynau o Iddewon ac eraill a fu farw yn y getos ac yn y gwersylloedd lladd dan law鈥檙 Nats茂aid.
Rhaid i ni gofio hefyd y bobl a ddioddefodd mewn achosion eraill o hil-laddiad ym mhob cwr o鈥檙 byd gan gynnwys y miloedd a laddwyd yng nghyflafan Srebrenica.
Mae鈥檔 rhaid i ni gofio鈥檙 digwyddiadau erchyll hyn er mwyn deall yn well beth sy鈥檔 gallu digwydd pan na fyddwn yn mynd i鈥檙 afael 芒 chasineb a rhagfarn, ac yn gadael i gasineb ac anoddefgarwch ennill tir.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Wrth i ni goff谩u Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost a鈥檙 bobl sydd wedi dioddef ac wedi goroesi achosion o hil-laddiad ym mhob cwr o鈥檙 byd, mae鈥檔 bwysig ein bod yn cadw eu hanes yn fyw ac yn parhau i weithio i greu cymdeithas fwy cyfiawn.
Mae llawer o bobl wedi dianc rhag cael eu herlid ac wedi ymgartrefu yng Nghymru. Felly, mae dyletswydd ar bob un ohonom i sylweddoli bod gennym r么l i鈥檞 chwarae o ran meithrin goddefgarwch a dealltwriaeth ar draws ein cymunedau.
Mae鈥檔 hollbwysig bod y gwersi a ddysgwyd o鈥檙 Holocost yn cael eu dysgu heddiw ac i genedlaethau鈥檙 dyfodol er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.