Gweinidogion Swyddfa Cymru yn coffau Sul y Cofio
Bydd pob un o Weinidogion Swyddfa Cymru鈥檔 mynychu Gwasanaethau Cofio ar ddydd Sul
Poppy wreaths courtesy of cjearn on Flickr
Bydd pob un o Weinidogion Swyddfa Cymru鈥檔 coffau cyfraniad milwyr Prydain a鈥檙 dynion a鈥檙 menywod a wasanaethodd mewn rhyfel mewn gwasanaethau arbennig ar Sul y Cofio eleni (10 Tachwedd 2013).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn mynychu鈥檙 Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol wrth y Gofeb yn Whitehall, Llundain.
Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn mynychu Gwasanaeth y Cofio ac yn gosod torch ger y gofeb ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, a bydd Stephen Crabb AS yn mynychu gwasanaeth yn Neyland a Hwlffordd, Sir Benfro.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:
Ar Sul y Cofio, rydym yn sefyll ynghyd fel cenedl i gofio dewrder ac ymrwymiad y dynion a鈥檙 menywod a wasanaethodd mewn rhyfeloedd ym mhedwar ban byd. Rydym yn anrhydeddu ac yn talu ein gwrogaeth i鈥檞 dewrder di-ildio a鈥檜 hymroddiad ar y diwrnod pwysig hwn.
Mae鈥檔 fraint gennyf gynrychioli pobl Cymru wrth y Gofeb. Byddaf yn meddwl am y dynion a鈥檙 menywod o Gymru a roddodd eu bywydau i wasanaethu ein gwlad, boed hynny gartref neu dramor.
Eleni, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rhaglen goffau bedair-blynedd, ar hyd a lled y DU, i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Bydd gan Gymru ran fawr i鈥檞 chwarae yn y digwyddiadau, a bydd yn helpu i sicrhau nad anghofir fyth yr aberth a wnaed gan ein milwyr, ac sy鈥檔 parhau i gael ei gwneud heddiw, dros ein gwlad.
Dywed y Farwnes Randerson:
Mae鈥檔 bwysig bod pob un ohonom yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch a dangos ein gwerthfawrogiad o鈥檙 aberth sy鈥檔 cael ei gwneud bob dydd ar ein rhan, gan gynifer o ddynion a menywod dewr ar draws y byd.
Boed ni鈥檔 myfyrio dros erchyllterau rhyfel, yn cofio aelodau o鈥檔 teulu a wasanaethodd neu yn ymweld 芒 chofeb, mae Sul y Cofio yn gyfle i ni ddeall ein gorffennol yn well - a deall sut mae鈥檔 dal i ddylanwadu arnom heddiw.
Dywed Stephen Crabb AS:
Yng Nghymru, mae gennym y fraint o fod 芒 hanes milwrol hir a balch. Ar Sul y Cofio, byddwn yn cofio ac yn anrhydeddu aberth pob un o鈥檙 rhai a ymladdodd ac sy鈥檔 parhau i ymladd wrth wasanaethu ein gwlad. Rydym am adael iddynt wybod nad yw eu hymroddiad yn cael ei anwybyddu.
Bydd rhaglen y DU o ddigwyddiadau i goffau鈥檙 Rhyfel Mawr yn dechrau gyda gwasanaeth i arweinwyr y Gymanwlad yng Nghadeirlan Glasgow a gwasanaeth golau cannwyll yn Abaty Westminster ar 4 Awst. Dilynir hyn gan ddigwyddiadau i nodi pum dyddiad allweddol arall: canmlwyddiant glaniadau Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele ac, yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.
Nodiadau i olygyddion:
I gefnogi rhaglen y canmlwyddiant, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y rhoddir mwy o gefnogaeth i gymunedau lleol sydd eisiau coffau鈥檙 canmlwyddiant mewn ffyrdd cyffrous a chreadigol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi鈥檙 grantiau cyntaf dan ei rhaglen grantiau bach 鈥榶 Rhyfel Mawr - Bryd Hynny a 鈥橬awr鈥� i gefnogi prosiectau鈥檔 amrywio o adfer a gwella cofebion rhyfel, i greu arddangosfeydd addysgiadol neu berfformiadau theatrig.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid ar gyfer helpu grwpiau, cymunedau a mudiadau i nodi鈥檙 canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Mawr - o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae gwahanol grantiau ar gael yn amrywio o 拢3,000 - 拢100,000 a mwy.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:
- ymchwilio, canfod a chofnodi treftadaeth leol;
- creu archif neu gasgliad cymunedol;
- datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, aps ff么n clyfar ayb;
- ymchwilio, ysgrifennu a pherfformio deunydd creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth;
- gall y rhaglen newydd hefyd gyfrannu nawdd ar gyfer gwarchod cofebion rhyfel.