Stori newyddion

Rhoi hwb i enw da Cymru mewn digwyddiad i hyrwyddo rhagoriaeth mewn Technoleg Ariannol (FinTech)

Llywodraeth y DU yn lansio ei strategaeth FinTech gyntaf mewn Cynhadledd FinTech Ryngwladol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
FinTech

FinTech conference

Bydd busnesau o Gymru sy鈥檔 arloesi yn y sector technoleg ariannol yn ceisio mynd 芒 dyheadau eu cwmni i鈥檙 lefel nesaf heddiw pan fyddant yn ymuno 芒 chynulleidfa fyd-eang wrth arddangos eu datblygiadau arloesol a鈥檜 cynlluniau buddsoddi byd-eang yn y Gynhadledd FinTech Ryngwladol (22 Mawrth).

Bydd Ail Gynhadledd FinTech Ryngwladol Llywodraeth y DU yn dod 芒 buddsoddwyr rhyngwladol a chwmn茂au Fintech y DU at ei gilydd gydag arweinwyr y diwydiant, rheoleiddwyr a gwneuthurwyr polisi ar gyfer diwrnod o sgyrsiau a sesiynau sy鈥檔 hyrwyddo鈥檙 cyfleoedd i fuddsoddi鈥檔 fyd-eang o fewn sector Fintech y DU.

Yng Nghymru, mae鈥檙 economi ddigidol gwerth tua 拢8.2 biliwn ac yn cyflogi dros 44,000 o bobl.

Bydd enw da Caerdydd fel lle i feithrin rhai o gwmn茂au FinTech blaenllaw y DU yn cael ei amlygu yn y gynhadledd drwy gwmn茂au newydd fel Wealthify, MYPINPAD a Delio.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wrthi鈥檔 archwilio potensial cynyddol cysylltiadau masnach Cymru-Asia yn y G诺yl Arloesi Fawr yn Hong Kong.

Drwy s么n am statws cynyddol y sector FinTech yng Nghymru, dywedodd:

Naill ai鈥檔 tapio鈥檆h cerdyn banc i dalu am eich coffi boreol, neu鈥檔 defnyddio eich ff么n clyfar i edrych ar eich cyfrif banc gyda鈥檙 nos, mae鈥檔 debygol iawn eich bod chi鈥檔 ddefnyddiwr rheolaidd o ddiwydiannau uchelgeisiol a chyffrous FinTech ym Mhrydain.

Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ddangos a dathlu diwydiant sydd wedi gwneud cymaint i gyfrannu at wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd y wlad hon, gan gryfhau statws y DU fel canolfan ariannol fyd-eang.

Ac rwy鈥檔 falch iawn o weld cwmn茂au FinTech o Gymru yn cymryd rhan heddiw 鈥� a phob un ohonyn nhw鈥檔 awyddus i ddangos yr arloesedd sydd yma yng Nghymru, ac yn elwa o glasbrint ar gyfer yr ecosystem FinTech gorau鈥檔 y byd, wedi鈥檌 feithrin yma yn y DU.

Un o鈥檙 cwmn茂au Cymreig sydd wedi cael gwahoddiad i arddangos eu technoleg yn y gynhadledd yw Wealthify. Wedi鈥檌 lansio yng Nghaerdydd yn 2016, mae鈥檔 wasanaeth buddsoddi 鈥榬obo鈥� isel o ran cost sy鈥檔 gwneud y broses o ddod yn fuddsoddwr yn haws, yn gyflymach ac yn fwy fforddiadwy.

Dywedodd Richard Theo, Prif Weithredwr Wealthify:

Mae鈥檙 Gynhadledd Fintech Ryngwladol yn gyfle cyffrous i rai o gwmn茂au fintech gorau a disgleiriaf y DU ddod at ei gilydd ar gyfer trafodaethau perthnasol a safonol, gan arwain at gydweithio ystyrlon gyda busnesau eraill, gwneuthurwyr polisi a buddsoddwyr posibl o bob cwr o鈥檙 byd. Rydym wedi鈥檔 plesio gyda safon y sefydliadau eraill sydd ar y rhestr gynadledda ar gyfer IFC2018 鈥� mae鈥檔 cynnwys holl enwau mawr sector fintech y DU.

Lansiwyd Wealthify yn 2016 gyda鈥檙 nod o ddefnyddio technoleg i chwyldroi a democrateiddio buddsoddi drwy ei gwneud hi鈥檔 syml, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Mae digwyddiadau fel yr IFC yn gweithredu fel fforwm pwysig ar gyfer busnesau Fintech tebyg i gyfarfod, cyfnewid profiadau a syniadau a chymryd rhan mewn trafodaeth sy鈥檔 helpu i wthio cynnydd yn y sectorau sy鈥檔 datblygu. Beth sy鈥檔 gwneud y Gynhadledd yn wahanol i ddigwyddiadau eraill rydym wedi鈥檜 mynychu yw鈥檙 cyfle unigryw ac amhrisiadwy i gynnal y trafodaethau hollbwysig hyn ym mhresenoldeb gwneuthurwyr polisi a鈥檙 rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau yn San Steffan, a gall eu cefnogaeth nhw sbarduno newid positif ar gyfer sector y DU a thu hwnt.

Bydd MYPINPAD yn ymuno 芒 Wealthify yn y gynhadledd 鈥� cwmni o Gaerdydd sy鈥檔 arbenigo mewn meddalwedd dilysu taliadau a sefydlwyd yn 2012 ac sydd bellach 芒 swyddfeydd yn Llundain, Hong Kong a Jakarta.

Dywedodd Allan Syms, Prif Swyddog Gweithredol MyPinPad:

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis i arddangos yn y Gynhadledd FinTech Ryngwladol eleni fel 鈥榰n o gwmn茂au FinTech mwyaf cyffrous y DU鈥�. Mae MYPINPAD yn gwmni byd-eang sy鈥檔 arwain y gwaith o ddatblygu meddalwedd i ddatrys yr atebion i ddilysu taliadau.

Mae ein technolegau patent yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel nag erioed o鈥檙 blaen i fasnachwyr a PSP i dderbyn taliadau cerdyn ar-lein ac yn y siop i fodloni鈥檙 galw cynyddol am atebion arloesol ar gyfer dulliau symudol o dalu.

Mae ein nod o dyfu nifer y mannau sy鈥檔 derbyn cerdyn ar draws y byd o 46m i 460m yn ystod y 5 mlynedd nesaf yn ein gwthio tuag at y nod o droi pob dyfais clyfar yn declyn sy鈥檔 gallu derbyn taliadau. Rydym yn edrych ymlaen at ddangos ein technolegau a meddalwedd dilysu taliadau chwyldroadol i fuddsoddwyr rhyngwladol, arbenigwyr yn y diwydiant a gwneuthurwyr polisi domestig yn ystod y digwyddiad eleni.

Mae鈥檙 gynhadledd yn cyd-fynd 芒 lansiad Strategaeth Sector FinTech Llywodraeth y DU - cynllun a ddatblygwyd i danlinellu cefnogaeth barhaus y Llywodraeth i鈥檙 diwydiant, gan ymateb yn uniongyrchol i un o nodau allweddol y Strategaeth Ddiwydiannol i wneud y DU yn un o鈥檙 llefydd gorau i ddechrau a thyfu busnes.

Bydd Strategaeth y Sector Fintech yn cynnwys:

  • tasglu Crypto-asedau sy鈥檔 cynnwys Trysorlys Ei Mawrhydi, Banc Lloegr a鈥檙 Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Bydd hyn yn helpu鈥檙 DU i fod ar flaen y gad o ran harneisio manteision posib y dechnoleg sylfaenol, tra鈥檔 gwarchod rhag risgiau posib.
  • cynlluniau peilot 鈥榬obo-reoleiddio鈥� i helpu cwmn茂au fintech newydd, a鈥檙 diwydiant gwasanaethau ariannol yn ehangach, i gydymffurfio 芒 rheoliadau drwy ddatblygu meddalwedd fyddai鈥檔 sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau yn awtomatig, gan arbed amser ac arian iddynt.
  • penodi tri Cennad Fintech Rhanbarthol newydd i sicrhau bod manteision fintech yn cael eu gweld ledled y DU.
  • creu cyfres o safonau diwydiannol fydd yn galluogi cwmn茂au fintech i weithio mewn partneriaeth 芒 banciau cyfredol yn haws.
  • helpu cwmn茂au bach newydd i ddarparu gwasanaethau ariannol cymhleth, ac felly, tyfu eu busnesau a chyrraedd cwsmeriaid newydd. Bydd y diwydiant a鈥檙 llywodraeth yn cydweithio i greu 鈥榣lwyfannau ar y cyd鈥� fydd yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy鈥檔 wynebu鈥檙 cwmn茂au hyn wrth sefydlu systemau newydd.
  • Rhaglen 鈥楥yswllt 芒 Byd Gwaith鈥� a ddatblygwyd gan Banel Gweithredu Fintech y llywodraeth er mwyn helpu cwmn茂au fintech i fanteisio ar weithlu amrywiol y DU.

Yn y gynhadledd bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock, hefyd yn cyhoeddi bod Tech City UK yn adeiladu Rhaglen Fintech sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd ar draws y wlad. Bydd yn cefnogi cwmn茂au newydd yn y sector ar draws y DU i ddod yn gwmn茂au fintech byd-eang y dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol a Diwylliant Matt Hancock:

Rydym yn benderfynol o wneud Prydain y lle gorau i ddechrau a thyfu busnes digidol, tra鈥檔 rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr o ran rheoli eu harian. Bydd y rhaglen fintech newydd yma ar draws y wlad yn helpu cwmn茂au newydd ledled y wlad i ffynnu yn y dyfodol a lledaenu manteision y dechnoleg arloesol hon.

Mae鈥檙 Gynhadledd yn ddigwyddiad sy鈥檔 rhan o Wythnos Fintech y DU 2018, sy鈥檔 cael ei chynnal rhwng 19 a 23 Mawrth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2018 show all updates
  1. Translation added

  2. First published.