Datganiad i'r wasg

Cymru i elwa o fargen sector twristiaeth newydd

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bargen wrth i Gymru dderbyn bron i filiwn o ymwelwyr rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Y fargen gyntaf ar gyfer y sector twristiaeth yn paratoi Prydain ar gyfer 9 miliwn o ymweliadau ychwanegol y flwyddyn, gydag ymrwymiad i adeiladu 130,000 o ystafelloedd newydd mewn gwestai erbyn 2025
  • Lansio cynllun gwerth 拢250,000 i wella cysylltedd band eang mewn canolfannau cynhadledd ledled y DU
  • Hyb data twristiaeth newydd a fydd yn helpu busnesau i gael gwell dealltwriaeth o ymwelwyr tramor
  • Ffocws o鈥檙 newydd ar chwalu rhwystrau mynediad ar gyfer ymwelwyr ag anableddau

Heddiw (Dydd Gwener y 28ain o Fehefin), cyhoeddodd y Prif Weinidog y fargen gyntaf erioed ar gyfer y sector twristiaeth yn y DU, gan atgyfnerthu r么l ryngwladol y DU fel cyfrannwr allweddol i鈥檙 diwydiant.

Drwy greu Hyb Data Twristiaeth, bydd y fargen newydd yn chwyldroi鈥檙 ffordd mae data鈥檔 cael ei ddefnyddio gan y sector. Bydd yr hyb yn casglu data sy鈥檔 cael ei ddiweddaru鈥檔 rheolaidd gan ddangos y tueddiadau a鈥檙 gwariant diweddaraf, fel bod busnesau鈥檔 gallu targedu ymwelwyr o dramor yn well.

Mae鈥檙 fargen hefyd yn cynnwys cynllun gwerth 拢250,000 i wella cysylltedd band eang mewn canolfannau cynhadledd ledled y DU.

Y llynedd, ymwelodd tua 38 miliwn o bobl 芒鈥檙 DU, gan gyfrannu 拢23 biliwn i鈥檙 economi leol. Erbyn 2025, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd 9 miliwn yn ychwanegol yn ymweld 芒鈥檙 DU. Mae鈥檙 fargen newydd yn ymrwymo i adeiladu 130,000 o ystafelloedd ychwanegol mewn gwestai er mwyn ymateb i鈥檙 cynnydd hwn yn y galw am ehangu鈥檙 seilwaith.

Mae鈥檙 fargen hefyd yn amlinellu uchelgais y Llywodraeth i wneud y DU yn un o鈥檙 cyrchfannau mwyaf hygyrch ar gyfer ymwelwyr anabl, drwy wella cyfleusterau i bobl anabl a mynediad i gyrchfannau ledled y DU.

Meddai鈥檙 Prif Weinidog Theresa May:

Fel un o鈥檙 gwledydd sy鈥檔 denu鈥檙 nifer fwyaf o ymwelwyr yn y byd, mae鈥檙 DU yn arweinydd rhyngwladol mewn twristiaeth fyd-eang, felly mae鈥檔 hanfodol ein bod yn parhau鈥檔 gystadleuol er mwyn ymateb i鈥檙 galw cynyddol.

Dyna pam fy mod yn falch o gyhoeddi heddiw y fargen gyntaf erioed ar gyfer y sector twristiaeth yn y DU, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi, yn rhoi hwb i gysylltedd a chynhyrchiant economaidd, ac yn chwalu鈥檙 rhwystrau i ymwelwyr ag anableddau.

Mae鈥檙 fargen hon yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth, nawr ac i鈥檙 dyfodol, wrth dynnu sylw at yr hyn sydd gennym i鈥檞 gynnig fel gwlad.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae twristiaeth yn fusnes pwysig yng Nghymru, a鈥檔 huchelgais yw y bydd yn parhau i gynnig cyflogaeth gynaliadwy ac yn cefnogi ein heconomi genedlaethol.

Bydd y fargen hon yn golygu y bydd Cymru yn fwy hygyrch ac yn gwella鈥檙 amodau ar gyfer ymwelwyr domestig a rhyngwladol, fel y gallant fanteisio i鈥檙 eithaf ar ein golygfeydd ysblennydd a鈥檔 diwylliant Cymreig byd-enwog.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd ar gyfer y Sector Twristiaeth ar wefan y DCMS.

Lluniwyd y fargen ar gyfer y sector mewn partneriaeth ag Awdurdod Twristiaeth Prydain a鈥檙 diwydiant, ac mae鈥檔 rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi twf parhaus y sector twristiaeth ac er mwyn sicrhau bod y DU yn dal i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol fel un o鈥檙 cyrchfannau gorau yn y byd i dwristiaid.

Meddai Steve Ridgway CBE, Cadeirydd Awdurdod Twristiaeth Prydain:

Mae鈥檙 fargen hon yn mynd i drawsnewid twristiaeth, sef un o ddiwydiannau allforio mwyaf gwerthfawr y DU, gan greu newid sylweddol er gwell yn y modd rydym yn cefnogi twristiaeth. Bydd nawr ar flaen y gad fel un o鈥檙 diwydiannau pwysicaf yng nghynlluniau economaidd Llywodraeth y DU i鈥檙 dyfodol.

Bydd hefyd yn chwyldroi鈥檙 economi, gan dyfu gwerth y diwydiant a chreu mwy o gyflogaeth mewn twristiaeth, gan fynd i鈥檙 afael 芒 heriau o ran sgiliau a chynhyrchedd, ehangu鈥檙 tymor gwyliau drwy鈥檙 flwyddyn, datblygu cyrchfannau twristiaeth cryfach ar hyd a lled y DU, a chynnig profiadau bythgofiadwy ar gyfer ymwelwyr domestig a rhyngwladol.

Twristiaeth yw un o鈥檙 diwydiannau mwyaf cystadleuol yn y byd, a bydd y fargen hon yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gystadlu鈥檔 rhynwgadol fel un o鈥檙 cyrchfannau gorau ar gyfer ymwelwyr, gan yrru twf economaidd sylweddol ledled y DU i gyd.

NODIADAU I OLYGYDDION:

  • Mae nifer y gweithwyr yn y sector twristiaeth wedi cynyddu 17% ers 2011. Mae hyn yn fwy na dwbl y tueddiadau cyflogaeth cyffredinol yn y DU.
  • Yn 2018, cafwyd mwy na 940,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru. Roedd yr ymwelwyr hyn wedi gwario 拢404.6 miliwn yn 2018.
  • Ar gyfartaledd, roedd ymwelydd rhyngwladol i Gymru yn treulio 6.5 noson yma. Y cyrchfan twristaidd mwyaf poblogaidd oedd Gerddi Bodnant a Chaerdydd oedd y ddinas fwyaf poblogaidd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2019