Datganiad i'r wasg

Dathlu ardderchogrwydd busnesau Cymru yng Ngwobrau Busnes Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflwyno鈥檙 brif araith mewn digwyddiad busnes yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu cyflawniadau rhai o gwmn茂au mwyaf dynamig Cymru heno (dydd Iau, 8 Mawrth) yng Ngwobrau Busnes Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad mewn digwyddiad blynyddol y Siambrau Masnach yn Neuadd y Dref, lle bydd y busnesau gorau o Gymru, mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad i economi Cymru.

Bydd Mr Cairns yn dweud wrth y gynulleidfa:

Ers 2010, bu Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth agos 芒 Siambrau Masnach Cymru. Mae鈥檙 rhwydwaith unigryw hwn drwy鈥檙 wlad yn gyfrwng pwerus nid yn unig i hyrwyddo busnes gartref, ond er mwyn agor cyfoeth o gyfleoedd allforio o gwmpas y byd.

Fel yr ydw i鈥檔 teithio o gwmpas y wlad, rydw i鈥檔 cael fy ysbrydoli gan yr hyn yr wyf yn ei weld. Rydw i鈥檔 gweld y llwyddiannau a鈥檙 methiannau. Rydw i鈥檔 gweld yr ebyrth y mae鈥檔 eu cymryd i lwyddo; y risgiau a鈥檙 gwobrwyon 鈥� y llawenydd a鈥檙 rhwystredigaeth.

Ac mae鈥檔 llawer rhy hawdd i ganolbwyntio ar yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ac anghofio dathlu鈥檙 cynnydd sydd wedi cael ei wneud. Dyna pam y mae鈥檙 gwobrau hyn mor bwysig.

Diolch i arweinwyr busnes fel chi yw mai Cymru yw鈥檙 wlad a oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU yn ystod 2016 a Chaerdydd oedd y brifddinas a oedd yn tyfu gyflymaf.

Diolch i chi yw bod allforion Cymru gwerth dros 拢16biliwn y flwyddyn.

A diolch i chi yw bod twf economaidd yn ymwreiddio drwy鈥檙 wlad i gyd.

Eich busnesau chi yw鈥檙 peiriannau sy鈥檔 creu swyddi trwy鈥檙 wlad, ac rydw i wrth fy modd gweld eich ymdrechion a鈥檆h cyflawniadau chi yn cael eu cydnabod yma heno.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2018