Y cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed yng Nghymru
Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yn croesawu鈥檙 ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

- Mae鈥檙 lefel cyflogaeth yng Nghymru 13,000 yn uwch dros y chwarter a 31,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd cyflogaeth bellach ar ei lefel uchaf erioed, sef 74.2%, sy鈥檔 uwch na鈥檙 gyfradd uchaf flaenorol, sef 74.0%.
- Mae鈥檙 lefel diweithdra yng Nghymru 1,000 yn is dros y chwarter ac yn parhau heb newid dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd diweithdra bellach yn 4.3%.
- Mae cyfanswm cyflogaeth y DU 42,000 yn uwch dros y chwarter a 313,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd cyflogaeth bellach yn 75.6%.
- Mae cyfanswm diweithdra y DU 65,000 yn is dros y chwarter a 124,000 yn is dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd diweithdra ar ei hisaf erioed, sef 4.0%.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 ffigurau anhygoel hyn yn dangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o greu swyddi cynaliadwy ledled Cymru, sy鈥檔 parhau i dyfu bob blwyddyn.
Mae鈥檔 amlwg bod ymrwymiad diysgog Llywodraeth y DU i hyrwyddo cyfleoedd allforio ar gyfer busnesau yng Nghymru ac annog mewnfuddsoddiad o bell ac agos wedi creu amgylchedd economaidd sy鈥檔 helpu i greu mwy o swyddi a ffyniant ledled Cymru.
Er ei bod hi鈥檔 wych gweld bod lefelau diweithdra yn y DU ar eu hisaf erioed, byddaf yn parhau i ddangos cryfder economi Cymru dros y byd i gyd ac annog mewnfuddsoddiad o dramor. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gystadlu gyda鈥檙 goreuon o wledydd eraill y DU a thu hwnt.