Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru鈥檔 cyhoeddi ymweliad masnach a buddsoddi 芒 Japan

Rhoi hwb i gysylltiadau busnes rhwng y Deyrnas Unedig a Japan ar frig yr agenda yn ystod tridiau'r ymweliad

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn teithio i Japan yr wythnos hon (1-4 Awst) ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda busnesau i drafod y potensial mawr ar gyfer mewnfuddsoddi pellach yn y Deyrnas Unedig.

Daw鈥檙 ymweliad yn fuan iawn ar 么l cyfres o ymweliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol 芒 chwmn茂au Japaneaidd sydd 芒 phresenoldeb yng Nghymru yn barod. Ym mis Mehefin, ymwelodd Mr Cairns 芒 chwmni technoleg moduron Nidec yn y Drenewydd, ac ym mis Gorffennaf cyfarfu 芒 swyddogion gweithredol yn Panasonic yng Nghaerdydd, gyda鈥檙 nod o roi鈥檙 sicrwydd a鈥檙 diogelwch mwyaf posibl i fusnesau rhyngwladol a leolir yng Nghymru wrth i鈥檙 Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae fy ymweliad 芒 Japan yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i weithio鈥檔 agos gyda busnesau o bob rhan o鈥檙 byd, er mwyn dangos y potensial enfawr ar gyfer buddsoddi sydd ar gael iddynt yma, ac er mwyn sicrhau bod y rhai sydd 芒 phresenoldeb yma鈥檔 barod yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i ehangu a thyfu.

Mae cwmn茂au o Japan yn buddsoddi dros 拢40 biliwn yn y Deyrnas Unedig, ac mae ein perthynas fasnachol yn gryfach nag erioed. Rydym eisiau gweld y bartneriaeth honno鈥檔 parhau i dyfu a ffynnu.

Roeddwn i eisiau blaenoriaethu ymweld 芒鈥檙 partner masnachu pwysig hwn i anfon neges glir bod y Deyrnas Unedig yn agored ar gyfer busnes, fel y bydd bob amser.

Yn ystod ei daith, bydd Mr Cairns yn trafod cryfhau cysylltiadau economaidd rhwng y Deyrnas Unedig a Japan gyda Llysgennad Prydain i Japan, ac yn cwrdd 芒 swyddogion gweithredol o Panasonic, Sony a Toyota i gynnig y sicrwydd y bydd Cymru yn dal i fod y wlad uchelgeisiol sy鈥檔 edrych tuag allan, fel y bu erioed, ar 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn cyfarfod 芒 Hitachi - rhiant gwmni P诺er Niwclear Horizon a Hitachi Rail Europe.

Cyn mynd ar yr awyren, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y cynlluniau i ehangu un o feysydd awyr rhyngwladol prysuraf y byd. Mae Heathrow yn gweithredu fel dolen gyswllt hanfodol ar gyfer buddsoddi o鈥檙 tu allan yn y Deyrnas Unedig, a bydd Mr Cairns yn cwrdd 芒 Phrif Swyddog Gweithredol y maes awyr, John Holland-Kaye, cyn mynd ar daith o gwmpas y t诺r rheoli a鈥檙 rhedfeydd lle mae dros 200,000 o deithwyr yn esgyn ac yn glanio鈥檔 ddyddiol.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae fy ymweliad 芒 Japan yn barhad o鈥檓 hymrwymiad i ymgysylltu 芒 chwmn茂au byd-eang yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym yn falch o gael cymaint o gwmn茂au rhyngwladol yn cyflogi ein set sgiliau lleol a chyfrannu at dwf economaidd lleol.

Ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym eisiau parhau i fod yn b诺er dylanwadol ar lwyfan y byd, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sicrhau diogelwch a ffyniant.

Er mwyn tynnu sylw at y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng Japan a Chymru, bydd Mr Cairns hefyd yn traddodi araith mewn cinio i ddathlu pen-blwydd y Clwb Hiraeth yn 35 oed - gr诺p a sefydlwyd yn 1982 gan Uwch Weithredwyr a oedd yn gweithio yng Nghymru ac a ddychwelodd i Japan gyda hoffter enfawr o鈥檙 wlad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Awst 2017