Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd Chwe Gwlad Cymru

Ymgyrch i dimau Cymru yn dechrau dros y penwythnos.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Six Nations 2018

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn annog timau rygbi dynion a merched Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant yn wynebu鈥檙 Alban y penwythnos hwn (3 Chwefror).

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn werth ei gwylio, gyda miliynau o bobl o bob cwr o鈥檙 byd yn ei mwynhau dros y chwe wythnos nesaf.

Allan ar y cae, bydd pob t卯m am y gorau, yn cystadlu鈥檔 frwd. Oddi ar y cae, bydd y twrnamaint yn rhoi hwb pwysig arall i economi Cymru ac i fusnesau lleol.

Wrth i filoedd o bobl baratoi i deithio i Gaerdydd i fwynhau鈥檙 awyrgylch unigryw ar ddiwrnod g锚m, bydd gwylwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn gweld statws Cymru鈥檔 cynyddu unwaith eto fel lleoliad i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.

Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at wylio timau Cymru鈥檔 dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda鈥檜 hymgyrchoedd.

Yn dilyn y g锚m yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality, bydd dynion Cymru yn teithio i Twickenham i wynebu Lloegr, ac yna i Ddulyn i wynebu Iwerddon. Wedyn fe fyddan nhw鈥檔 croesawu鈥檙 Eidal a Ffrainc gartref yng Nghaerdydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2018