Ysgrifennydd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhagor o gamau i wella safonau lles anifeiliaid
Llywodraeth y DU yn lansio cais am dystiolaeth yn Lloegr ar wahardd gwerthu c诺n bach drwy drydydd parti

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn galw ar Weinidogion Cymru ym Mae Caerdydd i ddilyn arweiniad San Steffan ac ystyried posibilrwydd gwahardd gwerthu c诺n bach drwy drydydd parti yng Nghymru.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU lansio cais am dystiolaeth yn Lloegr heddiw (8 Chwefror) yn gofyn am safbwyntiau ar bosibilrwydd gwahardd gwerthu drwy drydydd parti, a fyddai鈥檔 golygu y bydd unrhyw un sydd eisiau prynu neu fabwysiadu ci naill ai鈥檔 delio鈥檔 uniongyrchol 芒鈥檙 bridiwr neu gyda chanolfan ailgartrefu anifeiliaid.
Mae鈥檔 rhan o becyn o ddiwygiadau sy鈥檔 cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU sydd wedi cael eu dylunio i wella safonau lles.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Mae pobl Cymru wrth eu bodd ag anifeiliaid ac mae hi鈥檔 hollbwysig ein bod yn cynnal y safonau lles anifeiliaid uchaf. Mae Llywodraeth y DU o ddifri am wella lles mewn sefydliadau bridio ac yn y mannau gwerthu i sicrhau bod ein hanifeiliaid anwes yn cael y dechrau iawn mewn bywyd.
Mae鈥檙 cais am dystiolaeth sy鈥檔 cael ei lansio heddiw yn gam arall yn nod Llywodraeth y DU i godi safonau yn Lloegr. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y dystiolaeth a gyflwynir yn ofalus ac edrych ar bosibilrwydd rhoi鈥檙 un mesurau ar waith yng Nghymru.
Wrth lansio鈥檙 cais am dystiolaeth ar waharddiad yn Lloegr, roedd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth y DU, Michael Gove, yn gwahodd pob parti sydd 芒 diddordeb i rannu eu safbwyntiau erbyn 2 Mai 2018 ar y ffordd orau o gyflwyno hyn.