Ysgrifennydd Cymru'n llongyfarch y rheini sy鈥檔 cael eu Hanrhydeddu ar Ben-blwydd y Frenhines
Mae unigolion eithriadol o bob rhan o Gymru wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.

Queen's Birthday Honours medal
Gan nodi cyflawniadau鈥檙 rheini o Gymru sy鈥檔 cael anrhydedd, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檔 bleser gennyf longyfarch a chydnabod cyflawniadau鈥檙 rheini sy鈥檔 cael Anrhydedd ar Ben-blwydd y Frenhines eleni, a hynny鈥檔 llawn haeddiannol.
Mae鈥檙 anrhydeddau hyn yn tynnu sylw at gyflawniadau eithriadol a gwaith caled y bobl anhygoel ledled Cymru sy鈥檔 mynd yr ail filltir i wella bywyd pobl eraill.
Rwy鈥檔 ddiolchgar am eu hymrwymiad a鈥檜 hymroddiad i gymunedau ym mhob cwr o Gymru a hoffwn eu llongyfarch nhw oll ar eu cyflawniadau ardderchog - rydych chi鈥檔 ysbrydoliaeth i ni gyd.
Gan longyfarch Elan Closs Stephens, a gafodd DBE am wasanaethau i Lywodraeth Cymru a Darlledu, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae Elan wedi gwneud cyfraniad eithriadol i鈥檙 gwaith o hyrwyddo鈥檙 diwydiannau creadigol a chyfryngau yng Nghymru. Gan ddangos ei hymroddiad anhygoel, mae ymrwymiad oes Elan i wasanaethau cyhoeddus ac arweinyddiaeth hynod effeithiol wedi golygu mai ati hi mae llywodraethau鈥檔 troi pan ddaw materion cymhleth i鈥檙 wyneb.
Mae hi鈥檔 fodel r么l bythol ac yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Hoffwn ei llongyfarch o waelod fy nghalon ar yr anrhydedd llawn haeddiannol hwn.
Gan longyfarch Rachel Clacher, sylfaenydd Moneypenny, ar ei CBE am wasanaethau i fusnes a phobl ifanc dan anfantais, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Gan arwain y ffordd gyda dull moesegol o wneud busnes, nid yn unig y mae Rachel wedi sefydlu un o鈥檙 busnesau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, mae hi hefyd wedi datblygu elusen wedi鈥檌 hanelu at ferched ifanc dan anfantais, 鈥榃e Mind the Gap鈥�.
Mae ei hymrwymiad i roi cyfleoedd gyrfa i ferched o gefndir heriol, a thyfu busnes gwerth miliynau ar yr un pryd, yn dangos ei hymroddiad i helpu pobl eraill ac ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy鈥檔 ferched. Rwy鈥檔 falch iawn o鈥檌 chyflawniadau ac yn ei llongyfarch o waelod fy nghalon ar yr anrhydedd llawn haeddiannol hwn.
Gan longyfarch William Gareth Davies ar ei MBE am wasanaethau i鈥檙 gymuned ym Merthyr Tudful, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Fel un o鈥檙 aelodau a sefydlodd Cymdeithas Bysgota Merthyr Tudful, mae William wedi chwarae rhan hollbwysig yn troi鈥檙 Afon Taf, a oedd wedi鈥檌 llygru, yn hafan bysgota o safon ryngwladol. Gan roi 50 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i鈥檙 gymdeithas, mae angerdd William dros welliant parhaus y dyfrffyrdd o gwmpas Cymoedd Merthyr wir yn ysbrydoliaeth.
Mae鈥檔 anrhydedd mawr cael llongyfarch William ar ei waith a鈥檌 ymrwymiad anhygoel i roi blaenoriaeth i fywyd pobl eraill dros ei fywyd ei hun.