Ysgrifennydd Cymru yn trafod Brexit gyda Phanel Arbenigwyr yr UE
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn cyfarfod 芒鈥檌 Banel Arbenigwyr yng Nghaerdydd i drafod yr heriau a鈥檙 cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit.

Bydd cynrychiolwyr o fusnesau, awdurdodau lleol, y byd amaeth a鈥檙 trydydd sector yng Nghymru yn dod at ei gilydd i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer Brexit yn ogystal 芒鈥檜 prif bryderon. Wrth i鈥檙 negodi fynd rhagddo, mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, wedi parhau yn ymrwymedig i gael y sgyrsiau hollbwysig hyn, gan sicrhau bod ei drafodaethau yn Whitehall yn cael eu llywio gan safbwyntiau pob sector o economi Cymru.
Bydd y cyfarfod yn adeiladu ar sgyrsiau blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar sut y dylid defnyddio pwerau blaenorol yr UE i helpu Cymru i ffynnu mewn byd ar 么l Brexit. Gan ganolbwyntio ar ddyfodol ffyniant Cymru, mae鈥檙 Papur Gwyn ar berthynas y Deyrnas Unedig 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, parodrwydd gweithredol a hysbysiadau technegol ar frig yr agenda.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Er mwyn cael Brexit trefnus a didrafferth sy鈥檔 fanteisiol i Gymru, mae鈥檔 hanfodol ein bod ni鈥檔 parhau i gael sgyrsiau agored a gonest 芒鈥檙 arbenigwyr ynghylch y pryderon a鈥檙 cyfleoedd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Brexit yn eu priod sectorau.
Mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod ers i鈥檙 Panel Arbenigwyr gyfarfod ddiwethaf. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi鈥檙 Papur Gwyn ar y Cytundeb Ymadael, y papur ar berthynas y DU 芒鈥檙 UE yn y dyfodol a鈥檙 ddau swp cyntaf o hysbysiadau technegol, yn rhoi gwybod i fusnesau a dinasyddion sut y dylent fwrw ati yn yr achos annhebygol na fydd cytundeb Brexit. Mae鈥檙 negodi bellach ar gam tyngedfennol, ac mae鈥檔 bwysicach nag erioed i ni ymgysylltu 芒鈥檙 partneriaid allweddol hyn i sicrhau bod pob rhanbarth yn y DU a phob sector yn cael llais sydd wrth wraidd y llywodraeth.
Gyda鈥檙 lefelau cyflogaeth ar eu huchaf erioed a鈥檙 economi鈥檔 mynd o nerth i nerth, mae鈥檔 amlwg ein bod ni鈥檔 parhau i ddenu buddsoddiad yng Nghymru. Ond i sicrhau nad yw鈥檙 hyder hwn yn ein gallu ni yn mynd yn angof wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, fy ngwaith i yw rhoi sicrwydd i鈥檙 rheini sy鈥檔 sbarduno economi Cymru.