Ysgrifennydd Cymru: Ymestyn maes awyr yw'r cam cywir i Gymru
Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar y cynnig terfynol ar gyfer ehangu Heathrow

Alun Cairns in the air traffic control tower at Heathrow Airport
Heddiw (dydd Mawrth, 5 Mehefin) mae Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi鈥檙 cynigion terfynol i gefnogi ehangu Heathrow - gan symud Prydain gam sylweddol yn nes at ragor o hediadau, rhagor o swyddi a rhagor o dwf economaidd.
Gan nodi carreg filltir bwysig wrth adeiladu Prydain fyd-eang, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi鈥檙 Datganiad Polisi Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer Meysydd Awyr, gan gefnogi ehangu Heathrow drwy ddatblygu rhedfa newydd yng ngogledd orllewin y maes awyr.
Byddai rhedfa newydd yn Heathrow yn dod 芒 manteision go iawn i bobl ledled Cymru. Byddai鈥檔 golygu bod mwy o le i hedfan o feysydd awyr ledled y Deyrnas Unedig i Heathrow, a chysylltiadau oddi yno 芒鈥檌 gyrchfannau pell.
Byddai鈥檔 golygu rhagor o ddewis o gwmn茂au hedfan yn Heathrow a chyrchfannau rhyngwladol i bobl sy鈥檔 mynd ar wyliau, yn ymweld 芒 ffrindiau neu deulu neu鈥檔 teithio i gynnal busnes. Disgwylir hefyd i鈥檙 gystadleuaeth gynyddol yn y maes awyr ostwng prisiau i deithwyr.
Y bwriad yw y bydd Western Rail Link yn rhoi llwybr rheilffordd cyflymach i deithwyr sy鈥檔 teithio i Heathrow o dde Cymru heb orfod mynd i Lundain.
Ar draws y wlad, byddai ehangu yn darparu buddion o hyd at 拢 74 biliwn i deithwyr a鈥檙 economi ehangach ac yn creu degau ar filoedd o swyddi lleol. Bydd yn cysylltu鈥檙 Deyrnas Unedig yn well 芒 gweddill y byd, gyda 16 miliwn yn rhagor o seddi ychwanegol ar gael erbyn 2040.
Heathrow yw maes awyr mwyaf y Deyrnas Unedig yn barod o ran teithwyr a nwyddau, a bydd Rhedfa鈥檙 Gogledd Orllewin bron yn dyblu gallu鈥檙 maes awyr i gludo nwyddau, gan ganiat谩u i fusnesau ledled y wlad gynyddu eu hallforion a manteisio ar gwsmeriaid byd-eang newydd.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檌 gilydd i sicrhau bod Cymru鈥檔 chwarae rhan allweddol yng nghadwyn gyflenwi鈥檙 maes awyr. Y mis diwethaf, traddododd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, anerchiad i gynrychiolwyr o Faes Awyr Heathrow yng ngogledd Cymru fel rhan o ymgyrch i ddod ag un o bedair canolfan logisteg Heathrow i Gymru. Bydd hefyd yn cwrdd 芒 busnesau bach a chanolig o Gymru yn yr Uwchgynhadledd Busnes Heathrow nesaf yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, lle bydd modd iddyn nhw ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yng nghanolbwynt teithio prysuraf y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ehangu Heathrow yn anfon neges glir am ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol Prydain.
Maen nhw鈥檔 gynlluniau sydd wedi cael fy nghefnogaeth lawn o鈥檙 cychwyn cyntaf. O ganolbwyntiau logisteg i gyfleoedd cadwyn gyflenwi, mae gan Gymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno un o鈥檙 ymdrechion seilwaith mwyaf cyffrous a welwyd ym Mhrydain ers cenedlaethau.
Drwy ehangu Heathrow, gallwn gysylltu pob rhanbarth o Brydain 芒鈥檙 economi fyd-eang - gan ddangos ein bod ni鈥檔 agored i fusnes, yn hyderus ynghylch pwy ydym ni fel gwlad, ac yn barod i fasnachu 芒 gweddill y byd.
Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:
Mae ehangu Heathrow yn gyfle unigryw i roi hwb gwerth biliynau o bunnoedd i鈥檔 heconomi, cryfhau ein cysylltiadau byd-eang a chynnal ein safle fel arweinydd byd-eang o ran hedfan.
Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Deyrnas Unedig barhau i fod yn un o鈥檙 gwledydd mwyaf allblyg ac sy鈥檔 meddu ar y cysylltiadau gorau posibl 芒鈥檙 byd, a thrydedd rhedfa yn Heathrow yw鈥檙 dewis gorau i gyflawni hyn.
Rydym wedi gwrando ar sylwadau drwy ein hymgynghoriadau, a byddwn yn sicrhau pecyn o fesurau o鈥檙 radd flaenaf i helpu cymunedau lleol a allai gael eu heffeithio gan yr ehangiad.
Mae鈥檙 Datganiad Polisi yn ystyried adborth gan y cyhoedd a鈥檙 diwydiant ac argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trafnidiaeth i sicrhau y bydd ehangu meysydd awyr yn Ne Ddwyrain Prydain yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy鈥檔 gost-effeithlon, yn gynaliadwy ac yn sicrhau鈥檙 budd mwyaf i deithwyr.
Bydd Heathrow yn cael ei gyllido鈥檔 breifat, ac ni fydd cost i drethdalwyr. Er mwyn sicrhau bod yr ehangu鈥檔 cael ei gyflwyno gyda buddiannau defnyddwyr wrth wraidd y cyfan, mae鈥檙 Llywodraeth wedi gofyn i鈥檙 Awdurdod Hedfan Sifil sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn fforddiadwy wrth ddiwallu anghenion teithwyr.
Er mwyn gwarchod yr amgylchedd, ni fyddai caniat芒d cynllunio yn cael ei roi oni bai bod y rhedfa newydd yn cael ei chyflawni o fewn rhwymedigaethau ansawdd aer presennol.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gan y Senedd y cyfle i ddadlau a phleidleisio ar y Datganiad Polisi.