Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn adleisio鈥檙 cais i gwmn茂au yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd masnachu gyda鈥檙 Dwyrain Canol

Taith fasnach Alun Cairns i Qatar.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn teithio i鈥檙 Dwyrain Canol heddiw i gael cyfres o gyfarfodydd gyda buddsoddwyr yn Qatar i drafod y cyfleoedd masnachol niferus y gall Cymru eu cynnig, fel rhan o Brydain sy鈥檔 gref yn fyd-eang.

Bydd Mr Cairns yn cwrdd 芒 Phrif Swyddog Gweithredol Qatar Airways HE Akbar Al Baker, a gadarnhaodd yn gynharach y mis hwn y bydd gwasanaeth y cwmni o Gaerdydd i Doha yn dechrau ar 1 Mai 2018. Yna bydd yn westai i gynulleidfa o uwch aelodau o Gymdeithas Gw欧r Busnes Qatar cyn cyfarfod gyda cwmni buddsoddi Qatari Diar i drafod buddsoddiadau busnes cyfredol a sydd 芒 photensial iyn y dyfodol yn y DU.

I orffen ei daith brysur, Mr Cairns fydd Gwestai Anrhydeddus Llysgennad Prydain yn arddangosfa鈥檙 Red Arrows yn Qatar fel rhan o daith i鈥檙 Dwyrain Canol i hybu cysylltiadau hirsefydlog y Deyrnas Unedig ar draws y Gwlff.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn ymroddedig iawn i feithrin ymgysylltiad, partneriaethau a chyfleoedd masnachol cryfach gyda Qatar. Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio鈥檔 agos gyda Qatar Airways i sicrhau鈥檙 llwybr awyr arloesol hwn i鈥檙 Dwyrain Canol o Gymru. Rwy鈥檔 benderfynol o gyfeirio鈥檙 cysylltiadau masnachol rhwng Cymru a Qatar i鈥檙 lefel nesaf.

Dyna pam fy mod yn ymweld 芒鈥檙 partner masnachu pwysig hwn heddiw. O deithiau masnach y llywodraeth i鈥檙 cyfleoedd y bydd y gwasanaeth dyddiol newydd o Gaerdydd i Doha yn eu cyflwyno, rwyf eisiau i Gymru fod yn y sefyllfa orau i fanteisio ar bob cyfle sydd gennym i gynyddu buddsoddiad o鈥檙 Dwyrain Cymru yng Nghymru.

Qatar yw trydedd farchnad allforio fwyaf y DU yn y Dwyrain Canol eisoes ac mae hefyd yn gyfrifol am 拢35 biliwn o fuddsoddiad presennol yn y DU. Mae masnach ddwyochrog yn werth mwy na 拢5 biliwn y flwyddyn ac mae鈥檙 berthynas rhwng y ddwy wlad yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Mr Cairns鈥� visit is part of a series of international missions taken by senior government ministers to showcase the UK鈥檚 commitment to forming even stronger global economic, investment and security ties as we prepare to leave the EU.

Mae ymweliad Mr Cairns yn rhan o gyfres o deithiau rhyngwladol gan uwch weinidogion llywodraeth y DU i arddangos ymrwymiad y DU i ffurfio cysylltiadau economaidd, buddsoddi a diogelwch rhyngwladol cryfach fyth wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ymunodd hefyd 芒 Phrif Weinidog y DU yn y Fforwm Buddsoddi mwyaf a gynhaliwyd erioed rhwng Qatar a鈥檙 DU ym Mhrydain yn Birmingham yn gynharach eleni lle pwysleisiodd y cynnig unigryw sydd gan Gymru i ddarpar fewnfuddsoddwyr o鈥檙 Dwyrain Canol.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Ar adeg pan mae鈥檙 DU yn trafod partneriaeth newydd, ddofn ac arbennig gyda鈥檙 Undeb Ewropeaidd, mae鈥檔 parhau i edrych allan i weddill y byd.

Rydym yn awyddus i gael cysylltiad agosach gyda鈥檙 rhannau hynny o鈥檙 economi fyd-eang sy鈥檔 tyfu gyflymaf ac sy鈥檔 fwyaf dylanwadol - ac mae鈥檔 amlwg bod Gwladwriaethau鈥檙 Gwlff ar y rhestr honno. Mae Qatar yn chwarae rhan flaenllaw fel un o鈥檙 econom茂au sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y byd a鈥檙 wlad fwyaf cystadleuol yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Yr unig lwybr sicr i lwyddiant yw dangos ymroddiad parhaol i wlad sydd 芒 photensial enfawr a chynyddol; sy鈥檔 gwerthfawrogi ei chysylltiadau cyfeillgar a hanesyddol 芒鈥檙 DU; ac sy鈥檔 cynnal dyhead cryf i weld y berthynas honno鈥檔 datblygu ymhellach ac yn broffidiol.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi鈥檜 nodi fel darpar fewnfuddsoddwyr a chynnwys copi o ganllaw allforio pwrpasol.

Mae Canllaw Allforio Cymru yn cyflwyno鈥檙 amrediad llawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae鈥檔 cynnwys stor茂au ysbrydoledig am gwmn茂au o Gymru sy鈥檔 allforio鈥檔 llwyddiannus.

Mae鈥檙 holl wybodaeth sydd ei hangen ar gwmn茂au yng Nghymru ar gael

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae Prif Weinidog y DU wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu鈥檙 cysylltiadau presennol rhwng y DU a鈥檙 Gwlff. Yn ystod ei hymweliad i Gyngor Cydweithredu鈥檙 Gwlff (GCC) yn Bahrain ym mis Rhagfyr y llynedd, fe fynegodd y Prif Weinidog ei hymrwymiad i bartneriaeth wirioneddol rhwng y DU a Qatar sy鈥檔 cwmpasu diogelwch ac amddiffyn yn ogystal 芒 masnach.
  • Yn 2015 cyfanswm allforion y DU i Qatar oedd 拢2.6 biliwn, gyda gwerth 拢2.7 biliwn o allforion o Qatar i鈥檙 DU.
  • Mae Gweledigaeth Genedlaethol Qatar 2030 yn creu potensial arwyddocaol i鈥檙 dyfodol fel cynllun datblygiad cymdeithasol ac economaidd Qatar ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae鈥檔 ceisio adeiladu pont rhwng y presennol a鈥檙 dyfodol ac yn ceisio symud Qatar ymlaen drwy amrywio ei heconomi oddi wrth olew a nwy a chanolbwyntio ar ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a dynol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Medi 2017