Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ysu i gychwyn Marathon Llundain

Alun Cairns yn paratoi i redeg ei seithfed marathon ym mhrifddinas Lloegr

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn paratoi at redeg Marathon Llundain am y seithfed tro ddydd Sul (22 Ebrill).

Croesodd Mr Cairns y llinell derfyn fel y Gweinidog Cabinet cyflymaf a鈥檙 ail o blith Aelodau Seneddol yn ras y llynedd, gan gwblhau鈥檙 cwrs 26.2 milltir mewn 3 awr 36 munud.

Mae ei amser personol gorau o 3:28:02 yn 2016 yn ei osod yn y seithfed safle ar y rhestr o鈥檙 rhedwyr cyflymaf erioed o blith Aelodau Seneddol.

Eleni bydd Ysgrifennydd Cymru鈥檔 codi arian ar gyfer NSPCC Cymru ac Atal y Fro, elusen cymorth i fenywod sy鈥檔 ymroi i gael gwared 芒 thrais domestig.

Dywedodd Alun Cairns:

Rydw i bob amser yn cael fy ysbrydoli gan resymau pobl dros wisgo鈥檜 hesgidiau rhedeg a mynd i鈥檙 afael ag un o鈥檙 cyrsiau enwocaf yn y byd.

Beth bynnag fo鈥檙 rheswm, gosod amser personol gorau newydd, codi arian ar gyfer elusen sy鈥檔 bwysig i chi neu gofio am rywun arbennig, mae鈥檔 rhywbeth sy鈥檔 cynnal eich cymhelliant drwy fisoedd caled o hyfforddi a phwysau meddyliol a chorfforol y ras ei hun.

Edrychaf ymlaen at ymuno 芒 miloedd o redwyr o bob gallu a fydd yn cymryd rhan i godi arian ar gyfer dau achos teilwng, a gobeithio y cawn heulwen ar hyd y ffordd!

Nodiadau i olygyddion:

  • I gyfrannu at yr elusennau a ddewiswyd gan Mr Cairns

ENDS

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Ebrill 2018