Ysgrifennydd Cymru: Gadewch i ni droi Cymru鈥檔 wlad arloesol
Heddiw (6 Tachwedd), mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi galw鈥檔 glir ar fusnesau Cymru, yn eu hannog i fanteisio ar gymorth Llywodraeth y DU a mentro i fyd arloesi.

Innovation
Mae Innovate UK yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau o amgylch y DU i gyflwyno rhaglen beilot newydd ar gyfer benthyciadau arloesi.
Daeth yr Ysgrifennydd Gwladol i鈥檙 digwyddiad yn Tramshed Tech Caerdydd heddiw, lle galwodd ar y 200 a mwy o gynrychiolwyr busnesau a oedd yn yr ystafell i fynd ati i ddangos egni i arloesi a gwneud cais am gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Bydd Benthyciadau Arloesi yn cynnig cyllid fforddiadwy, amyneddgar a hyblyg ar gyfer ymchwil sy鈥檔 cyrraedd camau aeddfed a phrosiectau datblygu sydd 芒 llwybr clir at lwyddiant masnachol.
Bydd Innovate UK yn cyhoeddi benthyciadau drwy gystadlaethau yn y dyfodol ac yn eu cynnig i fusnesau bach a chanolig sy鈥檔 troi o amgylch twf sy鈥檔 gallu dangos y canlynol:
- Bod ganddynt brosiect arloesi o ansawdd uchel
- Byddant yn gallu fforddio鈥檙 taliadau llog a鈥檙 ad-daliadau ar fenthyca
- Bod angen cymorth y sector cyhoeddus arnynt gan nad ydynt yn gallu cael gafael ar gyllid ar delerau masnachol safonol ar gyfer y prosiect
Dywedodd Alun Cairns:
Nid yn unig mae arloesi鈥檔 gallu creu chwyldro o ran y ffordd rydyn ni鈥檔 byw ein bywydau ond hefyd gall gynnig cyfleoedd gwych i fusnesau fanteisio arnynt a thyfu.
Mae hyd a lled y prosiectau arloesol ac ysbrydoledig y mae Llywodraeth y DU yn eu cefnogi bob amser yn fy syfrdanu. Gan gynnwys yma yng Nghymru.
O geir sy鈥檔 cael eu pweru gan hydrogen ym Mhowys i gyllid i adeiladu鈥檙 swyddfa gyntaf yn y DU sy鈥檔 creu mwy o b诺er na鈥檙 hyn mae鈥檔 ei ddefnyddio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cyllid Innovate UK yn helpu i roi lle canolog i Gymru yn yr arloesi newydd sy鈥檔 newid y ffordd rydym yn gwneud busnes a鈥檙 ffordd rydym yn byw, a chael rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu atebion ar gyfer yfory.
Ond mae llawer iawn mwy o botensial ymhlith ein cymuned fusnes sy鈥檔 aros am gael ei wireddu. Rwy鈥檔 annog busnesau bach a chanolig Cymru i fentro, i gael yr egni i arloesi a chanfod y cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i wneud hynny.