Ysgrifennydd Cymru yn talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog ym Maes Coffa Cymru
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cofio cyfraniad Lluoedd Arfog Prydain pan fydd Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yn agor yng Nghaerdydd heddiw.
Remembrance
Bydd Mr Cairns yn cyflwyno鈥檙 Anogaeth yn Gymraeg ac yn talu teyrnged i gofio am yr holl bobl a fu farw yn ystod y rhyfel drwy osod croes bren gyda鈥檌 deyrnged bersonol ei hun arni.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid. Bydd pobl Cymru yn cofio鈥檔 anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.
Bydd yn anrhydedd ac yn fraint cael cyfle i dalu fy nheyrnged bersonol fy hun ym Maes Coffa Cymru, a chofio am y rheini a fu鈥檔 ymladd - ac sy鈥檔 dal i ymladd - gan wasanaethu ein cenedl ar draws y byd.