Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol cefnogaeth Lluoedd Arfog y DU ym mrwydr Cymru鈥檔 erbyn y coronafeirws
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn cydnabod cyfraniad Lluoedd Arfog y DU wrth ymateb i COVID-19

The Army in Wales is training 60 soldiers to prepare to support the Welsh Ambulance Services NHS Trust (WAST) in the battle against COVID-19. MOD Crown Copyright.
Mae r么l person茅l y lluoedd arfog mewn ymateb parhaus i COVID-19 ledled Cymru wedi cael ei chanmol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart. Yr wythnos hon, dechreuodd y Fyddin yng Nghymru hyfforddi gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym Mhontsenni, y Canolbarth i gynorthwyo parafeddygon.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae lluoedd arfog y DU yn cefnogi gwaith hanfodol ein GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol a hoffwn ddiolch i bawb sy鈥檔 gweithio i daclo鈥檙 coronafeirws yng Nghymru.
Mae鈥檙 fyddin yn darparu cymorth ac arbenigedd ychwanegol i Lywodraeth Cymru, ein gwasanaethau ambiwlans a鈥檙 GIG. Mae person茅l ein lluoedd arfog yn dangos ymrwymiad anhunanol ac yn gwneud gwaith gwych ar yr adeg hynod anodd hon. Yr wyf yn ostyngedig gan eu hymdrechion ac yn eu diolch yn dragwyddol am eu cefnogaeth.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn James Heappey:
Rydyn ni鈥檔 falch o gefnogi ein gwasanaethau brys, staff rheng flaen y GIG a chynghorau ledled Cymru yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
P鈥檜n a yw鈥檔 cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu鈥檔 helpu i adeiladu capasiti ysbyty newydd, mae milwyr, morwyr, awyrenwyr ac awyrenwragedd o bob rhan o鈥檙 DU yn barod i helpu gyda beth bynnag sy鈥檔 ofynnol i ni yng Nghymru.
Mae cymorth y lluoedd arfog i fynd i鈥檙 afael 芒 COVID-19 yng Nghymru yn cynnwys:
- Mae鈥檙 fyddin yng Nghymru yn hyfforddi 60 o filwyr i baratoi i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Bydd gofyn i yrwyr ambiwlans milwrol ymateb i argyfyngau, helpu鈥檙 parafeddygon 芒 thasgau anghlinigol a gyrru鈥檙 ambiwlansys pan fydd angen.
- Mae person茅l cynllunio a chyswllt milwrol yn cael eu lleoli ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru, Caerdydd, y pedwar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a鈥檙 saith Bwrdd Iechyd Lleol.
- Mae Timau Asesu Milwrol wedi cefnogi datblygiad ysbytai maes gan y GIG yng Nghymru, gan gynnwys yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
- Mae person茅l y lluoedd arfog sy鈥檔 dod o bob un o鈥檙 tri gwasanaeth wedi bod yn hyfforddi i yrru tanceri ocsigen yn y cyfleuster Air Products ym Mhort Talbot er mwyn cefnogi鈥檙 GIG.
- Mae hyd at 10,000 o berson茅l wedi鈥檜 gosod ar lefel parodrwydd uwch ledled y DU, felly maent yn gallu cynorthwyo 芒鈥檙 gwaith o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn ar ben y 10,000 a ddelir eisoes ar barodrwydd uwch.
- Mae mesurau wedi鈥檜 cymryd i鈥檞 gwneud yn bosibl i alw milwyr wrth gefn, pe bai angen iddynt ymuno 芒鈥檙 ymdrech i ymateb.