Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Araith y Frenhines yn dangos ein penderfyniad i helpu鈥檙 rhai sydd eisiau gweithio鈥檔 galed.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi ymateb i raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines heddiw [8 Mai 2013].

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dengys araith heddiw bod y Llywodraeth hon yn benderfynol o wobrwyo gwaith caled a鈥檌 gwneud yn haws i fusnesau ffynnu. Ers mis Mai 2010, mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi dangos ei hymrwymiad i wneud economi鈥檙 DU yn fwy cystadleuol a helpu i ddatgloi talentau ein pobl ar y cyd.

Bydd llawer o鈥檙 mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud llawer i helpu busnesau yng Nghymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru. Yn benodol, bydd y Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy dorri cost recriwtio gweithwyr newydd, tra bydd y Bil Dadreoleiddio yn torri biwrocratiaeth i helpu busnesau Cymreig i dyfu.

Mae鈥檙 rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cynnwys:

  • tynhau deddfau mewnfudo i gryfhau ein pwerau gorfodi ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus rhag cael eu camddefnyddio;

  • Rhoi mwy o rym i鈥檙 Heddlu fynd i鈥檙 afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, c诺n peryglus a throseddau gyda drylliau;

  • helpu rhieni sy鈥檔 gweithio gyda chostau gofal plant; a

  • diwygio鈥檙 system bensiynau hynod gymhleth drwy gyflwyno un gyfradd safonol o Ebrill 2016.

Ychwanegodd Mr Jones:

Yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyrdd y llynedd, bydd Bil Cymru drafft yn symud Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dymor penodol o bedair blynedd i dymor penodol o bum mlynedd, gan ei gwneud yn llai tebygol y bydd etholiadau鈥檙 Cynulliad yn cyd-daro ag etholiadau seneddol yn y dyfodol. Bydd y bil hefyd yn rhoi mwy o ddewis i ymgeiswyr drwy ddychwelyd eu hawl i sefyll ar restrau etholaethol a rhanbarthol yn ystod etholiadau鈥檙 Cynulliad. Yn ogystal, bydd y bil yn sicrhau na all Aelodau鈥檙 Cynulliad fod yn Aelodau Seneddol ar yr un pryd.

Yn gyffredinol, mae rhaglen heddiw yn arwydd clir o gefnogaeth i鈥檙 rhai sydd eisiau symud ymlaen, yn dyheu am fwy, ac nad ydynt ofn gwaith caled er mwyn ei gael.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Mai 2013 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.