Ysgrifennydd Cymru yn dathlu dewrder a chyfraniad y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Bydd Alun Cairns yn traddodi鈥檙 brif araith ac yn cyflwyno Gwobr y Lluoedd Arfog mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Bydd gwaith caled ac ymroddiad y dynion a鈥檙 menywod yng Nghymru sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a鈥檙 rhai sy鈥檔 eu cefnogi鈥檔 cael ei gydnabod yng Ngwobrau鈥檙 Lluoedd Arfog yng Nghymru heddiw (Tachwedd 30).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn traddodi鈥檙 brif araith ac yn cyflwyno prif wobr y noson yn y digwyddiad pwysig hwn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae鈥檙 gwobrau鈥檔 anrhydeddu cyflawniadau a phroffesiynoldeb dynion a menywod y Lluoedd Arfog, yn ogystal 芒 chyflogwyr ac unigolion sy鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i gefnogi person茅l y Lluoedd Arfog.
Y gwobrau yw:
- Chwaraeon
- Ieuenctid a Chadetiaid
- Cyfamod y Lluoedd Arfog
- Gwobr y Lluoedd Arfog
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi amddiffyn wrth galon ei gweledigaeth ar gyfer Prydain Fyd-eang. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog, yn 2018, yn cael ei gynnal yn Llandudno a鈥檙 cyffiniau, ym mwrdeistref Conwy, Gogledd Cymru. A chyda 2,000 o filwyr a dros 1,000 o sifiliaid sy鈥檔 gweithio i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn wedi鈥檜 lleoli yma, mae Cymru鈥檔 ganolog i Amddiffyn y DU.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
O feysydd y gad yn Fflandrys i anialdiroedd Afghanistan, mae aelodau o Gymru wedi gwasanaethu鈥檙 lluoedd arfog gyda dewrder ac ymroddiad ers can mlynedd a mwy.
Mae Gwobrau鈥檙 Lluoedd Arfog yng Nghymru鈥檔 gyfle i ni i ddangos ein gwerthfawrogiad a鈥檔 balchder yn ein milwyr, llongwyr a pherson茅l awyr sy鈥檔 aberthu cymaint dros eraill.
Mae ein diolchgarwch yn ymestyn hefyd i鈥檙 teuluoedd a鈥檙 ffrindiau maent yn eu gadael ar 么l ond sydd hefyd yn cyfrannu cymaint. Mae鈥檔 fraint i mi gael y cyfle i ddathlu eu cyfraniad amhrisiadwy wrth iddynt amddiffyn ein cenedl ac mae鈥檔 anrhydedd cael bod yma yn eu cwmni heno.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog.
Mae Gwobr y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) yn cydnabod cyflogwyr sy鈥檔 cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn ymarferol yn eu gweithleoedd ac sydd hefyd yn annog eraill i ddilyn yr un trywydd.
Ychwanegodd Mr Cairns:
Mae鈥檙 cwmn茂au sydd wedi鈥檜 henwebu heno wedi dangos ymroddiad neilltuol i gefnogi aelodau鈥檙 Lluoedd Arfog, cyn aelodau鈥檙 Lluoedd Arfog, a鈥檜 teuluoedd.
Maent wedi cymryd camau ymarferol i sicrhau nad yw鈥檙 gymuned Amddiffyn o dan anfantais o ganlyniad i鈥檞 haberth i helpu i wneud ein gwlad yn ddiogel. Mae gweithredoedd y cyflogwyr hyn yn dangos yn glir i ni fod cyflogi pobl 芒 sgiliau milwrol yn dda i fusnes, beth bynnag fo鈥檜 maint, eu lleoliad neu eu sector.